Y Llywodraeth a Phlaid Cymru yn cyhoeddi cynllun ar y cyd ar gyfer Gadael yr UE

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 23 Ionawr, cyhoeddodd y Llywodraeth a Phlaid Cymru bapur gwyn, sef Diogelu Dyfodol Cymru, yn gosod cynigion ar gyfer perthynas Cymru â’r UE yn y dyfodol. Cefnogwyd y papur hefyd gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Cyhoeddwyd y papur yn dilyn araith Prif Weinidog y DU yn Lancaster welshflagsHouse ar 17 Ionawr, pan amlinellwyd 12 amcan ar gyfer trafodaethau’r DU â’r UE.

Mae papur gwyn y Llywodraeth a Phlaid Cymru yn gosod cynigion ar gyfer chwe maes allweddol:

  • Y Farchnad Sengl;
  • Masnach rhyngwladol;
  • Mudo;
  • Cyllid a buddsoddi;
  • Materion cyfansoddiadol a datganoledig;
  • Trefniadau gwarchod cymdeithas ac amgylchedd Cymru, ynghyd â’i gwerthoedd;
  • Trefniadau trosiannol.

Mae’r papur gwyn yn galw i Gymru, a’r DU o ganlyniad, gael mynediad llawn i’r Farchnad Sengl. O ran mudo, mae’r papur yn nodi y dylai rhyddid pobl o’r UE i symud i Gymru fod yn gysylltiedig â chyflogaeth yn y dyfodol, ac eithrio myfyrwyr a’r rheini a all gynnal eu hunain.

Mae’r Llywodraeth a Phlaid Cymru yn galw am adolygiad o’r Grant Bloc y mae Cymru yn ei dderbyn gan y DU, ac i’r grant hwnnw gynnwys cyllid y byddai Cymru wedi ei dderbyn gan yr UE pe bai’r DU wedi aros yn rhan o’r Undeb.

Mae’r papur gwyn hefyd yn nodi bod Brexit yn drobwynt cyfansoddiadol enfawr i Gymru ac i’r DU. Mae’n galw i wneud trefniadau a strwythurau rhyng-lywodraethol newydd yn y DU a fyddai’n caniatáu i’r sefydliadau datganoledig a Llywodraeth y DU ddod i gytundebau ar y cyd ar faterion polisi allweddol megis amaethyddiaeth. Mae’r papur gwyn yn dadlau y dylai Cymru fod yn wyliadwrus i sicrhau bod hawliau gweithwyr a safonau amgylcheddol yn cael eu gwarchod yn dilyn Brexit.

Yn olaf, mae’r papur gwyn yn nodi y dylai Llywodraeth y DU ddod i gytundeb pontio fel mater o flaenoriaeth er mwyn osgoi’r anhrefn a allai godi pe bai’r DU yn gadael yr UE yn ddisymwth, a hynny heb i berthynas newydd y DU a’r holl faterion eraill gael eu trefnu o fewn dwy flynedd.

Er bod rhai meysydd nad yw Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cytuno arnynt, mae Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, wedi nodi (PDF 378KB) ei fod yn credu y gellid cymodi:

You could still deliver a great deal of what we say is essential to Wales within the terms of what the Prime Minister had to say, but you do have to work quite hard to reconcile the two. But in order to be influential, sometimes you have to bridge positions. You have to try and demonstrate that what we want to achieve and what the Prime Minister said don’t have to be irreconcilable.

Cynhaliwyd Cyd-bwyllgor y Gweinidogion rhwng Prif Weinidog y DU, Prif Weinidog Cymru, Prif Weinidog yr Alban ynghyd ag arweinwyr o Blaid yr Unoliaethwyr Democrataidd yng Ngogledd Iwerddon a Sinn Féin, yng Nghaerdydd ar 30 Ionawr. Dyma’r cyfarfod cyntaf a gynhaliwyd ers i Lywodraeth y DU amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer trafodaethau’r DU i adael yr UE. Nododd Llywodraeth Cymru y byddai Prif Weinidog Cymru yn manteisio ar y cyfle yn y cyfarfod i annog Prif Weinidog y DU i ddefnyddio papur gwyn Llywodraeth Cymru fel man cychwyn yn nhrafodaethau’r DU i adael yr UE. Yn y datganiad a gyhoeddodd Llywodraeth y DU yn dilyn y cyfarfod, dywedwyd:

Consideration of the proposals of the devolved administrations is an ongoing process. Work will need to be intensified ahead of triggering Article 50 and continued at the same pace thereafter.

Bydd Prif Weinidog Cymru yn bresennol yng nghyfarfod Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad ar 6 Chwefror er mwyn trafod cynigion Llywodraeth Cymru. Bydd y papur gwyn hefyd yn cael ei drafod gan y Cynulliad ar 7 Chwefror.


Erthygl gan Nia Moss, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru