Beth fydd y ffioedd newydd ar gyfer cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Llun o flickr gan Ilmicrofono Oggiono. Trwydded Creative Commons.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu pleidleisio ar Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017 yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 31 Ionawr 2017. Mae’r cofnod blog hwn yn sôn am gefndir Cyngor y Gweithlu Addysg a’r hyn y mae’r rheoliadau’n ei gynnwys.

Cefndir Cyngor y Gweithlu Addysg

Cyngor y Gweithlu Addysg yw’r corff rheoleiddio annibynnol ar gyfer athrawon ysgol, athrawon addysg bellach a gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion a lleoliadau addysg bellach. Mae’n rhaid i bob un o’r rhain gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg os ydynt am weithio mewn ysgolion a gynhelir neu sefydliadau addysg bellach yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys athrawon peripatetig a rhai sy’n gweithio i asiantaethau, dros dro neu mewn swyddi cyflenwi. O 1 Ebrill 2017, bydd yn ofynnol i weithwyr ieuenctid, gweithwyr cymorth ieuenctid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith gofrestru hefyd.

Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y bydd gan Gyngor y Gweithlu Addysg tua 73,100 o unigolion cofrestredig cymwys (35,000 o athrawon ysgol, 5,000 o athrawon addysg bellach, 30,000 o weithwyr cymorth dysgu [o ran ysgolion ac addysg bellach], 1,100 o weithwyr ieuenctid [gan gynnwys gweithwyr cymorth ieuenctid] a 2,000 o ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith) ar 1 Ebrill 2017.

Cafodd Cyngor y Gweithlu Addysg ei greu drwy Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, yn dilyn dau ymgynghoriad. Daeth y cyntaf o’r rhain i ben ym mis Mawrth 2012, a daeth yr ail i ben ym mis Hydref 2012. Mae swyddogaethau cofrestru craidd Cyngor y Gweithlu Addysg yn hunan-gyllidol, ac yn cael eu hariannu gan ffioedd cofrestru ymarferwyr (cyfanswm o £1.76 miliwn yn 2015-16).

Mae hefyd yn cael cyllid grant gan Lywodraeth Cymru (cyfanswm o £6.59 miliwn yn 2015-16), am gyflawni swyddogaethau ar ei ran fel gweinyddu’r gwaith o ddyfarnu Statws Athro Cymwysedig (SAC) a threfniadau ar gyfer cynefino athrawon. Mae rhagor o wybodaeth am ei ddefnydd o grant Llywodraeth Cymru ar dudalen 5 o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cyngor y Gweithlu Addysg 2016.

Dyma brif amcanion Cyngor y Gweithlu Addysg:

  • cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd y dysgu yng Nghymru;
  • cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon a phersonau sy’n cefnogi addysgu a dysgu yng Nghymru; a
  • diogelu buddiannau dysgwyr, rhieni a’r cyhoedd a chynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg.

Mae ei brif swyddogaethau yn cynnwys:

  • llunio a chynnal Cofrestr o Ymarferwyr Addysg;
  • cynnal Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg;
  • cynnal ymchwiliadau a gwrandawiadau yn sgil honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol neu droseddau perthnasol a allai fwrw amheuaeth ar addasrwydd ymarferydd cofrestredig i ymarfer.

Y Rheoliadau draft

Mae Rheoliadau drafft Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017 yn pennu’r ffi sy’n daladwy am gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Bydd y ffioedd newydd yn cael effaith o 1 Ebrill 2017. Maent hefyd yn dirymu Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2016 Byddai’r dirymiad yn dod i rym ar 1 Ebrill 2017.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn nodi’r dull ar gyfer talu’r ffi. Fel y nodir ym Memorandwm Esboniadol y Rheoliadau:

For school teachers, FE teachers and both school and FE LSW the existing process for collecting the registration fee will continue. For the vast majority of these this will mean that the fee will continue to be paid through the ‘Deducted at Source’ (DAS) process – meaning that the fee is deducted by the employer directly from their salary. For most youth workers, youth support workers and work based learning practitioners the (DAS) process will also be implemented by the [Education Workforce] Council, with procedures employed to collect the annual registration fee starting in April 2017; and in March for each subsequent year.

Ffioedd arfaethedig

Mae rheoliad 4 yn nodi’r ffi flynyddol sy’n daladwy, ar gyfer pob categori o unigolion cofrestredig, i gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg. Mae’r Rheoliadau yn caniatáu i’r ffi gofrestru fod yn ddarostyngedig i gymhorthdal, a chaiff lefel y cymhorthdal hwnnw ei bennu gan Lywodraeth Cymru.

Mae athrawon wedi cael cymhorthdal ers tro tuag at eu ffioedd cofrestru, sy’n cael ei ad-dalu iddynt gan awdurdodau lleol drwy eu cyflog. Darparwyd ar gyfer hyn yn y ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol a gyhoeddir gan Lywodraeth y DU gan nad yw cyflog ac amodau gwaith athrawon yn swyddogaeth sydd wedi’i datganoli ar hyn o bryd.

Pan fu Llywodraeth Cymru yn ymgynghori y llynedd ynghylch Ffioedd cofrestru ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru esboniodd ei bod wedi gofyn i Lywodraeth y DU newid y ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol mewn da bryd ar gyfer y trefniadau ffioedd 2017-18. Yn hytrach na rhoi’r cyllid ar gyfer y cymhorthdal i awdurdodau lleol i’w drosglwyddo i athrawon, roedd Llywodraeth Cymru am roi’r arian hwnnw i Gyngor y Gweithlu Addysg er mwyn i ffioedd pob un sydd wedi cofrestru gael eu gostwng, yn hytrach na dim ond darparu cymhorthdal ar gyfer athrawon.

Llwyddodd Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol ym mis Awst 2016. O ganlyniad, ni fydd athrawon yn cael cymhorthdal yn uniongyrchol fel rhan o’u cyflog mwyach. Fodd bynnag, ni fydd y gost flynyddol net i athrawon gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yn newid o gymharu â 2016-17; £45 fydd y gost i athrawon o hyd. (Cynyddodd eu cyfraniad o £12 y flwyddyn yn 2015-16.)

O 2017-18 ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru yn trosglwyddo £1 miliwn o’r Grant Cynnal Refeniw i’w dyraniad i Gyngor y Gweithlu Addysg i weithredu’r ffordd newydd o ddarparu’r cymhorthdal gofrestru ar gyfer pob ymarferydd. Os na fydd £1 miliwn yn ddigon, er enghraifft am fod nifer llawer yn uwch na’r disgwyl yn mynd ati i gofrestru, mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd yn ychwanegu at unrhyw ddiffyg yn y cyllid i dalu gwir gost y cymhorthdal.

Mae’r memorandwm esboniadol yn tynnu sylw at lefelau arfaethedig y ffi a’r cymhorthdal ar gyfer 2017-18 mewn tabl a ddangosir isod.

Taliadau ffi gofrestru’r Cyngor arfaethedig ar gyfer 2017-18

(Saesneg yn unig)

Dyma a nodir yn y memorandwm esboniadol:

The Welsh Government has considered what impact the overall operating cost will have on the education workforce and is satisfied that the benefits of registration to learner outcomes, outweighs the cost to practitioners. At the individual level (£46), the annual arfaethedig registration fee is not considered likely to affect recruitment or retention in the education workforce in Wales.

Y dyfodol

Mae isadran 12(2) o  Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 yn gadael i Weinidogion Cymru rhoi’r pŵer i Gyngor y Gweithlu Addysg bennu’r ffioedd cofrestru yn y dyfodol. Fodd bynnag, ym memorandwm esboniadol y Rheoliadau drafft, mae Llywodraeth Cymru yn nodi:

it is anticipated that this will not take place until such time as the Welsh Government believes it is right and appropriate to do so. Any future transfer of the power to set registration fees to the Council will be subject to a full consultation at that time.


Erthygl gan Joseph Champion, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.