Y cynnig i ostwng y tollau ar gyfer Croesfannau’r Hafren

20 Ionawr 2017

Erthygl gan Sean Evans, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

severen

Llun o Flickr gan Ashley Coates. Trwydded Creative Commons.

Ar 13 Ionawr 2017, lansiodd Adran Drafnidiaeth y DU a Swyddfa Cymru ymgynghoriad ar gynigion i ostwng prisiau’r tollau ar Groesfannau’r Hafren. Mae’r ymgynghoriad yn casglu sylwadau ar y cynigion i gyflwyno tollau rhatach, newidiadau rheoleiddio, ffioedd gostyngol y tu allan i’r oriau brig a chodi tâl heb rwystro ar lif y traffig cyn i Groesfannau’r Hafren ddychwelyd i eiddo’r cyhoedd rywbryd ddiwedd 2017 neu ddechrau 2018.

Beth yw cefndir y cynigion hyn?

Dyfarnwyd cytundeb consesiwn i Severn River Crossing PLC (SRC) ym 1990 a gychwynnodd ym mis Ebrill 1992 ac sy’n gweithredu’n unol â darpariaethau Deddf Pontydd Hafren 1992. Mae’r cytundeb yn awdurdodi SRC i gasglu tollau o’r ddwy bont hyd nes y cesglir swm penodol o refeniw (£1,029 biliwn yw’r swm a nodwyd yn unol â phrisiau mis Gorffennaf 1989) yn cael ei gynhyrchu neu ar gyfer uchafswm o 30 mlynedd (pa un bynnag a ddaw gyntaf). Mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei bod yn disgwyl i refeniw’r croesfannau gyrraedd y swm penodol ddiwedd 2017 neu ddechrau 2018, ac y bydd y pontydd yn dychwelyd i eiddo’r cyhoedd (Llywodraeth y DU) bryd hynny.

Beth sy’n cael ei gynnig?

Yn hytrach na chael gwared ar y tollau ar ddiwedd y cytundeb consesiwn, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu “dileu’r categori pris uchaf am faniau a bysiau bach, a haneru’r tollau i bob cerbyd”, sy’n “gam o bwys” a fydd yn “gwneud gwahaniaeth positif i gymudwyr, teithwyr, ac i berchenogion busnesau bach” ym marn Llywodraeth y DU.

Mae’r cynigion ymgynghori (PDF 559KB) yn cynnwys disodli’r doll bresennol o £6.70, ar gyfer ceir a cherbydau categori 1 eraill, a chodi ffi o £3.00 yn ei lle, yn ogystal â chynnwys bysiau a faniau bach yng nghategori 1, gan eu bod yng nghategori 2 ar hyn o bryd ac yn talu toll o £13.40. Cynigir gostwng y doll ar gyfer cerbydau mawr yng nghategori 3 o £20.00 i £10.00.

Mae’r newidiadau arfaethedig wedi’u nodi yn y tabl isod:

tollcy

Ar hyn o bryd, mae’n rhaid talu toll sy’n cynyddu’n flynyddol yn unol â chwyddiant er mwyn defnyddio’r croesfannau. Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno Gorchymyn Codi Tâl yn lle hyn, o dan Ddeddf Trafnidiaeth 2000, a fydd yn “newid statws cyfreithiol y taliad… o doll i dâl i ddefnyddwyr ffordd”. Mae’n awgrymu y bydd y newid hwn o ran statws yn ei gwneud yn haws iddi “leihau’r swm y bydd defnyddwyr yn ei dalu”. Yn ystod y trafodaethau yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Ionawr 2017, mynegodd Aelodau’r Cynulliad bryderon ynghylch y cynigion i godi tâl ar ddefnyddwyr y ffordd a’r sail gyfreithiol ar gyfer hynny. Nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates, ei fod yn faes cyfreithiol cymhleth iawn a bod Llywodraeth Cymru o blaid diddymu’r tollau ar sail economaidd yn unig.

Pa effeithiau a ragwelir ar draffig yn sgil y cynigion?

Mae’r rhagolygon traffig a gomisiynwyd gan yr Adran Drafnidiaeth ac a ddisgrifir yn yr ymgynghoriad yn awgrymu y byddai gostwng y tollau yn cynyddu faint o draffig sy’n defnyddio’r Croesfannau hyd at 17 y cant erbyn 2028.

Gan ymateb i hyn, mae Llywodraeth y DU yn ystyried mesurau i leihau’r amser y mae’n ei gymryd i gasglu’r tollau a “ffyrdd o reoli’r effaith hwn, gan gynnwys… y dewisiadau ar gyfer codi tâl ar lif dirwystr a chodi tollau yn ystod y dydd yn unig”. Mae’r ystyriaethau pellach yn cynnwys talgrynnu prisiau’r tollau i rifau cyfan o bunnoedd a pharhau â system Severn TAG, sy’n rhoi gostyngiad o tua 50 y cant.

Mae’r ymgynghoriad hefyd yn tynnu sylw at bryderon Llywodraeth y DU ynghylch effaith y cynnydd mewn tagfeydd traffig ym Mryste ac ar hyd yr M4 yng Nghymru, ond mae’n awgrymu y “byddai gostwng y tollau o 50% yn rhoi cyfle i ni asesu’r effaith… y cynnydd yn llif y traffig.” Yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Ionawr 2017, soniodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith am bryderon ynghylch effeithiau traffig sy’n cael ei fodelu gan nodi bod angen sicrhau bod y gwaith modelu a wneir ar gyfer llif traffig yn gywir ac y bydd ei farn ar y gwaith modelu a wnaed a’r effeithiau cymunedol ehangach yn cael ei chynnwys yn ei ymateb i’r ymgynghoriad.

Ar gyfer beth y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu defnyddio refeniw’r Croesfannau?

Mewn llythyr at Aelodau’r Cynulliad ac Aelodau Seneddol, dywedodd y Gweinidog Gwladol dros Drafnidiaeth, John Hayes AS, ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns AS, na fydd taliadau a gesglir yn sgil y cynigion yn cael eu defnyddio at unrhyw ddiben ac eithrio cefnogi’r gwaith o weithredu a chynnal a chadw’r croesfannau, ac ad-dalu’r ddyled a ysgwyddwyd gan drethdalwyr y DU wrth atgyweirio diffygion ar y Croesfannau. Roedd y llythyr yn rhoi sicrwydd hefyd y bydd y Llywodraeth yn monitro prisiau’r tollau’n agos gyda’r bwriad o gyflwyno gostyngiadau pellach os oes modd yn y dyfodol. Ceir datganiad tebyg yn y ddogfen ymgynghori sy’n dweud y bydd refeniw’r tollau yn “cael ei adolygu i weld a ellir eu gostwng ymhellach.”

Beth am y syniad o ddiddymu’r tollau?

Cafwyd cefnogaeth i’r syniad o ddiddymu’r tollau’n llwyr pan fydd y Croesfannau’n dychwelyd i eiddo’r cyhoedd. Roedd Cynnig diweddar gan Mark Reckless AC yn nodi bod y Cynulliad yn cefnogi diddymu’r tollau, ac fe’i trafodwyd yn y Cynulliad ar 16 Tachwedd 2016. Cafodd y cynnig ei dderbyn fel y’i diwygiwyd gyda 45 o Aelodau’n pleidleisio o blaid y cynnig, 0 yn erbyn ac 1 yn ymatal.

Mae Llywodraeth y DU yn dadlau y byddai diddymu’r tollau yn peryglu dyfodol y Croesfannau ac yn amcangyfrif y bydd angen talu costau cynnal a chadw a chostau gweithredu blynyddol o tua £15 miliwn. Fodd bynnag, mae’r rhai sy’n ceisio diddymu’r tollau wedi beirniadu’r cynnig i barhau â’r tollau, gan awgrymu bod gwneud hynny’n gyfystyr â threthu Cymru mewn ffordd na fyddai’n cael ei chaniatáu o dan y ddeddfwriaeth bresennol.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Arup i ymchwilio i effaith tollau’r Hafren ar economi Cymru. Yn ôl adroddiad Arup (PDF 3.48MB) (2013), mae’r gwaith modelu economaidd yn awgrymu y gallai diddymu’r tollau roi hwb i economi de Cymru drwy sicrhau 0.48 y cant yn fwy o werth ychwanegol gros blynyddol, neu tua £107 miliwn. Er i’r adroddiad nodi y dylid bod yn ofalus wrth gyfrifo union werth y cynnydd mewn gwerth ychwanegol gros, dangosodd hefyd fod yr effeithiau anuniongyrchol yn golygu bod effaith gyffredinol y doll [atal y potensial o ran gwerth ychwanegol gros] yn fwy na chost uniongyrchol y doll [cynnal a chadw a chostau gweithredu]. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU yn awgrymu, er bod “y syniad gael gwared ar y tollau ac ariannu gweithredu a chynnal a chadw… trwy’r cynnydd dilynol mewn refeniw o drethiant cyffredinol yn ddamcaniaeth ddeniadol”, nid oes “unrhyw warant y byddai’r Llywodraeth yn adfer swm cyfatebol i’r refeniw tollau a gollir trwy drethiant cyffredinol”.

Mae Llywodraeth y DU hefyd yn nodi bod angen adennill costau o £63 miliwn a ysgwyddwyd ganddi yn ystod cyfnod y cytundeb consesiwn. Yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Ionawr 2017, mynegodd Ysgrifennydd y Cabinet siom nad yw Llywodraeth y DU yn ystyried dileu’r ddyled honno, fel y gwnaeth yn achos croesfan Humber, a dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn erbyn parhau â’r tollau. Yn y ddadl ynghylch y Cynnig ym mis Tachwedd 2016, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd y dylid diddymu’r tollau cyn gynted â phosibl, gan leddfu’r baich ar yr economi a dileu’r bygythiad sylweddol y maent yn ei gynrychioli o ran masnachu yn sgil y bleidlais i adael yr UE.

Roedd adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ar doll Croesfannau’r Hafren (2010) yn awgrymu y gellid lleihau’r doll i un rhan o bump o’i lefel bresennol, i tua £1.50 a chaniatáu i’r croesfannau gyllido eu hunain ar yr un pryd. Roedd yr adroddiad yn argymell na ddylai Llywodraeth y DU gael ei themtio i ddefnyddio’r croesfannau fel ‘peiriant pres’. Mae ymateb ysgrifenedig Llywodraeth Cymru i ymchwiliad presennol y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig i ddyfodol croesfannau’r afon Hafren yn nodi y dylai’r tollau fod yn nwylo Llywodraeth Cymru ac y gallai caniatáu i gerbydau deithio heb godi unrhyw ffi arwain at hwb i gynhyrchiant o dros £100 miliwn y flwyddyn.