Cyflwyno Cymwysterau Cymru

22 Rhagfyr 2016

Erthygl gan Joe Champion, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Rhes o ddesgiau ysgol

Dyma’r erthygl gyntaf o ddwy ar gyfer y blog hwn, yn sgil cyhoeddi Adolygiad Blynyddol cyntaf Cymwysterau Cymru. Mae’r erthygl hon yn amlinellu cefndir sefydlu Cymwysterau Cymru, ei nodau a’i brif feysydd gweithgarwch yn ystod ei flwyddyn gyntaf. Bydd y blog a gyhoeddir yfory’n ymdrin â’r gwaith craffu a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr Adroddiad Blynyddol.

Y cefndir

Sefydlwyd Cymwysterau Cymru, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer cymwysterau nad ydynt yn raddau, gan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 (y Ddeddf), a dechreuodd ar ei waith ar 21 Medi 2015. Cyn sefydlu Cymwysterau Cymru, Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am reoleiddio cymwysterau yng Nghymru.

Mae’r Ddeddf yn rhoi dwy brif nod i Gymwysterau Cymru, a bydd yn rhaid iddo weithredu’n gydnaws â’r rhain wrth gyflawni ei swyddogaethau: Dyma’r ddwy nod:

  • Sicrhau bod cymwysterau, a system gymwysterau Cymru, yn effeithiol o ran diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru; a
  • Hybu hyder y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn system gymwysterau Cymru.

Ym mis Awst 2015, cyhoeddodd y Gwasanaeth Ymchwil grynodeb deddf ar gyfer Deddf Cymwysterau Cymru 2015 a’i chefndir.

Er iddo gael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae gan Gymwysterau Cymru annibyniaeth wrth weithredu a rheoleiddio. Mae dogfen Fframwaith Cymwysterau Cymru yn diffinio’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Chymwysterau Cymru.

Pwerau Cymwysterau Cymru a’i brif feysydd gweithgarwch

Wrth fynd i’r afael â’i brif nodau, mae gan Gymwysterau Cymru bedwar prif faes gweithgarwch:

  • Cydnabod a chymeradwyocydnabod cyrff dyfarnu, sy’n dyfarnu cymwysterau yng Nghymru, gan fodloni’r meini prawf penodol. Fel rhan o’r broses hon, mae’n cymeradwyo neu’n dyrannu’r cymwysterau yr hoffai cyrff dyfarnu eu cynnig yng Nghymru. Mae rhestr o’r cymwysterau sydd ar hyn o bryd wedi cael eu cymeradwyo neu eu dyrannu ar gael yng nghronfa ddata ar-lein Cymwysterau Cymru, sef Cymwysterau yng Nghymru.
  • Monitro a chydymffurfio – rheoleiddio cyrff dyfarnu i sicrhau eu bod yn cynnal y safonau gofynnol ac yn cyflwyno cymwysterau’n effeithiol. Caiff y cymwysterau a gynigir eu hadolygu hefyd i archwilio pa mor addas ydynt i’w diben.
  • Datblygu a chomisiynu – bydd Cymwysterau Cymru, lle y bo’n briodol, yn goruchwylio’r gofynion ar gyfer cymwysterau newydd a chomisiynu cyrff dyfarnu i ddatblygu cymwysterau newydd yn y system addysg yng Nghymru.
  • Ymchwilio – mae’n cynnal gwaith ymchwil ar y system gymwysterau a meysydd penodol o ddiddordeb, er mwyn gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Blaenoriaethu a chyfyngu

Gall Cymwysterau Cymru hefyd flaenoriaethu a chyfyngu ar gymwysterau. Mae Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar y cyd pa gymwysterau a gaiff eu blaenoriaethu. Cyhoeddir y cymwysterau sy’n cael eu blaenoriaethu ar y Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol.

Bydd y cymwysterau sydd ar y Rhestr hon yn cael eu rhoi ar y llwybr carlam i gael eu cymeradwyo neu eu dyrannu, iddynt allu derbyn cyllid ar gyfer addysgu mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru. Mae Cymwysterau Cymru wedi nodi nad bwriad y broses o flaenoriaethu yw rhoi mwy o bwysigrwydd i un cymhwyster neu fath o gymhwyster mewn cymhariaeth â chymhwyster arall. Yn hytrach, y bwriad yw targedu adnoddau’n effeithiol.

Gall Cymwysterau Cymru gyfyngu ar y cymwysterau a gynigir gan un corff dyfarnu er mwyn gwella cysondeb y cymwysterau a gaiff eu rhoi a sicrhau bod eu cynnwys yn berthnasol. Fodd bynnag, mae Cymwysterau Cymru’n nodi:

Nid ydym wedi cyflwyno cyfyngiad o’r fath eto, nac wedi comisiynu cymwysterau newydd, ond rydym yn ystyried gwneud hynny. Yn dilyn ein Hadolygiad Sector o’r maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gwnaethom benderfynu ymgynghori ar gynlluniau i gyfyngu a chomisiynu cyfres newydd o gymwysterau yn y sector hwn ar gyfer dysgwyr 14 oed a throsodd.

Mae Cymwysterau Cymru hefyd yn cynhyrchu ‘Rhagolwg’ sy’n nodi’r cymwysterau y mae’n ystyried eu cynnwys ar y Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol yn y dyfodol.

Datblygu a chyhoeddi meini prawf Cymeradwyo

Rhan allweddol arall o waith cychwynnol Cymwysterau Cymru yw datblygu meini prawf Cymeradwyo ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch diwygiedig yng Nghymru. Mae’r meini prawf yn nodi’r amodau sydd yn rhaid i gymwysterau eu bodloni er mwyn cael eu cymeradwyo neu eu dyrannu, at ddefnydd ysgolion a cholegau Cymru.

Llywodraeth Cymru a ddechreuodd ddiwygio cymwysterau cyffredinol mewn ymateb i argymhellion a wnaed yn yr Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer pobl ifanc rhwng 14-19 oed yng Nghymru. Daeth y gwaith diwygio a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer TGAU mewn Mathemateg, Saesneg Iaith a Chymraeg Iaith i ben mewn digon o bryd iddo gael ei roi ar waith erbyn mis Medi 2015.

Cyfrifoldeb Cymwysterau Cymru erbyn hyn yw datblygu’r setiau meini prawf Cymeradwyo ar gyfer cymwysterau sydd yn dal heb eu diwygio. Erbyn Awst 2016, roedd Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi setiau meini prawf Cymeradwyo ar gyfer 11 o bynciau, ynghyd â meini prawf Cymeradwyo sy’n nodi’r safonau cyffredinol  ar gyfer TGAU ac UG/Safon Uwch.

Dywed:

Er mwyn sicrhau bod y cymwysterau newydd hyn yn diwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru, gwnaethom ddatblygu’r meini prawf Cymeradwyo ar eu cyfer gyda chymorth rhanddeiliaid ac arbenigwyr pwnc – yn bersonol a thrwy ymgynghoriad – a roddodd gynigion ac argymhellion i ni ynghylch cynnwys, strwythur a threfniadau asesu pynciau.