PISA: Beth ydyw a pham y mae’n bwysig?

30 November 2016

Erthygl gan Sian Hughes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 6 Rhagfyr, caiff canlyniadau PISA 2015 eu cyhoeddi ar gyfer y 72 o wledydd sy’n rhan o’r rhaglen. Bydd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar ganlyniadau Cymru.

Yn gyffredinol, derbynnir bod Cymru wedi perfformio’n gymharol wael yng nghylchoedd blaenorol PISA ac, oherwydd hynny, gwelwyd newidiadau sylweddol yn system addysg Cymru. Mae’r blog hwn yn rhoi rhywfaint o wybodaeth am broses PISA, perfformiad Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, effaith y broses ar bolisïau a beirniadaeth ar y cynllun.

PISA

Drwy Raglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yr OECD,  caiff arolwg ei gynnal bob tair blynedd er mwyn gwerthuso systemau addysg drwy’r byd i gyd a hynny drwy gynnal profion i fesur sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr 15 oed. PISA 2015 oedd y chweched astudiaeth i’w chynnal. Y tro cyntaf i Gymru gymryd rhan oedd yn 2006, felly hon fydd y bedwaredd set o ddata a gyhoeddir ar gyfer Cymru.

Mae PISA yn cynnal profion mewn tri maes, sef darllen, mathemateg a gwyddoniaeth. Mae pob arolwg yn canolbwyntio ar un maes penodol ac, yn 2015, canolbwyntiwyd ar wyddoniaeth. Wrth ateb y cwestiynau, mae angen i’r myfyrwyr ddangos bod ganddynt wybodaeth, eu bod yn gallu cymhwyso’r hyn y maent wedi’i ddysgu a datrys problemau drwy ddadansoddi a meddwl yn rhesymegol. Mae PISA yn osgoi rhoi gormod o bwyslais ar wybodaeth ffeithiol a’r gallu i ddwyn gwybodaeth i gof, ac mae’r profion yn ymwneud mwy â’r gallu i gymhwyso gwybodaeth. Nid yw PISA yn mesur i ba raddau y mae myfyrwyr wedi meistroli cwricwlwm penodol yr ysgol. Fel y dywedodd Andreas Schleicher, prif ddadansoddwr addysg yr OECD,  ‘nid yw’r economi wybodaeth bellach yn eich talu am yr hyn rydych yn ei wybod…mae’n eich talu am yr hyn y gallwch ei wneud â’r hyn rydych yn ei wybod.’

Caiff ysgolion eu dewis i sicrhau cynrychiolaeth genedlaethol. Rhaid cynnwys ysgolion o wahanol faint a math (ysgolion annibynnol, ysgolion a gynhelir, ysgolion arbennig, canol, uwchradd, ysgolion un rhyw a chymysg etc) ac o bob rhanbarth – trefol a gwledig – ac ysgolion sy’n gwhaniaethu o ran cyfrwng iaith a chyrhaeddiad. Ni chaiff enwau’r ysgolion eu datgelu.

Perfformiad Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf

Dangosodd y set gyntaf o ganlyniadau yn 2006 [PDF 62.7KB] fod Cymru islaw’r cyfartaledd ym maes mathemateg a darllen. Yn 2009, roedd canlyniadau Cymru [PDF63KB]  ym mhob maes yn is nag oeddent yn 2006. Roedd sgôr Cymru yn 2012 [PDF 170KB] wedi gostwng ymhellach ym maes Mathemateg a Gwyddoniaeth ers 2009. Roedd y sgôr ym maes darllen wedi codi, ond roedd yn dal yn is nag ydoedd yn 2006. Mae safle Cymru yn y byd wedi gostwng yn y tri maes ers 2009. Mae’r tabl isod yn dangos sgoriau cymedrig Cymru.

picture1-cy

Yn 2012, roedd sgôr Cymru ym mhob maes yn is na’r sgôr gyfatebol mewn rhannau eraill o’r DU. Mae’r tabl isod yn dangos sgoriau cymedrig Cymru a rhannau eraill o’r DU.

picture2-cy
Ffynhonnell: Detholiad o dablau B1, C1 a D1, Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Addysgol, Cyrhaeddiad myfyrwyr 15 oed yng Nghymru: Adroddiad Cenedlaethol PISA 2012

Ymateb Llywodraeth Cymru i PISA

Er bod canlyniadau 2006 yn siom, nid ystyriwyd mai’r rhain oedd ‘y prif gatalydd i wella safonau’ [PDF 655KB].  Newidiodd hynny, fodd bynnag, pan gyhoeddwyd canlyniadau 2009. Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes ar y pryd, fod y canlynaidau’n eithriadol o siomedig: ‘[a] wake-up call to a complacent system’ [PDF 79KB].

Yn dilyn y canlyniadau hyn, ynghyd â thystiolaeth gan Estyn a oedd yn dangos nad oedd ysgolion Cymru yn perfformio cystal ag y dylent, penderfynodd Llywodraeth Cymru gyflwyno diwygiadau eang i wella ysgolion. Cyflwynwyd polisïau amrywiol i geisio gwella’r system ysgolion. Dechreuodd y rhain gyda chynllun gweithredu 20 cam [PDF 79KB], Leighton Andrews, a arweiniodd, yn y pen draw, at y ‘rhaglen driphlyg’ i ddiwygio’r cwricwlwm, hyfforddiant cychwynol i athrawon a datblygiad athrawon. Dywedodd ei olynnydd, Huw Lewis mai sioc canlyniadau PISA sbardunodd y diwygiadau hyn.

Targed uchelgeisiol?

Ar ôl canlyniadau 2009, gosododd Llywodraeth Cymru nod newydd, sef i Gymru fod ymhlith yr 20 gwlad uchaf yn arolwg PISA yn 2015. Bryd hynny, o’r 67 a oedd yn rhan o’r rhaglen, roedd Cymru yn safle 38 ym maes darllen, 40 ym maes mathemateg a 30 ym maes gwyddoniaeth.

Ar ôl canlyniadau 2012, roedd Cymru yn safle 41 ym maes darllen, 43 ym maes mathemateg a 36 ym maes gwyddoniaeth (roedd 68 o wledydd wedi cymryd rhan).

Ym mis Hydref 2014, fel rhan o weledigaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg, Cymwys am Oes [PDF  2.3 MB], newidiwyd targed PISA, a’i droi’n ‘uchelgais’ i gyrraedd sgôr o 500 mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth ym mhrofion PISA yn 2021, yn hytrach na phoeni am safle Cymru yn y rhestr o wledydd. Dywedodd  Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd, y byddai’r sgôr o 500 yn gwneud synnwyr i athrawon a phobl ifanc, ac na fyddai’r nod o fod ymhlith yr 20 gwlad uchaf o fudd i’r system ehangach.

Canlyniadau PISA yn 2015

Ym mis Rhagfyr 2013, dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog ar y pryd, nad oedd canlyniadau PISA yn 2012 yn ddigon da, ond ychwanegodd ei bod yn rhy gynnar yn y broses o wella ysgolion i ddisgwyl newidiadau mawr mewn perfformiad yng nghylch asesiadau diwethaf PISA.

Ym mis Ionawr 2016, dywedodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Pedwerydd Cynulliad  ei fod yn ‘hyderus’ y byddai’r canlyniadau ‘yn gwella’. Er iddo ychwanegu y byddai’n rhaid i ni ystyried y canlyniadau ym mis Rhagfyr fel ‘pwynt ar hyn y daith’.

Ym mis Awst eleni, awgrymodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd newydd y Cabinet,  nad oedd yn disgwyl i’r canlyniadau wella rhwng 2012 a 2015. Dywedodd fod angen bod yn realistig wrth ystyried pa mor gyflym y gellir ymwreiddio diwygiadau addysg mewn system a phryd y bydd effaith y diwygiadau i’w gweld yng nghanlyniadau PISA.

Beirniadaeth ar PISA

Mae Kirsty Williams wedi cadarnhau ei bod yn awyddus i Gymru barhau i gymryd rhan yn rhaglen PISA er ei bod yn dal i ddweud bod llawer o waith i’w wneud i ddarbwyllo pawb yn y sector fod PISA yn bwysig a bod y rhaglen o fudd i ddisgyblion Cymru.

Er bod nifer o’r farn bod PISA yn elfen ddylanwadol yn y broses o wneud polisïau, nid pawb sydd wedi’u darbwyllo o fuddion y rhaglen. Mewn llythyr agored at Andreas Schleicher yn yr OECD (Mai 2014), mynegdd nifer o academyddion o bob rhan o’r byd eu pryderon ynghylch PISA. Roedd y rhain yn cynnwys peryglon cynnal gormod o brofion, y pwyslais tymor byr ar ganlyniadau mesuradwy yn hytrach na materion mwy hirdymor fel dinasyddiaeth a gofalu, a’r pwyslais ar addysg fel ffordd o gael swydd yn hytrach na ffordd o gyflawni amcanion ehangach.

Ymatebodd yr OECD drwy ddweud bod rhaglen PISA yn cynnig ffordd o gymharu gwledydd gwahanol a’i bod, felly, yn rhoi cyfle i wledydd ystyried amrywiaeth ehangach o bolisïau posibl. Roedd y rhaglen hefyd yn ffordd o asesu amrywiaeth o ddeilliannau dysgu a’u cyd-destunau.

Er i Huw Lewis ddweud bod angen cofio ‘nad yw PISA yn cwmpasu pob dim yn ymwneud ag addysg dda, mae’n sicr yn dweud pethau sy’n bwysig iawn, iawn’.

Mae rhai yn dadlau y bydd fformat profion PISA, a pha mor gyfarwydd yr myfyrwyr â’r mathau o gwestiynau sy’n cael eu cynnwys, yn effeithio ar y canlynaidau. Ym mis Chwefror 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai profion seiliedig ar PISA ar gael i ysgolion Cymru. Byddai ysgolion unigol, neu glystyrau o ysgolion, yn gallu cymryd rhan mewn asesiadau unigol tebyg i brofion PISA, er mwyn iddynt fedru eu cymharu eu hunain â’r gwledydd sy’n perfformio orau. Roedd yr asesiadau hyn yn wirfoddol. Yn 2015, cmerodd 89 o ysgolion uwchradd ran yn y profion a oedd wedi’u seilio ar brofion PISA.   Bydd newidiadau yn y cwricwlwm, TGAU a Bagloriaeth Cymru yn asesu dysgwyr ar sail yr un math o sgiliau ag a gaiff eu hasesu ym mhrofion PISA.

Beth bynnag fydd y canlyniadau ar 6 Rhagfyr, mae’n amlwg y bydd Cymru yn parhau i deimlo effaith PISA am gryn amser eto.