Dronau, robotiaid a lloerennau: dyfodol amaethyddiaeth Cymru?

22 Tachwedd 2016

Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ffotograff o ddrôn a buwch

Llun: o Flickr gan Lima Pix. Dan drwydded Creative Commons.

Ar 23 Tachwedd, bydd yr Aelodau’n trafod manteision defnyddio ‘data mawr’ mewn amaethyddiaeth. Mae’r blog hwn yn edrych ar beth yw data mawr a sut i’w defnyddio mewn amaethyddiaeth, yn arbennig yng nghyd-destun ‘amaethyddiaeth fanwl’, sef dull gwyddonol newydd o ffermio sy’n defnyddio llawer o ddata.

Mae’r term ‘data mawr’ yn cyfeirio at setiau mawr o ddata sydd ar gael, yn aml yn ddistrwythur, o bosibl mewn amser real (y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yn ariannu Rhwydwaith Data Mawr ar hyn o bryd sy’n edrych ar y ffordd y gellid defnyddio data mawr i weddnewid sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat drwy gynyddu cynhyrchiant ac arloesedd.

Data mawr ac amaethyddiaeth fanwl

Ceir enghraifft mewn amaethyddiaeth o ddefnyddio data mawr i wella effeithlonrwydd. Mae casglu a defnyddio data mewn amaethyddiaeth fanwl yn ennill mwy o sylw gyda dyfodiad technolegau newydd. Disgwylir y bydd hyn yn ganolog yn y broses o wireddu data mawr mewn amaethyddiaeth. Mewn amaethyddiaeth fanwl, caiff data eu casglu o synwyryddion mewn meysydd ar elfennau newidiol fel ansawdd aer a phridd, tymheredd a lleithder. Gall delweddau lloeren a dronau robotig greu lluniau o gaeau i ddangos aeddfedrwydd cnydau. Mae canolfannau rheoli yn casglu ac yn prosesu data o’r fath mewn amser real i helpu ffermwyr i wneud penderfyniadau, er enghraifft mewn perthynas â phlannu, gwrteithio a chynaeafu cnydau. Gellir cyfuno data o’r fath â modelau darogan tywydd, a gall ymchwilwyr adeiladu modelau ac efelychiadau a all ragweld amodau yn y dyfodol a helpu ffermwyr i wneud penderfyniadau rhagweithiol.

Mae tua 60% o ffermwyr y DU eisoes yn defnyddio rhyw fath o amaethyddiaeth fanwl ar eu ffermydd, ond gan fwyaf mae hyn yn golygu llywio tractor â lloeren.

Mae modd cael llawer o fanteision o amaethyddiaeth fanwl drwy ddealltwriaeth well o ryngweithiadau amgylcheddol cymhleth a fydd yn gwella effeithlonrwydd ac yn annog arloesi. Mae llawer yn credu mai dyma fydd dyfodol amaethyddiaeth gynaliadwy; fodd bynnag mae sawl her wedi’u nodi.

  • Mae ffermwyr yn pryderu ynghylch natur gyfrinachol a chystadleuol y data am eu ffermydd a’u cynnyrch. Y pryder yw y gellid manteisio ar y data hyn i gamliwio prisiau bwyd. Mae angen sicrwydd ynglŷn â phwy sy’n berchen ar y data, a sut y cânt eu rhannu;
  • Mae defnyddio Rhyngrwyd y Pethau (IoT – system lle mae gwrthrychau yn gysylltiedig â rhwydwaith fel bod modd rhannu data) yn dibynnu ar gysylltiad band eang cyflym iawn o ansawdd, ac nid yw hyn ar gael mewn llawer o gymunedau gwledig o hyd. Nid yw 13% o ffermwyr y DU yn gallu cael mynediad dibynadwy i’r rhyngrwyd o hyd ac mae 60% o’r rheini sydd â chysylltiad yn cael cyflymder o 2Mbps yn unig, sy’n annigonol o ran ymdrin â’r mapiau llawn data y bydd dronau a synwyryddion yn eu creu;
  • Byddai angen newid diwylliant ymhlith ffermwyr i feistroli technoleg fwyfwy; bydd yn rhaid i ffermwyr reoli terabeitiau o wybodaeth.
  • Prin iawn yw’r gwyddonwyr ‘data’ neu bobl sy’n gwybod sut i greu a gweithredu’r algorithmau angenrheidiol ar gyfer dadansoddi symiau mawr o ddata;
  • Yn aml, ceir anghysondeb yng ngraddfa, manylder a chywirdeb y data a ddaw o wahanol ffynonellau. Gall yr anghysondeb hwn greu darlun gwallus o’r hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd mewn cae;
  • Mae angen rheoli ansawdd data mawr cyn ei ddefnyddio mewn algorithmau. Gall y gweithdrefnau rheoli ansawdd angenrheidiol fod yn llafurus; a
  • Gall y dehongliad o gynhyrchion a grëwyd gan algorithmau sy’n prosesu setiau data mawr fod yn oddrychol.

Strategaethau data mawr Llywodraethau

Llywodraeth Cymru

Yn ysbryd data mawr a rhannu data, mae cynllun data agored Llywodraeth Cymru yn gosod ei hymrwymiad i gyhoeddi a rhannu data sy’n ystyrlon a hygyrch, ac yn gallu cael eu hailddefnyddio. Mae Porth-Daear y Lle wedi cael ei ddatblygu fel partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r Lle yn ganolbwynt ar gyfer data a gwybodaeth ar amrywiaeth o bynciau, ond yn bennaf ynghylch yr amgylchedd. Mae’r Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol yn datblygu Atlas Cymru Fyw gyda chyfraniad gan Lywodraeth Cymru i gymryd lle’r Porth NBN o ran darparu data gofodol amgylcheddol Cymru i’r cyhoedd.

Llywodraeth y DU

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn hyrwyddo arloesi amaeth-dechnoleg. Yn 2013, lansiodd ei strategaeth amaeth-dechnoleg gyda chyllideb o £160 miliwn i wneud y DU yn ganolfan fyd-enwog o ran arloesi mewn amaeth-dechnoleg. Atgyfnerthodd Llywodraeth y DU ei strategaeth mewn amaethyddiaeth yn 2014 gyda thechnoleg Rhyngrwyd y Pethau i helpu i gynyddu cynnyrch, gwella’r gallu i olrhain bwyd, a mynd i’r afael â heriau amgylcheddol drwy synwyryddion rhwydweithiol o bell, yn arbennig ar gyfer datblygu cnydau ac ymchwil enetig. Fel rhan o’i strategaeth data agored, yn 2015 cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei huchelgais i ryddhau 8,000 o setiau data y DU i’r cyhoedd dros y 12 mis canlynol. Dywedodd Defra:

bydd yn caniatáu i ffermwyr y DU ddefnyddio technegau arloesol i hybu effeithlonrwydd a chynhyrchiant, ac yn caniatáu gwaith monitro a rheoli gwell ar gyfer risgiau amgylcheddol.