Mynd i’r afael â TB buchol yng Nghymru

13 Hydref 2016

Erthygl gan Wendy Dodds, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Llun o wartheg mewn cae yng Nghymru.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn disgrifio dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran dileu TB Buchol mewn datganiad i’r Cyfarfod Llawn ar 18 Hydref 2016.

Oherwydd ei effaith sylweddol ar les anifeiliaid, lles ffermwyr a hyfywedd busnesau fferm, mae mynd i’r afael â TB buchol (twbercwlosis buchol) yn flaenoriaeth i’r diwydiant amaeth yng Nghymru. Yn 2011, amcangyfrifodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) Llywodraeth y DU mai cost buchesi wedi’u heintio â TB buchol yw £30,000 y fuches.

Mae’r blog hwn yn rhoi rhywfaint o gefndir ynglŷn â’r clefyd, nifer yr achosion yng Nghymru, a sut mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio mynd i’r afael â’r clefyd hyd yn hyn.

Beth yw TB buchol a beth yw ei effeithiau?

Clefyd heintus a chronig a achosir gan Mycobacterium bovis (M. bovis) yw TB buchol ac mae fel arfer yn effeithio ar ysgyfaint a nodau lymff gwartheg. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae gwartheg wedi’u heintio yn gallu trosglwyddo’r clefyd cyn eu bod yn dangos arwyddion o fod yn sâl, a all fod sawl mis ar ôl iddynt gael eu heintio. Er mwyn rheoli TB, felly, rhaid canfod a difa gwartheg wedi’u heintio cyn gynted â phosibl. Er mai gwartheg a moch daear yw’r prif anifeiliaid sy’n cario’r clefyd yn y DU, mae camelidau, ceirw, geifr ac anifeiliaid domestig hefyd yn agored i’w ddal.

Pa mor gyffredin yw TB buchol yng Nghymru?

Mae’r graff yn dangos y newidiadau yn nifer yr achosion newydd o TB buchol mewn buchesi yng Nghymru rhwng 2005 a 2015, yn ogystal â nifer y gwartheg a gafodd eu difa yn ystod yr un cyfnod. Gwelwyd nifer yr achosion newydd mewn buchesi yn cyrraedd ei anterth yn 2008-9, ac mae’r duedd wedi bod ar i lawr yn gyffredinol ers hynny. Mae nifer y gwartheg a gafodd eu difa hefyd wedi gostwng ers 2009, ond wedi bod yn cynyddu ers 2013. Mae’r ystadegau diweddaraf ar gyfer Cymru yn dangos bod 9,476 o wartheg wedi cael eu difa oherwydd y clefyd yn ystod y 12 mis hyd at fis Mehefin 2016, a bod 740 o fuchesi wedi dioddef achosion newydd o’r clefyd, gan awgrymu bod y duedd hon yn parhau.

wendycy

Pa bolisïau a strategaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu mabwysiadu hyd yma?

Mae Llywodraeth Cymru hyd yma wedi mabwysiadu Rhaglen Dileu TB Buchol sy’n cynnwys nifer o wahanol elfennau. Mae’r rhain yn cynnwys: profi buchesi gwartheg yn flynyddol; ystod eang o fesurau rheoli gwartheg fel profion cyn symud; cyfyngiadau symud ar fuchesi wedi’u heintio; lladd anifeiliaid sydd wedi’u heintio; a threialon brechu moch daear mewn rhai ardaloedd. Dwy o’r egwyddorion allweddol sy’n sail i’r rhaglen yw cadw’r clefyd allan o ffermydd glân a chanfod haint yn gynnar.

Yn rhan o’r rhaglen hon, sefydlodd Llywodraeth Cymru Ardal Triniaeth Ddwys, sef ardal 288 km sgwâr wedi’i lleoli yn bennaf yng ngogledd Sir Benfro, a hynny i brofi gwahanol ddulliau o fynd i’r afael â’r clefyd. Mae’r rhain yn cynnwys mesurau llymach ar gyfer rheoli gwartheg a phrosiect peilot pum mlynedd i frechu moch daear. Roedd y prosiect peilot ar fin dechrau ei bumed flwyddyn yn ystod gwanwyn 2016, ond ym mis Rhagfyr 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’r peilot yn dod i ben flwyddyn yn gynnar, oherwydd problemau gyda chyflenwad byd-eang o’r brechiad a ddefnyddir i frechu moch daear.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru waith modelu i edrych ar effaith atal y cynllun peilot. Yn ôl y gwaith modelu, ni fyddai effaith niweidiol ar y canlyniadau yn sgil dod â’r prosiect i ben flwyddyn yn gynnar. Fodd bynnag, nid yw brechu moch daear yn debygol o fod yn bolisi hyfyw yn y tymor byr os bydd cyflenwad y brechlyn yn parhau i fod yn ansicr yn y dyfodol.

Yn 2011, pasiodd Llywodraeth Cymru Orchymyn Moch Daear (Ardal Reoli) (Cymru) 2011. Rhoddodd y gorchymyn hwn bwerau i Lywodraeth Cymru ddifa moch daear, os oedd yn dymuno gwneud hynny, yn yr Ardal Triniaeth Ddwys. Fodd bynnag, cafodd y gorchymyn hwn ei ddiddymu yn 2012 gan John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy ar y pryd, a hynny yn dilyn ei benderfyniad i ddilyn polisi brechu moch daear yn lle hynny.  Os bydd Llywodraeth Cymru yn dymuno mynd ati i ddifa yn yr Ardal Triniaeth Ddwys neu mewn rhannau eraill o Gymru yn y dyfodol, bydd angen iddi sicrhau cefnogaeth ar gyfer gorchymyn newydd drwy’r Cynulliad.

Cynhaliwyd treialon mewn rhannau eraill o’r DU i ddileu’r clefyd mewn bywyd gwyllt trwy ddifa moch daear, ond mae’r syniad wedi rhannu barn gyda rhai sydd o blaid ac yn erbyn y polisi yn cyflwyno tystiolaeth a chanlyniadau gwyddonol i gefnogi eu safbwynt.

Mae rhywfaint o waith wedi’i wneud i fonitro effeithiau’r polisi dileu yn yr Ardal Triniaeth Ddwys. Cyflwynwyd adroddiad ar y gwahaniaethau mewn achosion o TB buchol rhwng yr Ardal Triniaeth Ddwys a rhannau eraill o Gymru rhwng 2010 a 2015, ac un o’r casgliadau oedd na welwyd tueddiadau cyson mewn dangosyddion TB buchol eto ond bod angen mwy o amser cyn y gellir nodi unrhyw wahaniaethau ystyrlon mewn tueddiadau rhwng buchesi yn yr Ardal Triniaeth Ddwys a’r ardal gymharu.

Mae gweinyddiaethau’r DU hefyd wedi ariannu gwaith ymchwil i ddatblygu brechlynnau gwartheg a phrofion diagnostig mwy sensitif ar gyfer y clefyd mewn gwartheg. I lywio polisi, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal arolwg o’r moch daear marw a ganfuwyd, i ddeall yn well pa mor gyffredin yw’r clefyd ymhlith moch daear yng Nghymru a beth yw’r berthynas rhwng TB mewn moch daear a gwartheg.

Beth nesaf?

Bydd datganiad Ysgrifennydd y Cabinet ar bolisi yn y dyfodol yn un arwyddocaol o ran lles anifeiliaid a’r diwydiant amaethyddol. Tynnwyd sylw at y mater yn adroddiad etifeddiaeth Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Pedwerydd Cynulliad, fel un o’r materion pwysicaf sy’n wynebu amaethyddiaeth.

Fel y nodwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn y ddadl ar 28 Medi 2016, rhoddir manylion dull gweithredu Llywodraeth Cymru mewn datganiad llafar ar 18 Hydref 2016. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y bydd y rhaglen TB ar ei newydd wedd yng Nghymru yn defnyddio cyfuniad o’r mesurau mwyaf priodol ac effeithiol, a hynny’n gymesur â lefel y risg mewn gwahanol rannau o Gymru. Dywedodd y bydd yr holl fesurau yn cael eu cefnogi gan dystiolaeth ac asesiad risg milfeddygol, ac y byddant yn canolbwyntio ar bob llwybr trosglwyddo.