Cyllido addysg uwch

21 Medi 2016

Erthygl gan Anne Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar 1 Mehefin 2016 ond fe’i diweddarwyd yn barod at ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn y Cyfarfod Llawn a drefnwyd ar gyfer dydd Mawrth 27 Medi 2016.

Sut fydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod addysg uwch yn fforddiadwy i fyfyrwyr o Gymru, ac ar yr un pryd yn ariannu sector addysg uwch cryf a chystadleuol?

Llun o fyfyrwyr sydd newydd raddio.

Llun o Flickr gan Kevin Saff. Dan drwydded Creative Commons.

A yw hi’n bosibl ariannu sector addysg uwch cryf ar y naill law, a chynnal y gyfundrefn bresennol sy’n rhoi cyllid i fyfyrwyr ar y llall, pan mai dim ond hyn a hyn o arian sydd ar gael?

Yn 2012, cododd ffioedd dysgu blynyddol yn Lloegr i uchafswm o £9,000. Ymatebodd Llywodraeth flaenorol Cymru drwy ganiatáu i brifysgolion yng Nghymru godi eu ffioedd dysgu ar gyfer cyrsiau israddedig amser llawn i lefel debyg.

Fodd bynnag, pryderai Llywodraeth flaenorol Cymru y byddai’r ffioedd uwch yn rhwystr i ddarpar fyfyrwyr, yn enwedig rhai o ardaloedd difreintiedig. Oherwydd hyn, ymrwymodd na fyddai unrhyw fyfyriwr israddedig amser llawn yng Nghymru yn talu ffioedd uwch (mewn termau real) yn ystod y Pedwerydd Cynulliad na myfyrwyr yn 2010/11. Dyma oedd y sefyllfa ble bynnag y byddai myfyrwyr o Gymru’n dewis astudio yn y DU.

Beth oedd y polisi yn y Pedwerydd Cynulliad?

Er mwyn cadw’r addewid hwn, penderfynodd Llywodraeth flaenorol Cymru gynnig Grant Ffioedd Dysgu i fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru. Dim ond rhan o’r ffioedd dysgu uwch newydd y byddai’n rhaid iddynt ei dalu, a byddai Llywodraeth Cymru yn talu’r gweddill. Roedd gan fyfyrwyr cymwys (gan gynnwys myfyrwyr yr UE yng Nghymru):

  • hawl i gael Grant Ffioedd Dysgu newydd nad oedd yn ad-daladwy (hyd at £5,190 yn 2015/16); a
  • hawl i wneud cais am fenthyciad ffioedd dysgu myfyrwyr ad-daladwy (£3,810 yn 2015/16).

Mae tua 57,000 o fyfyrwyr yn elwa ar y polisi hwn bob blwyddyn. Fodd bynnag, mae rhai yn beirniadu’r polisi, gan honni bod ariannu’r Grant Ffioedd Dysgu yn dwyn adnoddau oddi wrth rannau eraill o’r sector addysg uwch neu oddi wrth bolisïau a blaenoriaethau eraill. Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif mai:

  • cost y polisi yn 2015-16 fydd tua £241 miliwn, gan gynyddu i tua £257 miliwn yn 2016-17 (sef 16% o gyfanswm y gyllideb addysg a sgiliau);
  • cyfanswm cost y polisi dros bum mlynedd fydd £887 miliwn (2012-13 i 2016-17); ac
  • o’r £887 miliwn, bydd £564 miliwn (64%) yn cael ei dalu i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a £324 miliwn (36%) yn cael ei dalu i sefydliadau addysg uwch mewn rhannau eraill o’r DU.Bydd angen i Lywodraeth newydd Cymru benderfynu felly ai hwn yw’r defnydd mwyaf effeithiol o £257 miliwn y flwyddyn.
  • O wynebu cyhuddiadau bod y polisi i bob pwrpas yn rhoi cymhorthdal i addysg uwch yn Lloegr, ymateb Llywodraeth flaenorol Cymru oedd bod mwy o fyfyrwyr yn dod i Gymru nag sy’n mynd oddi yma. O ganlyniad, mae £50 miliwn yn fwy o gyllid yn dod i’r sector addysg uwch yng Nghymru bob blwyddyn (drwy ffioedd dysgu myfyrwyr o rannau eraill o’r DU) na’r hyn sy’n cael ei dalu allan (drwy’r Grant Ffioedd Dysgu i sefydliadau addysg uwch y tu allan i Gymru).

Beth yw barn rhanddeiliaid a myfyrwyr?

Ym mis Ebrill 2014, gofynnodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd, i’r Athro Syr Ian Diamond gadeirio panel adolygu annibynnol i edrych ar drefniadau cyllido addysg uwch a chyllid myfyrwyr.

Mae Adroddiad INTERIM Adolygiad Diamond (Rhagfyr 2015) yn crynhoi’r dystiolaeth a gasglwyd ac yn amlinellu’r themâu a’r negeseuon a ddaeth i’r amlwg er mwyn i Lywodraeth nesaf Cymru eu hystyried. Er enghraifft:

  • mae’r rhan fwyaf o bobl yn credu nad oes modd cynnal y sefyllfa fel ag y mae;
  • ar y cyfan, mae diffyg consensws o ran y ffordd ymlaen. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cydnabod y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd;
  • er y byddai’r sector ei hun yn gwadu hyn, mae llawer yn credu bod y sector addysg uwch yng Nghymru wedi elwa o gynnydd net mewn incwm ers cyflwyno’r ffioedd presennol a’r gyfundrefn ariannu. Ond nid yw’r cynnydd mor uchel â’r hyn a ragwelwyd ac mae cryn wahaniaethau yn lefel y newid yn incwm gwahanol sefydliadau;
  • mae pryder, yn enwedig yn y sector addysg uwch, fod bwlch cyllido mawr a chynyddol rhwng addysg uwch yng Nghymru a rhannau eraill o’r DU;
  • mae myfyrwyr sy’n hanu o Gymru yn elwa o fod â llai o ddyled ar ôl gadael y brifysgol o’u cymharu â myfyrwyr sy’n hanu o Loegr; ac
  • nid yw’r cymorth cynhaliaeth sydd ar gael yn ddigon i dalu costau cychwynnol myfyrwyr, ac mae hynny’n fwy o broblem i fyfyrwyr nag ad-dalu eu benthyciad ffioedd dysgu ar ôl iddynt ddechrau gweithio.

Beth am gyllido cyrsiau addysg uwch rhan-amser?

Mae proffil myfyrwyr addysg uwch rhan-amser yn dra gwahanol i broffil myfyrwyr amser llawn. Mae Llywodraeth Cymru wedi gohirio gwneud penderfyniad hirdymor ar gyllido darpariaeth addysg uwch rhan-amser, yn rhannol gan i nifer y myfyrwyr rhan-amser yn Lloegr ostwng yn sylweddol ar ôl cyflwyno system fenthyciadau a ffioedd uwch ar eu cyfer.

Cafodd adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar y trefniadau ar gyfer myfyrwyr rhan-amser ei gyhoeddi ochr yn ochr ag Adroddiad Interim Adolygiad Diamond. Mae cytundeb cyffredinol bod angen strategaeth gyllido ar wahân ar gyfer y sector rhan-amser cyn gynted â phosibl.

Beth sy’n debygol o ddigwydd yn y Pumed Cynulliad?

Mae panel adolygu’r Athro Syr Ian Diamond wedi cyflwyno ei adroddiad i Lywodraeth Cymru. Gofynnwyd iddo wneud argymhellion ymarferol, a rhai sy’n fforddiadwy ac yn gynaliadwy.

Disgwylir i Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, wneud Datganiad Llafar ddydd Mawrth 27 Medi ynghylch “Adolygiad Diamond o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru”. Bydd cryn ddiddordeb yn adroddiad terfynol ac argymhellion Adolygiad Diamond, nid yn unig ymhlith y sector addysg uwch a myfyrwyr ond hefyd ymhlith cyflogwyr, teuluoedd sydd â phlant iau, darparwyr hyfforddiant eraill a’r sector addysg ehangach.

Bydd cryn ddiddordeb yn ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad a’r argymhellion hefyd.

Ffynonellau allweddol