Y Cynulliad yn penderfynu ethol cadeiryddion ei bwyllgorau

14 Gorffennaf 2016

Erthygl gan Mark Norton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Dyma lun o ystafell bwyllgor

Ar ddechrau’r Pumed Cynulliad, cynigiodd y Pwyllgor Busnes (pwyllgor trawsbleidiol sy’n gyfrifol am drefnu Busnes y Cynulliad) y dylid caniatáu i holl Aelodau’r Cynulliad ethol cadeiryddion pwyllgorau newydd y Cynulliad. Mae hyn yn cyd-fynd ag argymhellion Fforwm Cadeiryddion y Pedwerydd Cynulliad i gryfhau rôl ac annibyniaeth cadeiryddion y pwyllgorau.

Gwelwyd newidiadau tebyg yn San Steffan fis Mehefin 2010 yn dilyn argymhelliad Pwyllgor Diwygio Tŷ’r Cyffredin. Newidiwyd y trefniadau a rhoi pleidlais gudd i holl aelodau’r Tŷ’r Cyffredin i ethol cadeiryddion drwy ddefnyddio’r system pleidlais ychwanegol.

Roedd Cynulliad Gogledd Iwerddon wedi defnyddio system debyg eisoes i ethol cadeiryddion ac is-gadeiryddion ei bwyllgorau gan ddefnyddio system bleidleisio d’Hondt, a amlinellir yn Neddf Gogledd Iwerddon 1998. Mae’r system hon yn statudol gan fod y senedd yn ceisio sicrhau cydbwysedd yn y modd y caiff yr holl bleidiau a’r cymunedau eu cynrychioli. Cynhaliodd Cynulliad Gogledd Iwerddon a’r Pwyllgor Adolygu Gweithredol adolygiad a ddaeth i’r casgliad fod system d’Hondt wedi sicrhau bod gan strwythur pwyllgorau Cynulliad Gogledd Iwerddon rôl graffu bwysig nad yw ei gweld mewn modelau mwy traddodiadol sy’n seiliedig lle mae’r pwyslais ar Lywodraeth a Gwrthblaid. Nid yw Senedd yr Alban wedi newid y modd y mae’n dewis cadeiryddion pwyllgorau – cânt eu dyrannu’n ôl cryfder y pleidiau ac yna bydd y pwyllgorau perthnasol yn ethol eu cadeirydd.

Yn 2010, aeth Pwyllgor Gweithdrefnau Tŷ’r Cyffredin ati i adolygu’r broses newydd, a daeth i’r casgliad bod y broses wedi cryfhau tryloywder, democratiaeth a hunanhyder yr Aelodau meinciau cefn a’i bod hefyd wedi gweithio’n dda yn ymarferol. Cynhaliodd Pwyllgor Diwygio Gwleidyddol a Chyfansoddiadol Tŷ’r Cyffredin adolygiad arall yn 2013 a daeth i’r casgliad fod y newidiadau wedi cryfhau cyfreithlondeb, hygrededd ac awdurdod y pwyllgorau. Awgrymwyd hefyd y dylid diwygio’r modd y caiff cadeiryddion y Pwyllgorau Biliau Cyhoeddus eu hethol.

Wedi i’r Pwyllgor Busnes gytuno i fwrw ymlaen i ethol cadeiryddion, cyhoeddodd bapur (PDF 459KB) yn amlinellu’r gweithdrefnau newydd a’r newidiadau angenrheidiol i’r rheolau sefydlog. O dan y weithdrefn newydd hon, byddai’r Pwyllgor Busnes yn cyflwyno cynnig, nad oes modd ei ddiwygio, yn nodi’r grŵp gwleidyddol roedd yn rhaid i gadeirydd pob pwyllgor berthyn iddo. Wrth gyflwyno’r cynnig, rhaid i’r Pwyllgor Busnes ystyried cydbwysedd gwleidyddol y grwpiau wrth ddyrannu cadeiryddion. Bydd angen cytuno ar y cynnig hwn ar gyfer pob pwyllgor cyn y gellir ethol cadeirydd. Rhaid i’r cynnig i ddyrannu cadeiryddion i grwpiau gael cefnogaeth dau draean o’r aelodau.

Rhaid i’r grwpiau gwleidyddol enwebu ymgeiswyr am swyddi’r cadeiryddion. O gofio maint y Cynulliad, ni fydd angen eilio’r enwebiad oni bai bod mwy nag 20 Aelod yn y grŵp.

Os bydd mwy na dau enwebiad, bydd yr aelodau’n eu rhestru’n ôl blaenoriaeth – 1, 2, 3 etc. Os nad oes neb yn ennill dros hanner y pleidleisiau, caiff yr ymgeisydd a enillodd y nifer leiaf o bleidleisiau ei eithrio a chaiff ail bleidlais pawb eu hailddosbarthu. Bydd y broses hon yn parhau nes bydd un ymgeisydd yn ennill dros hanner y pleidleisiau.

Mae’r Llywydd newydd, Elin Jones AC wedi croesawu’r drefn newydd gan ddweud ei bod yn cyd-fynd â’r adduned a wnaeth pan gafodd ei hethol i ddiogelu buddiannau holl Aelodau’r Cynulliad a thrin pob un ohonynt yn deg. Aeth rhagddi i gymeradwyo penderfyniad y Pwyllgor Busnes i gynnal egwyddor democratiaeth a sicrhau bod pobl Cymru yn cael y ddemocratiaeth y maent yn ei hawlio ac yn ei haeddu.

Cytunodd y grwpiau plaid ar y modd y dylid dyrannu’r cadeiryddion, a chymeradwywyd hyn drwy benderfyniad y Cynulliad. Rhoddwyd chwe phwyllgor i Blaid Lafur Cymru, tri i Blaid Cymru, dau i’r Ceidwadwyr Cymreig ac un i UKIP Cymru. Cytunodd y Cynulliad ar y trefniadau newydd ar gyfer ethol cadeiryddion ar 28 Mehefin a gwahoddwyd enwebiadau ar gyfer cadeiryddion yn y Cyfarfod Llawn ar yr un diwrnod. Os oedd mwy nag un ymgeisydd am swydd cadeirydd, cynhaliwyd pleidlais gudd ar 29 Mehefin rhwng hanner dydd a 3pm. Nid oedd cystadleuaeth am weddill y swyddi Cadeiryddion, a chadarnhaodd y Llywydd eu bod wedi cael eu hethol ar 28 Mehefin. Cyhoeddwyd canlyniadau’r bleidlais gudd pan ddaeth busnes y Cynulliad i ben am 5pm ar 29 Mehefin.

Dyma’r rhestr gyflawn o gadeiryddion etholedig:

  • Lynne Neagle AC: Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
  • Russell George AC: Y Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
  • John Griffiths AC: Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
  • Dai Lloyd AC: Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
  • Nick Ramsey AC: Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
  • Mark Reckless AC: Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
  • Bethan Jenkins AC: Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
  • David Rees AC: Y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn (Nawr, gyda’r enw newydd Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol)
  • Huw Irranca-Davies AC: Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
  • Mike Hedges AC: Y Pwyllgor Deisebau
  • Jayne Bryant AC: Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
  • Simon Thomas AC: Y Pwyllgor Cyllid

Yn wahanol i’r pwyllgorau eraill, cytunodd y Cynulliad i beidio â newid y trefniadau ar gyfer ethol y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog a gaiff ei gadeirio gan Ann Jones AC, y Dirprwy Lywydd.

Mae Adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn nodi bod yn rhaid i aelodaeth pob un o bwyllgorau’r Cynulliad adlewyrchu’r cydbwysedd rhwng y grwpiau gwleidyddol y mae’r Aelodau Cynulliad yn perthyn iddynt (cyhyd ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol). Os nad yw cynnig ar gyfer cyfansoddiad pwyllgor penodol yn cael cefnogaeth dau draean o’r Cynulliad mewn pleidlais, yna caiff fformiwla d’Hondt ei defnyddio i benderfynu ar aelodaeth y Pwyllgor hwnnw.

Ar 5 Gorffennaf, yn ystod sesiwn i gymeradwyo aelodaeth y pwyllgorau polisi a deddfwriaeth newydd, a fydd yn cynnwys 8 o aelodau, cyhoeddodd Mark Reckless AC fwriad grwp UKIP i bleidleisio yn erbyn y cynigion i sefydlu’r pwyllgorau, gan ddweud:

“Rydym yn bwriadu pleidleisio heddiw yn erbyn sefydliad y pwyllgorau polisi a deddfwriaethol ar y sail y cytunwyd arno gan y rheolwyr busnes eraill. Y rheswm yr ydym yn gwneud hyn yw nad yw cydraddoldeb, 4: 4, yn golygu cydbwysedd rhwng partïon.”

Ymatebodd Simon Thomas AC, drwy honni bod y system yn deg, a bod cynrychiolydd o bob grŵp plaid ar bob pwyllgor. Dywedodd fod y trefniadau presennol yn fwy manteisiol na fformwla d’Hondt i grŵp UKIP.

Pasiwyd y cynigion i gytuno ar aelodaeth y pwyllgorau gan 47 o bleidleisiau o blaid a 5 o bleidleisiau yn erbyn.