Strategaeth gwaith ffordd a gwaith stryd ar gyfer Cymru: pen y daith i ddiflastod ar ein ffyrdd?

24 Mehefin 2016

Sylwer: Mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu’n ôl y datganiad llafar a drefnwyd ar gyfer dydd Mawrth 28 Mehefin.

23 Mehefin 2016

Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Llun o waith cynnal a chadw priffyrdd

Llun: o Flickr gan Carol. Dan drwydded Creative Commons.

Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer strategaeth gwaith ffordd a gwaith stryd i Gymru rhwng 7 Rhagfyr 2015 a 28 Chwefror 2016. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Mehefin 2016 am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y strategaeth. Mae’r erthygl hon yn esbonio beth yw gwaith ffordd a gwaith stryd, ac yn edrych ar feirniadaeth ddiweddar o’r ffordd y maent yn cael eu rheoli ar hyn o bryd yng Nghymru.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng gwaith ffordd a gwaith stryd?

“Gwaith ffordd” yw’r gwaith a gyflawnir gan awdurdodau priffyrdd i atgyweirio neu gynnal a chadw priffyrdd, neu osod priffyrdd newydd. Yng Nghymru, Llywodraeth Cymru yw’r awdurdod priffyrdd ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd, a’r awdurdodau lleol yw’r awdurdod priffyrdd ar gyfer y rhwydwaith ffyrdd lleol.

Mae “gwaith stryd” yn cael ei gyflawni gan “ymgymerwyr statudol”, sydd â hawl statudol i weithio ar y briffordd, neu “drwyddedeion” o dan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991, sy’n cael cyflawni gwaith o dan drwydded a roddir gan yr “awdurdod stryd”, sef yr awdurdod priffyrdd fel arfer. Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau cyfleustodau yn ymgymerwyr statudol ac mae ganddynt yr hawl i osod a chynnal a chadw eu cyfarpar ar y stryd neu o dan y stryd.

Pa ddeddfwriaeth sy’n rheoli trefniadau ar gyfer gwaith ffordd a gwaith stryd?

Y Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd a Deddf Rheoli Traffig 2004 sy’n rheoli gwaith ffordd a gwaith stryd yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd, a’r Rheoliadau a’r codau ymarfer cysylltiedig, yn sefydlu fframwaith deddfwriaethol ar gyfer y rhai sy’n ymgymryd â gwaith ffordd a gwaith stryd. Mae’n rhoi dyletswydd ar awdurdodau stryd i gydlynu pob darn o waith ar y briffordd, a dyletswydd ar ymgymerwyr i gydweithredu.

Mae’r Ddeddf Rheoli Traffig yn darparu pwerau ychwanegol i leihau tagfeydd, gan gynnwys rhoi dyletswydd ar “awdurdodau traffig lleol” i reoli eu rhwydwaith ffyrdd er mwyn sicrhau y gall traffig symud yn rhwydd. Mae’n caniatáu ar gyfer cyflwyno cynlluniau trwyddedau ar gyfer gwaith ffordd a gwaith stryd a phwerau ychwanegol i awdurdodau priffyrdd lleol gyfarwyddo pryd y dylid cyflawni gwaith.

Pam mae angen strategaeth gwaith ffordd a gwaith stryd?

Mae dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru yn nodi, er bod y Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd a’r Ddeddf Rheoli Traffig wedi gwella’r drefn o ran rheoli gwaith ffordd a gwaith stryd, “mae nifer y tagfeydd oherwydd gwaith sy’n para’n hirach na’r disgwyl neu sy’n gwrthdaro yn dal i fod yn fwy nag yr hoffem”.

Yn 2011, cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad ar Brosiectau Trafnidiaeth Mawr. Wrth ystyried “a oedd prosiectau trafnidiaeth mawr yng Nghymru a gwblhawyd yn ddiweddar wedi cyflawni eu hamcanion ac wedi’u cyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb”, daeth i’r casgliad:

“Mae cyflawni prosiectau trafnidiaeth mawr yn llwyddiannus yn galw am gydberthnasau gwaith effeithiol rhwng pawb dan sylw. Mae cydberthnasau â chwmnïau cyfleustodau wedi achosi problemau ar brydiau, gan gyfrannu at oedi a chynnydd mewn costau prosiectau, a phrin yw’r cymhelliant i gwmnïau cyfleustodau ymgymryd â gwaith sy’n gost-effeithiol neu’n amserol o safbwynt y cyflogwr sector cyhoeddus.”

Nododd yr Archwilydd Cyffredinol nifer o broblemau, gan gynnwys yr hyn a ganlyn:

  • Mae diffyg cyfathrebu rhwng y Llywodraeth a chwmnïau cyfleustodau ac nid yw’r Llywodraeth yn dylanwadu digon ar flaenoriaethau’r cwmnïau hynny, er gwaethaf bodolaeth Pwyllgor Awdurdodau Priffyrdd a Chyfleustodau Cymru;
  • Roedd canllawiau arfer da Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar leihau amhariadau er lles defnyddwyr y priffyrdd a chymunedau, yn hytrach nag effaith diffyg cydgysylltu a chyfathrebu ar brosiectau mawr;
  • Nododd swyddogion Llywodraeth Cymru fod y ddeddfwriaeth yn dibynnu’n ormodol ar ewyllys da’r cwmnïau cyfleustodau, ac nid yw’n cynnig fawr ddim cymhelliant i gwmnïau cyfleustodau gwblhau eu gwaith;
  • Mae diffyg gwybodaeth gan gwmnïau cyfleustodau am amserlen eu gwaith, a nodwyd cynnydd mewn costau ar gyfer gwaith ar gyfleustodau ar ôl y cam dylunio manwl hefyd.

Argymhellodd yr Archwilydd Cyffredinol y dylai Llywodraeth Cymru:

“ymgysylltu â llywodraeth leol a’r cwmnïau cyfleustodau i ddatblygu rhai egwyddorion y cytunwyd arnynt yn glir o ran sut y dylent gydweithio drwy gydol oes prosiectau trafnidiaeth mawr.”

Cyflwynodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Pedwerydd Cynulliad adroddiad ar ei ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd ym mis Mehefin 2015. Er bod yna dystiolaeth i awgrymu y cafwyd gwelliannau yn y blynyddoedd diwethaf, roedd tystiolaeth arall yn awgrymu bod trafferthion yn codi am nad oedd cwmnïau cyfleustodau yn cael eu cynnwys yn gynnar wrth ddatblygu cynlluniau.

Rhoddodd Llywodraeth Cymru wybod i’r Pwyllgor am y camau yr oedd wedi’u cymryd, ond nododd y Pwyllgor fod y strategaeth gwaith stryd yn dal i gael ei datblygu bedair blynedd ar ôl adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn 2011, ac “yn ystod y sesiwn tystiolaeth lafar nid oedd Llywodraeth Cymru yn gallu egluro pam yr oedd oedi gyda hyn a pham nad oedd y strategaeth wedi’i chwblhau.”

Yn ddiweddarach, cafodd y Pwyllgor lythyr gan Gyfarwyddwr Cyffredinol Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar y pryd, yn egluro: “a comprehensive strategy has…been developed rather than individual protocols, in order to achieve wider objectives such as reduced congestion and improved journey time reliability”. Fodd bynnag, mynegodd y Pwyllgor bryder ynglŷn â’r amserlen, ac a fyddai’r strategaeth yn ymdrin â phroblemau prosiectau trafnidiaeth mawr yn y pen draw.

Mynegodd y Pwyllgor bryderon hefyd ynglŷn â rheoli a chydlynu gwaith ffordd. Daeth yr adroddiad i’r casgliad:

“Mae’r Pwyllgor yn pryderu bod rhywfaint o’r dystiolaeth a dderbyniwyd yn awgrymu bod mwy o waith i’w wneud yng Nghymru o ran darparu gwybodaeth a chyfathrebu’n gywir am waith ffordd.

Mae’r Pwyllgor yn credu y dylai fod gwell cydgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol pan fydd llwybrau dargyfeirio yn cael eu trefnu o ganlyniad i waith ffordd, er enghraifft, dylid rhoi mwy o ystyriaeth i ad-drefnu goleuadau traffig i gynorthwyo llif y traffig.”

Beth oedd y cynigion yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru?

Roedd y ddogfen ymgynghori yn nodi’n glir nad oedd Llywodraeth Cymru am gynnig newidiadau i’r ddeddfwriaeth. Yn hytrach, nodwyd:

“Rydym yn credu y gallwn, trwy weithio mewn partneriaeth ag ymgymerwyr statudol ac awdurdodau priffyrdd trwy Bwyllgor Awdurdodau Priffyrdd a Chyfleustodau Cymru, wneud gwelliannau sylweddol i’r ffordd y caiff gwaith ffordd a stryd ei reoli er budd Cymru o fewn y fframwaith deddfwriaethol presennol. Hefyd, gan fod ganddi gyfrifoldeb uniongyrchol am y rhwydwaith cefnffyrdd… rydym yn meddwl bod gan Lywodraeth Cymru hithau ran bwysig i’w chwarae wrth arwain y gwaith o fabwysiadu’r arferion gorau.”

Cynigiwyd camau gweithredu mewn pum maes:

  • Cynllunio, cydgysylltu a chyflawni gwaith ffordd a gwaith stryd;
  • Cyflawni prosiectau mawr;
  • Cyfathrebu â’r cyhoedd a busnesau;
  • Sgiliau a hyfforddiant; a
  • Diwylliant o newid parhaus.

Dim ond wrth i strategaeth newydd gael ei rhoi ar waith y daw’n glir i ba raddau y mae’n mynd i’r afael â’r pryderon a fynegwyd gan Aelodau’r Cynulliad, Archwilydd Cyffredinol Cymru a rhanddeiliaid ynglŷn â’r gost o gyflawni prosiectau a’r effaith ar ddefnyddwyr y ffyrdd a thagfeydd.