Newid yn yr hinsawdd

09 Mehefin 2016

Erthygl gan Chloe Corbyn, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Gyda gwyddonwyr blaenllaw yn rhybuddio am effeithiau trychinebus posibl wrth i’n hinsawdd newid, a oes gan Gymru yr ymrwymiad, y ddeddfwriaeth a’r fframwaith polisi i weithredu?

Rydym yn gwybod bod newid yn yr hinsawdd yn digwydd. Mae tymereddau byd-eang wedi bod yn codi yn raddol ers dros ganrif, gan gyflymu yn y degawdau diweddar. Maent bellach wedi cyrraedd y lefelau uchaf a gofnodwyd erioed. Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd, sy’n cynnwys llifogydd a sychder, i’w gweld ledled y byd, ac mae’r rhain yn aml yn effeithio’n anghyfartal ar y gwledydd tlotach.

Yr angen i weithredu

Os na fydd camau brys yn cael eu cymryd i leihau allyriadau carbon, mae arbenigwyr fel y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) yn rhagweld y bydd ffigurau tymheredd byd-eang yn codi dros 4C yn y ganrif hon. Mae’r IPCC yn awgrymu ymhellach fod yna sicrwydd o dros 95% mai dylanwad dynol yw’r ffactor pennaf mewn cynhesu byd-eang ers canol yr ugeinfed ganrif.

Mae cysylltiadau cynyddol gryfach yn cael eu gwneud rhwng datblygu cynaliadwy a’r angen i ymateb i newid yn yr hinsawdd. Yn ystod 2015 a 2016, cafwyd cytundebau rhyngwladol arloesol ar y ddau beth hyn.

Cynhaliwyd unfed cynhadledd ar hugain Gwledydd Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd (UNFCCC) ym Mharis ddiwedd 2015. Y prif beth i ddeillio o’r gynhadledd oedd cytundeb rhwng y 197 o wledydd ar gyfyngu ar y cynnydd mewn tymheredd byd-eang. Gan ddefnyddio’r tymheredd yn y cyfnod cyn-ddiwydiannol fel man cychwyn, dylai unrhyw newid fod yn is o gryn tipyn na 2C. Cytunodd y gynhadledd ymhellach i geisio cyfyngu’r newid hyd yn oed yn fwy i 1.5C.

Gosododd Cytundeb Paris hefyd nod yn y tymor hir i gyfyngu allyriadau net i bron sero yn ail hanner y ganrif. Mae gan Gymru ran bwysig i’w chwarae wrth helpu’r DU i gyrraedd y targedau hyn.

Mae Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, a gytunwyd yn 2015, yn gosod agenda uchelgeisiol a thrawsnewidiol ar gyfer datblygu cynaliadwy dros y 15 mlynedd nesaf. O’r 17 o nodau datblygu cynaliadwy, mae 13 yn golygu gweithredu’n uniongyrchol ar newid yn yr hinsawdd. Yng Nghymru, mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ymgorffori newid yn yr hinsawdd ac egwyddorion datblygu cynaliadwy ar draws y llywodraeth a’r sector cyhoeddus ehangach. Drwy’r deddfau hyn, mae Cymru wedi ymrwymo i roi cynaliadwyedd, gwydnwch amgylcheddol a chyfrifoldeb byd-eang wrth wraidd pob penderfyniad a wneir.

Perfformiad Cymru hyd yma

Yn 2010, cyhoeddodd y Llywodraeth Cymru bryd hynny Strategaeth Cymru ar Newid yn yr Hinsawdd, yn amlinellu targedau pwysig. Roedd y rhain yn cynnwys lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 3% y flwyddyn o 2011 ym mhob maes sydd wedi’i ddatganoli, a sicrhau gostyngiad o 40% o leiaf yng nghyfanswm ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2020. Gwnaed cynnydd cyson o ran y targed blynyddol i ostwng 3% ar allyriadau, gyda’r amcangyfrifon ar gyfer 2014 yn dangos bod yr allyriadau hynny yn debygol o leihau ymhellach o gymharu â 2013.

Ni fu’r camau i gael gostyngiad o 40% yng nghyfanswm ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2020 mor llwyddiannus. Rhwng 2012 a 2013, cododd yr allyriadau hyn 10%. Cafodd hyn ei briodoli yn bennaf i newidiadau mewn prosesau diwydiannol ac ynni, yn enwedig ailagor ffwrnais chwyth yng ngwaith dur Port Talbot a newid o nwy naturiol i ddefnyddio glo mewn gorsafoedd pŵer. Roedd y cynnydd yng Nghymru yn sylweddol uwch nag mewn rhannau eraill o’r DU.

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn diffinio’r gwahanol fathau o allyriadau yng Nghymru. Er mwyn cyrraedd ei tharged erbyn 2020, bydd angen i allyriadau yng Nghymru leihau 28% eto rhwng 2014 a 2020. Mae hyn yn gofyn am gymryd rhagor o gamau, gan gynnwys camau i liniaru risgiau newid yn yr hinsawdd ac i gyflawni’r ymrwymiad tymor hir i leihau allyriadau o leiaf 80% erbyn 2050, fel y nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Dull newydd o weithio

Bydd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn newid sut mae Cymru’n mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, a sut mae’n mesur hynny. Gan symud ymlaen o’r targed blynyddol (anstatudol) o gael gostyngiad o 3% y flwyddyn, mae’r Ddeddf yn gosod dyletswyddau newydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod allyriadau nwyon tŷ gwydr yn cael eu lleihau. Mae hefyd yn cyflwyno dull cyllidebu carbon newydd i fesur i ba raddau y bydd allyriadau’n lleihau, gan gyfyngu ar gyfanswm y nwyon tŷ gwydr y gellir eu hallyrru dros gyfnod penodol. Ymhlith y dyletswyddau yn y Ddeddf, mae’r canlynol:

  • rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod allyriadau net Cymru yn 2050 o leiaf 80% yn is na’r llinell sylfaen (1990 neu 1995), a gall Llywodraeth Cymru gynyddu’r targed hwn;
  • erbyn diwedd 2018, rhaid i Lywodraeth Cymru bennu targedau allyriadau interim ar gyfer 2020, 2030 a 2040;
  • am bob cyfnod cyllidebol pum mlynedd, rhaid i Lywodraeth Cymru bennu cyfanswm uchaf ar gyfer allyriadau net Cymru (cyllideb garbon); a
  • bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ystyried cytundebau rhyngwladol sy’n cyfyngu ar faint y gall y tymheredd cyfartalog byd-eang godi.

Mae’r Ddeddf hefyd yn nodi y caiff Llywodraeth Cymru sefydlu corff cynghori ar newid yn yr hinsawdd. Gall y corff hwn roi cyngor ar dargedau interim, ar gyllidebau carbon ac ar unrhyw gamau ychwanegol y mae angen eu cymryd er mwyn cyrraedd y targedau a’r cyllidebau hyn.

O’i gyfuno â’r ymrwymiad o’r newydd i ddatblygu cynaliadwy a llesiant amgylcheddol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gallai’r dull newydd hwn o weithio helpu Cymru i fod ar flaen y gad wrth ddatblygu ffordd arloesol a blaengar o fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a’i effeithiau.

Fodd bynnag, nid cyfrifoldeb gweinidogion yr amgylchedd yn unig fydd hyn; mae gan y llywodraeth gyfan, busnesau, y sector cyhoeddus ehangach, y trydydd sector a dinasyddion gyfrifoldeb hefyd.

Mae angen gofyn cwestiynau hefyd ynghylch sut y bydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015) yn llwyddo i leihau carbon ar lefel leol a chenedlaethol. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus weithio i gyflawni pob un o’r 7 o nodau llesiant sydd ynddi, a gallai fod yn anodd sicrhau lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru ar y naill law, a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ar y llaw arall. Bydd yn rhaid i Lywodraeth newydd Cymru hefyd ystyried sut i ymgorffori neges a dealltwriaeth gyson o’r camau y mae angen eu cymryd ar draws ei holl waith.

Ffynonellau allweddol