Dyfodol gofal cymdeithasol

06 Mehefin 2016

Erthygl gan Amy Clifton Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn mynd trwy gyfnod o newid mawr yng Nghymru, ond beth fydd hyn yn ei olygu wrth gael gwasanaethau, wrth dalu am ofal, ac i’r gweithlu?

Mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn wynebu sawl her mewn cyfnod o gyfyngiadau ariannol a galw cynyddol. Mae tri mater yn debygol o fod yn arbennig o amlwg ar agenda’r Pumed Cynulliad: yr hawl i gael gwasanaethau, talu am ofal, a’r gweithlu gofal cymdeithasol.

Yr hawl i gael gwasanaethau

Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ym mis Ebrill 2016, ac mae’r sylw wedi canolbwyntio ar beth fydd hyn yn ei olygu o ran hawl unigolion i gael gwasanaethau o dan y meini prawf cenedlaethol newydd. Y meini prawf hyn fydd yn penderfynu a oes gan unigolyn hawl ddiamod i gael gofal a chymorth wedi’i ddarparu neu wedi’i drefnu gan yr awdurdod lleol.

Clywodd Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Pedwerydd Cynulliad bryderon y gallai’r meini prawf beri rhwystrau ac oedi i unigolion sy’n ceisio cael gwasanaethau. Roedd sefydliadau sy’n cynrychioli defnyddwyr gwasanaethau yn pryderu y gellid gwrthod gwasanaethau ar gam i rai pobl, ac y gellid rhoi gofalwyr di-dâl dan bwysau i ysgwyddo rhagor o gyfrifoldebau.

Mae’r ddeddfwriaeth yn golygu y bydd yn rhaid dibynnu mwy ar adnoddau cymunedol, ond cwestiynodd rhai rhanddeiliaid a oedd cymunedau yn barod am hyn, yn enwedig ar adeg o doriadau i gyllidebau awdurdodau lleol.

Yn wahanol i Ddeddf Gofal 2014 yn Lloegr, nid yw’r Ddeddf yng Nghymru yn cynnwys proses apelio, ond gall unigolion ofyn am adolygiad neu ailasesiad o benderfyniadau ynglŷn â chymhwysedd mewn rhai amgylchiadau.

Tynnodd y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol sylw at yr angen i fonitro’n ofalus sut y gweithredir y Ddeddf. Ymrwymodd Mark Drakeford, y Gwenidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y pryd, i werthuso’r Ddeddf yn y Pumed Cynulliad, gan ganolbwyntio ar y drefn asesu a’r meini prawf er mwyn penderfynu a yw amcanion y Ddeddf yn cael eu cyflawni.

Y meini prawf newydd

Asesiad yw hwn sy’n penderfynu a ellir ateb anghenion yr unigolyn a gofalu am ei les drwy gynllun sydd wedi’i ddarparu neu wedi’i drefnu gan yr awdurdod lleol, a thrwy gynllun o’r fath yn unig. Os gall yr unigolyn ei hun neu unrhyw un arall wneud hyn, neu os gellir gwneud hyn drwy wasanaethau cymunedol neu unrhyw ddull arall, mae’n annhebygol y byddai’r unigolyn yn gymwys i gael gofal a chymorth statudol personol.

Talu am ofal preswyl

Cydnabuwyd ers tro bod angen diwygio’n sylweddol y ffordd mae unigolion yn talu am ofal preswyl yng Nghymru a Lloegr. Y farn yw bod y system bresennol yn gymhleth, yn annheg ac yn anghynaliadwy, ac ystyried gofynion poblogaeth sy’n heneiddio. Mae’n anodd canfod atebion, ac mae hefyd yn faes costus, ond nid yw hwn yn fater fydd yn diflannu.

Bu llawer o drafod ac ymgynghori ynghylch sut i symud ymlaen, ond mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi oedi cyn cyflwyno newidiadau. Cyn etholiad y Cynulliad yn 2016, gwnaeth nifer o bleidiau gwleidyddol Cymru addewidion yn eu maniffestos i newid y system bresennol.

Un opsiwn, a gefnogir gan Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid Llywodraeth Cymru, yw codi’r trothwy sy’n dynodi a oes yn rhaid i unigolion dalu costau llawn eu gofal. Dywedodd y grŵp y byddai codi’r uchafswm cyfalaf i £100,000 yn golygu y byddai’n rhaid i lai o bobl dalu am eu gofal preswyl eu hunain, gan eu galluogi i gadw cyfran uwch o’u cyfalaf. Mae rhai’n amcangyfrif y byddai hyn ar y cychwyn yn costio £30 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru.

Y system codi tâl yng Nghymru

Disgwylir i unrhyw un sydd â dros £24,000 o gyfalaf (gan gynnwys cynilion, asedion ac eiddo) dalu am gostau llawn ei ofal hyd nes bod y cyfalaf yn disgyn yn is na’r trothwy. O dan y trothwy hwn, dim ond o’i incwm dydd i ddydd (fel pensiwn) y disgwylir i’r person gyfrannu at y costau.

Y gweithlu gofal cymdeithasol

Mae ansawdd a chynaliadwyedd y gweithlu gofal cymdeithasol yn fater sy’n cael cryn sylw ar hyn o bryd, ac mae cwestiynau ynghylch gallu’r gweithlu i ymdopi â’r pwysau cynyddol sydd ar wasanaethau gofal. Ceir pryderon am gofrestru’r gweithlu, am y telerau ac amodau, ac am y tâl.

Ar hyn o bryd, nid yw gweithwyr gofal preswyl na gofal yn y cartref wedi’u cofrestru a’u rheoleiddio yn yr un modd â staff gofal cymdeithasol eraill. Yn ystod y gwaith craffu ar Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, ymrwymodd Mark Drakeford, y Gweinidog ar y pryd, i gofrestru’r holl weithwyr gofal yn y cartref o 2020 a gweithwyr gofal preswyl i oedolion yn 2022.

Yn 2015, adroddodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y gall telerau ac amodau gwael ar gyfer gweithwyr gofal arwain at drosiant staff uchel a safonau gofal is.

Comisiynodd y Gweinidog blaenorol waith ymchwil i ganfod sut y caiff gweithwyr gofal yn y cartref eu recriwtio a’u cadw. Dangosodd hyn pa ffactorau sy’n cael effaith negyddol ar ansawdd y gofal. Mae’r rhain yn cynnwys contractau dim oriau, cyflogau isel, dim taliadau ar gyfer amser teithio, llwyth gwaith trwm, ymweliadau gofal 15-munud a hyfforddiant gwael.

Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn gosod cyfyngiadau ar ymweliadau gofal o lai na 30 munud, ac ymgynghorodd Llywodraeth flaenorol Cymru ar gynigion i wneud rhagor o ddiwygiadau. Roedd y rhain yn cynnwys cyfyngu ar y defnydd o gontractau dim oriau a sicrhau bod cyflogwyr yn talu gweithwyr gofal yn y cartref yr isafswm cyflog cenedlaethol (gan gynnwys amser teithio). Mae’n bosibl felly y bydd Llywodraeth newydd Cymru am fwrw ymlaen i weithredu ar hyn.

Mae darparwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr wedi mynegi pryder y bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol newydd (sy’n disodli’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol gyda swm uwch o fis Ebrill 2016) yn rhoi pwysau ariannol cynyddol ar y sector, ac y gallai arwain at doriadau i wasanaethau. Rhybuddiodd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a’r Fforwm Darparwyr Cenedlaethol (Cymru) y caiff y sector gofal yng Nghymru ei daro’n arbennig o galed gan mai’r sector cyhoeddus, sydd o dan bwysau ariannol ei hun, sy’n talu am y mwyafrif helaeth o wasanaethau gofal.

Trosiant staff gofal yn y cartref

Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod gan y sector gofal yn y cartref drosiant o tua 32% a bod 6% o swyddi yn wag.

Ffynonellau allweddol