Cyflwr hawliau dynol a chydraddoldeb

Ddydd Mawrth 31 Ionawr 2017, bydd Aelodau Cynulliad yn trafod yr Adroddiad Blynyddol am Gydraddoldeb 2015-16. Mae’r erthygl isod (6 Mehefin 2016) sy’n rhoi trosolwg o gyflwr hawliau dynol a chydraddoldeb yng Nghymru, yn cael ei hail-gyhoeddi cyn fod hyn yn digwydd.

06 Mehefin 2016

Erthygl gan Hannah Johnson Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

carer

A yw Cymru yn wlad deg? Beth yw’r materion pwysig o ran hawliau dynol a chydraddoldeb y dylid mynd i’r afael â hwy yn y Pumed Cynulliad?

Mae’n demtasiwn meddwl nad yw hawliau dynol yn fater o bwys mewn gwlad ddatblygedig fel Cymru. Ond mae cysylltiad hanfodol rhwng yr hawliau cyffredinol hyn a’r cyfleoedd bywyd sydd ar gael i bawb, waeth ble y cawsom ein geni.

Mae modd dadlau bod angen rhoi sylw i anghydraddoldebau sylweddol, a hynny mewn cyfnod o gyni ariannol sy’n dal i effeithio ar wasanaethau cyhoeddus. Bydd y Pumed Cynulliad felly yn ganolog wrth benderfynu a ddaw Cymru yn wlad decach neu’n fwy annheg.

Anghydraddoldeb yng Nghymru

Mewn sawl ffordd, mae Cymru yn dal i fod yn wlad annheg. Mae anghysondebau sylweddol o ran lefelau addysg, iechyd, cyflogaeth ac incwm a allai ddylanwadu ar bolisi a’r broses ddeddfu dros y pum mlynedd nesaf:

  • mae pobl ifanc 16-24 oed bedair gwaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith na phobl 35-54 oed;
  • mae rhai pobl yn llawer mwy tebygol o gael cyflog sy’n llai na’r cyfartaledd. Mae’r rhain yn cynnwys: pobl ifanc (sy’n ennill £6.50 yr awr o gymharu â’r cyfartaledd o £11.20 ymhlith pobl 35-44 oed), lleiafrifoedd ethnig (sy’n ennill 50 ceiniog yn llai yr awr ar gyfartaledd na phobl wyn), a menywod (sy’n ennill £16,412 y flwyddyn ar gyfartaledd tra bo dynion yn ennill £22,921 ar gyfartaledd);
  • mae lefelau cyrhaeddiad addysgol rhai plant yn llawer mwy tebygol o fod yn is na’r cyfartaledd. Dim ond 13% o blant Sipsiwn/Roma, a 17% o blant sy’n derbyn gofal a phlant sydd ag anghenion addysgol arbennig fel ei gilydd sy’n cael pump gradd A*-C neu fwy yn eu harholiadau TGAU;
  • llai na hanner y bobl anabl sy’n cael eu cyflogi;
  • mae ychydig dros dri chwarter y troseddau casineb y rhoddir gwybod amdanynt i’r heddlu yn cael eu hysgogi gan hil, a phobl dduon sydd fwyaf tebygol o ddioddef y fath droseddau;
  • mae tua 38% o aelwydydd lleiafrifoedd ethnig a 31% o blant yn byw mewn tlodi; ac
  • mae diffyg amrywiaeth o hyd mewn swyddi uchel, o wleidyddiaeth i’r sector preifat. Mewn rhai ardaloedd, mae’r gynrychiolaeth yn gwaethygu, gydag hyd yn oed llai o amrywiaeth yn y broses o wneud penderfyniadau nag oedd ddegawd yn ôl.

Creu agenda arbennig ar gyfer hawliau dynol yng Nghymru

Bydd y Pumed Cynulliad yn allweddol wrth benderfynu sut i flaenoriaethu a rhoi sylw i hawliau dynol yng Nghymru. Bydd y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth newydd Cymru yn cael effaith ar urddas, parch, tegwch a diogelwch y boblogaeth, a’r ffordd y caiff pobl eu hamddiffyn.

O dan y gyfraith ddatganoli, mae’n rhaid i Gymru lynu wrth gytuniadau rhyngwladol, gan gynnwys y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Yn y gorffennol, mae Llywodraethau Cymru wedi mabwysiadu dull gwahanol i Lywodraeth y DU o roi sylw i hawliau dynol. A fydd hyn yn parhau yn y dyfodol?

Er enghraifft, mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn rhoi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) (neu i roi sylw dyledus iddo). Yn yr un modd, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ystyried yr UNCRC ynghyd â’r Confensiwn ac Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar Bobl Hŷn. Nid oes unrhyw ddarpariaethau penodol cyfatebol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus roi ‘sylw dyledus’ i’r UNCRC yng nghyfraith gwledydd eraill y DU.

Mae arbenigwyr o Gymru yn cytuno y dylid ystyried hawliau dynol yn arf i wella bywydau pobl, yn hytrach nag yn ffordd o unioni’r drefn ar ôl i rywbeth ddigwydd. Mae rhai o’r farn bod y ddyletswydd i roi ‘sylw dyledus’ yn ffordd ystyrlon o wella polisïau ac arferion. Ym marn eraill, dim ond proses o ategu hawliau dynol ydyw, neu ymarfer i ‘dicio blychau’.

Bydd yn ddiddorol gweld a fydd y gofyniad i roi ‘sylw dyledus’ i gytuniadau hawliau dynol rhyngwladol yn cael ei adlewyrchu yng nghyfreithiau a pholisïau Cymru yn y dyfodol.

Materion hawliau dynol a chydraddoldeb yn y Pumed Cynulliad

Mae’r materion cydraddoldeb a hawliau dynol eraill sy’n debygol o godi yn y Pumed Cynulliad yn cynnwys:

  • cydraddoldeb rhyw: gan gynnwys cynrychiolaeth, bylchau mewn cyflog, cyfranogiad economaidd a thrais yn erbyn menywod;
  • tlodi: gyda lefel uchel o dlodi yng Nghymru, a rhai grwpiau o bobl yn llawer mwy tebygol o fod yn dlawd, mae incwm isel a’r anfanteision gydol oes a ddaw yn ei sgil yn prysur ddod yn fater hawliau dynol;
  • cosbi corfforol (smacio): bydd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn gwneud argymhellion yn fuan yn dilyn ei archwiliad o gynnydd ym maes hawliau plant yng Nghymru. Mae smacio yn thema sy’n codi droeon yn ei adroddiadau blaenorol, ac mae’r ddadl bron yn sicr o godi eto;
  • troseddau casineb: yn enwedig y cynnydd o ran troseddau Islamoffobaidd a gwrth-Semitaidd; ac
  • amddiffyn pobl sydd mewn perygl o gael eu cam-drin: gan gynnwys ceiswyr lloches, ffoaduriaid, pobl hŷn mewn gofal, pobl anabl a phlant sy’n derbyn gofal.

Mae hawliau dynol yn rhan allweddol o’r setliad datganoli ac o gyfansoddiad y DU. Mae Llywodraeth y DU wedi addo cyflwyno Bil iawnderau yn lle Deddf Hawliau Dynol 1998 a chyfyngu ar rôl Llys Hawliau Dynol Ewrop. Mae’r cynlluniau hyn wedi bod yn ddadleuol a chafwyd cryn oedi eisoes. Er nad oes unrhyw gynlluniau i’r DU adael y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, byddai Bil iawnderau yn arwain at oblygiadau enfawr i Gymru.

Os cyflwynir deddfwriaeth newydd o’r fath, a ddaw Cymru yn decach neu’n fwy annheg? Bydd yr ateb i’r cwestiwn hwnnw’n dibynnu ar ymateb Llywodraeth Cymru ac ar sut y bydd y ddeddfwriaeth yn effeithio ar y gwaith a wneir i amddiffyn hawliau dynol.

Ffynonellau allweddol