Diwygio llywodraeth leol

27 Mai 2016

Erthygl gan Rhys Iorwerth, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Drwy gydol y Pedwerydd Cynulliad bu cryn ddadlau am ailstrwythuro llywodraeth leol. A fydd Llywodraeth newydd Cymru yn bwrw ymlaen â chynlluniau o’r fath?  

Ers 1996, bu gan Gymru 22 o gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol (neu ‘awdurdodau lleol’ a rhoi iddynt eu henw arall). Wrth i’r hinsawdd ariannol waethygu, mae ein gwleidyddion wedi cwestiynu fwyfwy a oes angen pob un o’r cynghorau hyn arnom. Maent hefyd wedi anghytuno am y nifer gorau os derbynnir bod 22 yn ormod. Mae cryn amheuaeth, felly, a fydd gennym yr un faint o awdurdodau lleol erbyn diwedd y Pumed Cynulliad.

Wyth awdurdod posibl

Wyth awdurdod posibl

Cynlluniau’r Llywodraeth ddiwethaf

Yn 2013, sefydlodd Llywodraeth Cymru Gomisiwn Williams i edrych drwyddi draw ar sut oedd gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu yng Nghymru. Roedd adroddiad y Comisiwn yn un eang, ond un o’i brif gasgliadau oedd bod llawer o’n hawdurdodau lleol yn rhy fach i berfformio’n llwyddiannus. Awgrymodd y Comisiwn y dylai Llywodraeth Cymru uno’r 22 cyngor i greu rhwng 10 a 12 o awdurdodau, a bwrw ati i wneud hynny yn ddiymdroi.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru ar y cychwyn drwy ddweud ei bod yn ffafrio model 12-awdurdod. Newidiodd hyn ym mis Mehefin 2015 pan gyhoeddodd Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar y pryd, fap yn dangos bod Llywodraeth Cymru bellach o blaid naill ai wyth neu naw o awdurdodau.

Ym mis Tachwedd 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fil Llywodraeth Leol (Cymru) drafft. Byddai’r Bil drafft hwn yn rhoi’r broses uno ar waith, yn ogystal â gwneud newidiadau mawr eraill i sut mae llywodraeth leol Cymru yn gweithio. Yn ôl y Gweinidog, roedd ‘pwysau ariannol difrifol ac anghynaliadwy’ ar wasanaethau cyhoeddus yn golygu nad oedd ‘gwneud dim yn opsiwn’. Er bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gallai’r broses uno gostio hyd at £254 miliwn, honnai hefyd y gallai arbed hyd at £915 miliwn dros 10 mlynedd, pe bai’r cyfan yn cael ei gwblhau erbyn 2020-21.

Daeth ymgynghoriad ar y Bil drafft i ben ym mis Chwefror 2016, ac ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd y Gweinidog ei fod wrthi’n dadansoddi’r ymateb. Ar ôl cael ei ethol yn Brif Weinidog ym mis Mai 2016, awgrymodd Carwyn Jones mewn adroddiadau yn y cyfryngau y gallai fod yn anodd bwrw ymlaen â model wyth neu naw awdurdod, ond dywedodd hefyd ei fod yn dal yn awyddus i ddiwygio’r drefn mewn rhyw fodd.

Yr ymateb i’r cynlluniau uno

Local Authority Boundary-Welsh-09

Naw awdurdod posibl

Argymhellodd Comisiwn Williams uno’r 22 awdurdod gan ddefnyddio’u ffiniau presennol yn sail, yn hytrach nag ail-greu map newydd sbon. Cytunai Llywodraeth ddiwethaf Cymru fod hyn yn synhwyrol, gan fynnu y byddai’n arwain at greu awdurdodau mwy o faint, a mwy effeithlon, heb achosi’r strach a allai ddeillio o newid ffiniau’r cynghorau yn fwy sylfaenol.

Roedd eraill, fel Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Pedwerydd Cynulliad, yn honni bod angen edrych ar swyddogaethau’r awdurdodau cyn penderfynu ar eu ffurf. Byddai hyn yn golygu asesu – cyn dechrau ailstrwythuro – pa fath o wasanaethau y dylai llywodraeth leol fod yn eu darparu yn y Gymru ddatganoledig. Awgrymodd y Pwyllgor mai dim ond wedyn y gellid llunio map synhwyrol a phenderfynu sawl awdurdod sydd orau. Roedd y Pwyllgor hefyd yn honni y byddai hyn yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir nag asio’r blociau presennol o gynghorau at ei gilydd.

Atebolrwydd lleol

Mae rhai sylwebwyr yn pryderu y gallai cael wyth neu naw o awdurdodau mawr danseilio atebolrwydd lleol a’r berthynas rhwng y cynghorau a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Yn y Bil drafft, roedd yn fwriad gan y Llywodraeth greu ‘pwyllgorau ardal’ i roi llais i ardaloedd o fewn y cynghorau mwy, ond mae amheuon ynghylch pa mor effeithiol y gallai hyn fod.

Mewn dogfen drafod yn 2014, cynigiodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ffordd wahanol o fynd ati. Awgrymodd barhau â’r 22 awdurdod presennol er mwyn cadw ymdeimlad lleol, ond creu pedwar corff rhanbarthol i ddarparu gwasanaethau pwysig. Gallai’r cyrff rhanbarthol hyn fod yn seiliedig ar yr awdurdodau cyfunol sydd yn Lloegr. Byddai hynny’n caniatáu i rai gwasanaethau gael eu darparu’n fwy effeithiol ar raddfa fawr, heb amharu ar gysylltiadau lleol.

Os bydd llai o gynghorau sir, a rheini’n fwy o faint, mae sylwebwyr eraill wedi awgrymu cryfhau’r elfen leol drwy ddiwygio a grymuso cynghorau tref a chymuned – sef haen isaf llywodraeth leol yng Nghymru.

Y berthynas rhwng y llywodraeth ganolog a llywodraeth leol

Er mai materion strwythurol a daearyddol sy’n dueddol o gipio’r penawdau, mae llywodraeth leol ei hun wedi galw am newid mwy sylfaenol yn y berthynas rhyngddi hi a Llywodraeth Cymru. Mae datganoli wedi newid y ffordd y caiff Cymru ei llywodraethu, felly mae’r cynghorau yn credu bod angen ailddiffinio ac edrych o’r newydd ar rôl llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaethau.

Yn ei dogfen O blaid atebolrwydd lleol, roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn feirniadol o Lywodraeth ddiwethaf Cymru am ‘[d]datblygu ymagwedd fwy canolog’ tuag at wasanaethau cyhoeddus. Awgrymodd y dylai llywodraeth leol gael ‘y rhyddid a’r hyblygrwydd i ddarparu gwasanaethau yn ôl yr amgylchiadau lleol’. Nid oes dwywaith y bydd yn parhau i alw am hyn.

Bydd gan Lywodraeth newydd Cymru benderfyniadau mawr i’w gwneud, felly, ynghylch nifer a maint ein hawdurdodau lleol. Ond bydd hefyd yn wynebu pwysau parhaus o du’r sector am newid mwy pellgyrhaeddol maes o law.

Ffynonellau allweddol

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg