Hyrwyddo’r Gymraeg

26 Mai 2016

Erthygl gan Rhys Iorwerth, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

This article is taken fromKey issues for the Fifth Assembly’, published on 12 May 2016

Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd statudol i hyrwyddo’r Gymraeg. Ond a yw’r ffordd y mae hi’n gwneud hynny’n gweithio?  

Ar ddechrau’r Pedwerydd Cynulliad, ymrwymodd Llywodraeth ddiwethaf Cymru i gryfhau lle’r Gymraeg yn ein bywydau bob dydd. Roedd canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn ergyd gynnar i’r nod hwnnw, ac mae beirniaid yn dal i gwestiynu a yw’r ymdrechion i gefnogi’r iaith yn dwyn ffrwyth.

Cyfrifiad 2011

Dangosodd ffigurau Cyfrifiad 2011 fod canran y bobl yng Nghymru a oedd yn gallu siarad Cymraeg wedi gostwng o 20.8% yn 2001 i 19% yn 2011.

Gostyngodd nifer siaradwyr y Gymraeg hefyd – o 582,000 yn 2001 i 562,000 yn 2011.

Mater o bryder i ymgyrchwyr iaith oedd fod y gostyngiadau mwyaf yn y cadarnleoedd traddodiadol.

Y strategaeth

Yn 2012, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Iaith fyw: iaith byw. Strategaeth bum mlynedd oedd hon i hyrwyddo’r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau. Ond er mwyn ymateb i ffigurau’r Cyfrifiad, cyhoeddodd y Prif Weinidog gyfres newydd o flaenoriaethau yn 2014. Roedd y blaenoriaethau hyn ar gyfer y tair blynedd dilynol, ac yn canolbwyntio ar gael pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn amlach yn eu cymunedau a’u bywydau bob dydd.

I fwrw’r maen i’r wal, aeth y Llywodraeth ati i ailflaenoriaethu sut yr oedd yn gwario arian yn y maes. Penderfynodd gwtogi’r gyllideb ar gyfer rhaglenni fel Cymraeg i oedolion, a buddsoddi yn hytrach mewn canolfannau iaith newydd, yn y Mentrau Iaith, ac mewn prosiectau i annog busnesau i ddefnyddio’r Gymraeg.

Er i rai o’r camau hyn gael croeso, roedd pryder o ambell du nad oedd y Llywodraeth wedi bod yn ddigon clir ynglŷn â’r dystiolaeth a ddefnyddiodd i newid ffocws, nac am y canlyniadau penodol yr oedd yn disgwyl i’r camau newydd hyn eu cyflawni.Iaith fyw, Iaith Byw

Aeth Cymdeithas yr Iaith mor bell â chystwyo’r Llywodraeth am ei diffyg brys wrth ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad, yn ogystal â’i diffyg cynnydd ‘syfrdanol’ ym ‘mhob maes polisi yn gysylltiedig â’r iaith’. Mae Dyfodol i’r Iaith hwythau wedi galw am sefydlu corff hyd braich i hyrwyddo’r Gymraeg, gan farnu y gallai asiantaeth o’r fath ddod o hyd i ffyrdd mwy creadigol ac arbrofol na gweision sifil o wneud hynny.

Bydd asesu llwyddiant y strategaeth ddiwethaf, yn ogystal â datblygu strategaeth newydd ar gyfer y cyfnod ar ôl 2017, yn rhywbeth y bydd yn rhaid i Lywodraeth newydd Cymru roi sylw iddo’n fuan.

Y gyllideb

Rhan ganolog o unrhyw strategaeth iaith yw’r arian sydd ar gael i’w gweithredu. Er iddi ailflaenoriaethu gwariant yn y maes, torrodd Llywodraeth ddiwethaf Cymru gyfanswm y cyllid ar gyfer y Gymraeg yn gyson yn ei chyllidebau blynyddol.

Arweiniodd hyn at feirniadaeth benodol pan graffodd y Cynulliad ar gyllideb ddrafft y Llywodraeth ar gyfer 2016-17. Gan fod cyfanswm y gyllideb honno wedi cynyddu mewn termau real, aeth grwpiau ymgyrchu ati i gondemnio’n hallt y gostyngiad o 5.9% yn y cyllid i hyrwyddo’r Gymraeg (a adawodd gyfanswm o £25.6 miliwn yn y gronfa honno).

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn awyddus i roi sylfaen gref i’r iaith, ond mynnodd nad oedd cyllid ar ei ben ei hun am warantu y byddai’r Gymraeg yn ffynnu.

Honnodd sawl un, fodd bynnag, fod y gostyngiadau’n anghyson ag amcanion polisi’r Llywodraeth ac y byddent yn cael effaith bellgyrhaeddol a niweidiol ar y gwaith a wneir i hyrwyddo’r iaith. Yn nhyb llawer, roedd y cwtogi’n arwydd o ddiffyg cynllunio strategol dros y tymor hir.

Arolwg 2013-15

Rhoddodd Arolwg Defnydd y Gymraeg 2013-15 rywfaint o newyddion da i’r iaith.

O’i gymharu ag arolwg tebyg a gynhaliwyd rhwng 2004 a 2006, roedd yn dangos bod 131,000 yn fwy o bobl ledled Cymru yn dweud eu bod yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg. Bu cynnydd nodedig mewn ardaloedd fel Caerdydd a Rhondda Cynon Taf.

Fodd bynnag, yn yr ardaloedd gyda’r gyfradd uchaf o siaradwyr Cymraeg (Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin) y gwelwyd y gostyngiadau mwyaf yn nifer y siaradwyr rhugl.

Roedd pobl ifanc hefyd yn fwy tebygol o siarad Cymraeg yn yr ysgol na gyda’u ffrindiau neu gartref.

Y ddeddfwriaeth

Elfen arall yn y fframwaith sy’n cefnogi’r Gymraeg yw’r system statudol o safonau iaith sy’n cael ei chyflwyno ar hyn o bryd.

Y safonau yw un o brif elfennau Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Bydd yn rhaid i wahanol gyrff gydymffurfio â’r rhain yn raddol, a’r bwriad yw y bydd y safonau yn ei gwneud yn fwy eglur i bobl pa hawliau ieithyddol sydd ganddynt a pha wasanaethau Cymraeg y gallant ddisgwyl eu cael gan wahanol sefydliadau.

Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am greu’r safonau, a thasg Comisiynydd y Gymraeg yw sicrhau bod cyrff yn cydymffurfio â hwy. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod y naill a’r llall yn anfodlon â sut mae Mesur 2011 yn gweithio yn hyn o beth.

Mae’r Comisiynydd wedi dweud yn gyhoeddus ei bod yn bryd cryfhau a symleiddio’r prosesau sydd yn y ddeddfwriaeth, tra bo’r Prif Weinidog hefyd wedi cydnabod y bydd angen edrych o’r newydd ar ddarnau o’r Mesur ar ôl etholiad 2016. Amser a ddengys a fydd Llywodraeth newydd Cymru yn bwrw yn ei blaen i wneud hyn.

Y system addysg

Ers tro byd, mae’r system addysg wedi bod yn rhan bwysig o’r ymdrechion i gryfhau’r Gymraeg, gyda Llywodraeth Cymru yn lansio Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn 2010 i geisio gwella’r broses gynllunio yn y maes ar gyfer pob oedran.

Roedd y strategaeth honno’n gosod targedau pum mlynedd ond methwyd â chyrraedd nifer o’r rheini. Yn wir, dangosodd gwerthusiad o’r strategaeth ym mis Mawrth 2016 nad oedd y weledigaeth a oedd yn sail iddi wedi cael ei ‘gwreiddio mewn ffordd gyson ar draws yr holl bartneriaid gweithredu’.

Fel rhan o’r strategaeth, mae’n rhaid i awdurdodau lleol fabwysiadu’r hyn a elwir yn Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Dywedodd adroddiad ym mis Rhagfyr 2015 gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Pedwerydd Cynulliad nad oedd y cynlluniau hyn wedi cyflawni eu potensial, a bod angen dirfawr am well perthynas waith rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn y maes.

Y camau nesaf

Erbyn i bobl Cymru lenwi eu ffurflenni Cyfrifiad nesaf, bydd y Pumed Cynulliad yn dirwyn i ben. Hwn fydd y cyfle mawr nesaf i gael data cymharol am gyflwr y Gymraeg. Gallai’r hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn y cyfamser – ym mhob un o’r meysydd uchod – fod o’r pwys mwyaf.

Ffynonellau allweddol

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg