Ymgysylltu â’r broses llunio polisïau a chraffu yng Nghymru: Sut mae gwaith ymchwil yn cyrraedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru?

25 Mai 2016

Blog gwadd gan Lauren Carter-Davies, Swyddog Ymchwil, Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru

Yn ychwanegol at ein cylch gwaith i gefnogi Gweinidogion Llywodraeth Cymru i ganfod eu hanghenion o ran tystiolaeth ac i roi cyngor a dadansoddiad arbenigol annibynnol iddynt, mae Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru yn ceisio chwarae rôl ehangach o ran datblygu’r ‘ecosystem tystiolaeth’ yng Nghymru – y rhwydweithiau a’r sianeli sy’n caniatáu i dystiolaeth hysbysu polisi ac arferion. Rydym o’r farn ei bod yn bwysig bod Aelodau’r Cynulliad sydd yn cymryd rhan mewn craffu ar bolisi a deddfwriaeth hefyd yn cael mynediad at arbenigwyr polisi annibynnol ac awdurdodol.

Mae Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn darparu gwaith ymchwil a gwybodaeth arbenigol a diduedd i gynorthwyo Aelodau’r Cynulliad a’r pwyllgorau i gyflawni swyddogaethau craffu, deddfu a chynrychioli’r Cynulliad. Mae darparu Gwasanaeth Ymchwil effeithiol yn gofyn am gael mynediad at ymchwil gan sefydliadau allanol ac unigolion sydd â gwybodaeth ac arbenigedd mewn meysydd pwnc perthnasol.

Ar ôl cael ein hysbrydoli gan Nine ways research gets into Parliament Sarah Foxen, fe benderfynom archwilio sut y mae ymchwil yn cyrraedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn ymgais i helpu cyflenwyr gwaith ymchwil allanol i ymgysylltu â’r broses llunio polisïau a chraffu. Pam ddylai cyflenwyr gwaith ymchwil allanol ymgysylltu? Ar ôl siarad â Staff y Gwasanaeth Ymchwil, mae ein canfyddiadau i’w gweld isod.

Sut y caiff gwaith ymchwil ei ddefnyddio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru?

Mae Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnwys arbenigwyr pwnc sy’n cynnig cefnogaeth a chyngor ymchwil uniongyrchol yn fewnol ar ystod eang o bynciau i Aelodau’r Cynulliad. Maent yn gwneud hyn drwy dri phrif wasanaeth;

  1. gwasanaeth ymholiadau;
  2. briffio pwyllgorau; a
  3. chyhoeddiadau rhagweithiol

Dyma ffeithlun sy’n dangos beth yw rôl y Gwasanaeth YmchwilFel rhan o’r gwasanaeth ymholiadau, gall Aelodau’r Cynulliad wneud ceisiadau am wybodaeth a thystiolaeth sy’n ymwneud â busnes y Cynulliad a gwaith etholaeth.

Yn ychwanegol at y gwasanaeth ymholiadau, mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cyhoeddi dogfennau briffio rhagweithiol, gan gynnwys eu blog, Pigion, ac amrywiaeth o ddogfennau briffio rhagweithiol ar bolisi a deddfwriaeth a chanllawiau etholaethol.

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil hefyd yn darparu sesiynau briffio i gefnogi pwyllgorau craffu’r Cynulliad yn eu swyddogaethau craffu ar bolisi, deddfwriaeth a chyllid. Yn yr achos hwn, caiff galwadau am dystiolaeth yn aml eu cyhoeddi fel rhan o’r broses ymgynghori a gellir hefyd gofyn i arbenigwyr unigol roi sesiynau briffio neu ddarparu cyngor arbenigol i aelodau pwyllgorau.

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil hefyd yn rhoi cymorth i Aelodau’r Cynulliad ddatblygu cynigion ar gyfer deddfwriaeth breifat Aelodau.

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn mynd ati i ymateb i ymholiadau a pharatoi sesiynau briffio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae pob arbenigwr pwnc yn ceisio cadw i fyny â’r newyddion diweddaraf a’r gwaith ymchwil yn eu maes. Mae ganddynt hefyd gronfa ddata arbenigol y gall arbenigwyr ac ymchwilwyr gofrestru arno er mwyn i Aelodau’r Cynulliad gysylltu â hwy pan maent angen arbenigedd allanol.

Sut y gall ymchwilwyr allanol gymryd rhan, gwneud eu gwaith ymchwil yn hygyrch a rhoi gwybod am eu harbenigedd?

Yn seiliedig ar ein sgyrsiau gyda staff y Gwasanaeth Ymchwil, rydym yn awgrymu y gallai’r canlynol helpu ymchwilwyr allanol i ymgysylltu fwy â’r prosesau llunio polisi a chraffu ar bolisi yng Nghymru.

1. Cysylltwch â ni i roi gwybod beth yw eich arbenigedd. Gan fod amserlenni yn aml yn dynn, mae staff y Gwasanaeth Ymchwil yn aml yn dibynnu ar gysylltiadau sydd eisoes yn bodoli i ddod o hyd i atebion i gwestiynau ymchwil. Drwy hysbysebu eich arbenigedd, byddwch yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd staff y Gwasanaeth Ymchwil yn defnyddio eich gwaith ymchwil neu yn cysylltu â chi i gael cyngor. Gall ymchwilwyr allanol gysylltu â’r Gwasanaeth Ymchwil mewn amrywiaeth o ffyrdd:

  • Cofrestrwch ar y gronfa ddata arbenigwyr fel ymgynghorydd arbenigol allanol er mwyn cael contractau ymchwil byrdymor posibl yn y dyfodol.
  • Cysylltwch â’r arbenigwr perthnasol yn y Gwasanaeth Ymchwil. Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn croesawu cael gwybod am gyhoeddiadau neu gynadleddau a allai fod o ddiddordeb i Aelodau’r Cynulliad a staff ymchwil. Mae cyfeiriadau e-byst staff y Gwasanaeth Ymchwil ar gael ar ddiwedd y Canllaw i’r Gwasanaeth Ymchwil (PDF 1.85MB).

2. Sicrhewch fod y wybodaeth ddiweddaraf gennych ynghylch buddiannau Aelodau’r Cynulliad er mwyn bod yn ymwybodol o’r adegau y gallai eich gwaith ymchwil neu eich arbenigedd fod yn berthnasol. Gall ymchwilwyr allanol sicrhau fod ganddynt y wybodaeth ddiweddaraf drwy:

  • Agendâu a Datganiadau Busnes y Cyfarfod Llawn, sy’n cael eu cyhoeddi o flaen llaw. Os bydd dadl wedi’i threfnu sy’n berthnasol i’ch maes, efallai y byddai’n werth cysylltu ag Aelod o’r Cynulliad i esbonio eich gwaith ymchwil.
  • Blog y Gwasanaeth Ymchwil, Pigion, sy’n cyhoeddi erthyglau cyfoes ar faterion sydd o ddiddordeb i Aelodau’r Cynulliad. Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn diweddaru eu blog a’u cyhoeddiadau â’r wybodaeth ddiweddaraf yn barhaus, felly maent yn croesawu sylwadau arnynt. Gallwch hefyd danysgrifio i gael eich hysbysu bod cyhoeddiad newydd sy’n berthnasol i’ch maes.
  • Cadw llygad ar gylch gwaith pwyllgorau’r Cynulliad a chofrestru diddordeb gyda chlerc y pwyllgor, os yw eich gwaith yn berthnasol, er mwyn peidio â cholli unrhyw alwadau am dystiolaeth.
  • Mae cyhoeddiad ‘‘Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad’ (PDF 15.9MB) Gwasanaeth Ymchwil yn nodi detholiad o faterion tebygol o bwys i Aelodau’r Pumed Cynulliad.

3. Gwnewch eich gwaith ymchwil a’ch arbenigedd mor hygyrch â phosibl i gynulleidfaoedd nad ydynt yn academaidd. Am fod galwadau niferus ac amserlenni byr gan staff y Gwasanaeth Ymchwil, dylech ei gwneud mor hawdd â phosibl iddynt asesu perthnasedd eich gwaith ymchwil a deall y prif negeseuon. Yn ymarferol, gall sefydliadau ymchwil wneud eu hymchwil yn hygyrch drwy:

  • Bennu un pwynt cyswllt o fewn eich Athrofa neu Ysgol y gall staff y Gwasanaeth Ymchwil gysylltu â hwy i gael gwybodaeth am ffynonellau o arbenigedd ac ymchwil.
  • Creu cylchlythyr neu ddogfen sy’n sôn am waith ymchwil diweddar neu barhaus, gan ychwanegu’r arbenigwr perthnasol o’r Gwasanaeth Ymchwil at eich rhestr bostio.

4. Gwneud cais am interniaeth tri mis. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar y cyd â’r Cynghorau Ymchwil, yn cynnig cyfle i fyfyrwyr PhD ddysgu am y broses o lunio polisïau yng Nghymru drwy gyfrwng cystadleuaeth agored, a gynhelir gan y Cynghorau Ymchwil.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn awyddus i greu gwell cysylltiadau â chyflenwyr gwaith ymchwil allanol. Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn datblygu cynllun ymgysylltu academaidd newydd a fydd yn rhan o strategaeth ymgysylltu ehangach ar gyfer y Pumed Cynulliad. Mae’n archwilio a fyddai mentrau ymgysylltu academaidd a ddefnyddir mewn gwledydd eraill y DU yn gweithio yma yng Nghymru. Mae’r rheiny’n cynnwys sefydlu rhwydwaith o gysylltiadau ar draws prifysgolion Cymru fel pwynt cyswllt cyntaf wrth chwilio am arbenigedd ymchwil ar fater, a sefydlu cyfres o seminarau cyfnewid gwybodaeth er mwyn i academyddion gyflwyno eu canfyddiadau ymchwil i Aelodau’r Cynulliad. Mae’r Gwasanaeth Ymchwil hefyd yn ymwybodol iawn o’r angen i academyddion allu dangos effaith eu gwaith, fel sy’n ofynnol gan y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, ac mae’n awyddus i archwilio sut y gallai helpu wrth ddarparu adborth ystyrlon am yr effaith. Yn gyffredinol, ymddengys mai neges y Gwasanaeth Ymchwil yw: ‘Mae’r drws ar agor, dewch i siarad â ni’.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg