Ffyrdd newydd o feddwl am dlodi

25 Mai 2016

Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

A oes angen i ni geisio deall tlodi o’r newydd er mwyn lleihau tlodi yn effeithiol?

Mae ein dealltwriaeth o dlodi yn newid. Er mwyn cynllunio ymyriadau llwyddiannus a rhaglenni sydd wedi’u targedu’n dda, mae angen tystiolaeth dda sy’n cydnabod profiadau unigol o dlodi.

Wrth ddefnyddio diffiniad sy’n seiliedig ar incwm, ni ellir byth dileu tlodi yn gyfan gwbl gan ei fod yn cael ei fesur mewn perthynas ag incwm y boblogaeth, ond gellir lleihau nifer y teuluoedd tlawd. A fydd llywodraethau Cymru yn y dyfodol yn ystyried gwahanol ddimensiynau o dlodi wrth lunio polisi, fel anghenion, profiadau neu hyd yn oed dargedau cenedlaethol?

Anghenion sylfaenol

Bwyd, lloches a chynhesrwydd yw’r ‘anghenion dynol sylfaenol’. Mae’r pethau hyn yn hanfodol er mwyn goroesi, a hebddynt bydd canlyniadau difrifol i iechyd corfforol pobl a’u gallu i weithio neu ddysgu.

Ym marn Sefydliad Bevan , mae seilio polisïau ac ymyriadau ar anghenion sylfaenol yn symud y ddadl ynghylch tlodi i ffwrdd o bethau fel pa un a oes gan bobl ar incwm isel setiau teledu 52 modfedd i elfennau sylfaenol bywyd, sef cael cartref cynnes nad yw’n llaith a digon i’w fwyta. Wrth gwrs, mae profiadau o dlodi yn mynd y tu hwnt i anghenion sylfaenol yn unig.

O edrych ar anghenion sylfaenol ochr yn ochr â’r mesur incwm traddodiadol, mae’n bosibl cael dealltwriaeth ddyfnach o natur tlodi, a sut y gall llywodraethau yn y dyfodol ei leihau neu ei ddileu:

  • bwyd: mae defnydd pobl o fanciau bwyd yn un ffordd o fesur tlodi bwyd. Cafodd ychydig yn llai na 15,000 o bobl mewn argyfwng yng Nghymru gwerth tri diwrnod o fwyd brys gan yr elusen, Trussell Trust, yn 2011-12. Erbyn 2015-16, cododd y ffigur hwn i bron 86,000, sef cynnydd o 483 y cant;
  • lloches: roedd gostyngiad bach yn nifer yr aelwydydd a nodir fel rhai digartref o 6,515 yn 2011-12 i 5,070 yn 2014-15;
  • cynhesrwydd: mae tlodi tanwydd yng Nghymru wedi cynyddu o 29 y cant yn 2011 i 41 y cant yn 2013.

Tystiolaeth a meincnodi

Mae’n hanfodol cael data cadarn a gwaith ymchwil o safon ar lefel Cymru, wedi’u dadansoddi yn ôl statws gwaith, rhyw, lleoliad, anabledd, ethnigrwydd a ffactorau eraill, er mwyn sicrhau bod rhaglenni lleihau tlodi yn cael eu targedu at y bobl y mae eu hangen arnynt fwyaf.

Nid oes data swyddogol ar dlodi bwyd a thlodi tanwydd yn cael eu casglu na’u cyhoeddi yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae yna hefyd ddiffyg amlwg o ddata ar ddifrifoldeb a pharhad (dwysedd) tlodi. Ni chaiff data ar dlodi eu dadansoddi yn ôl ffactorau demograffig ychwaith, fel rhyw, anabledd ac ethnigrwydd. Heb y dimensiynau hyn o wybodaeth, nid oes modd priodoli’n gywir unrhyw gynnydd i gamau gweithredu’r llywodraeth, a gellir dadlau bod y swyddogion sy’n gwneud penderfyniadau ynglŷn â hyn yn gweithio yn y tywyllwch i bob pwrpas. Roedd llawer o alwadau am sylfaen dystiolaeth well ar dlodi yng Nghymru yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, ac mae’r mater yn debygol o godi yn y Pumed Cynulliad.

Pobl neu leoedd

Un o’r trafodaethau eraill am leihau tlodi’n effeithiol yw sut i dargedu rhaglenni gwrthdlodi. Gall y rhain fod yn:

  • rhaglenni daearyddol: lle y mae gwasanaethau’n canolbwyntio ar yr ardaloedd tlotaf;
  • rhaglenni demograffig: lle y caiff gwasanaethau eu targedu at grwpiau penodol o bobl sydd mewn mwy o berygl o dlodi; neu’n
  • rhaglenni cyffredinol: lle y mae gwasanaethau’n cael eu darparu i bawb heb ystyried lleoliad, incwm na demograffeg.

Mae manteision ac anfanteision i bob un o’r dulliau uchod.

Mae’n rhesymegol darparu rhaglenni ar sail lleoliad, gan fod data daearyddol ar dlodi yn cael eu casglu ar hyn o bryd, a gellir gweld bod lefel uchel o dlodi mewn rhai ardaloedd. Ond nid dim ond mewn ardaloedd tlawd y mae pobl dlawd yn byw; mae ceiswyr lloches yn enghraifft o sut y mae grwpiau penodol sy’n dlawd iawn yn aml i’w cael y tu allan i’r ardaloedd a dargedir gan nad oes ganddynt unrhyw reolaeth dros ble y maent yn byw, a gallant fyw yn bell o’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

Y fantais wrth dargedu rhaglenni at grwpiau penodol o bobl (fel menywod, pobl hŷn neu bobl ag anabledd) yw y gellir teilwra gwasanaethau i’w hanghenion. Y broblem yw’r diffyg data ynghylch pwy sy’n byw mewn tlodi, a sut i ddarparu gwasanaethau i grwpiau o bobl sydd ag anghenion gwahanol mewn lleoliadau ar wasgar. Er enghraifft, mae menywod sengl dros 80 oed mewn risg uchel o dlodi difrifol, ond anodd fyddai adnabod y grŵp hwn a darparu gwasanaethau iddynt yn effeithiol ac yn effeithlon gan ddefnyddio’r data cyfredol.

Mae rhaglenni cyffredinol yn sicrhau’r un lefel o wasanaeth i bawb ac yn ‘ymyriadau cynnar’ fel arfer, ond nid ydynt yn ystyried y lefelau gwahanol o angen. Er enghraifft, nod rhoi presgripsiynau am ddim i bawb yw atal afiechydon rhag gwaethygu a lleihau costau gweinyddu, ond byddai rhai o’r bobl sy’n derbyn y gwasanaeth yn gallu fforddio prynu meddyginiaeth heb gymorth y llywodraeth.

Y dyfodol – rhwymedigaethau a thargedau

Daeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 i rym ym mis Ebrill 2016, a’i nod yw gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Cyflwynodd y Ddeddf saith nod llesiant y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus weithio i’w cyflawni, gan gynnwys ‘Cymru lewyrchus’ a ‘Chymru sy’n fwy cyfartal’. Defnyddir set o ddangosyddion i olrhain cynnydd, yn cynnwys: cyfraddau tlodi ar gyfer plant, pobl o oedran gweithio a phensiynwyr a’r gyfradd amddifadedd sylweddol, a gesglir gan Arolwg Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf yn 2016-17.

Ond nid yw’r dangosyddion yn cynnwys targedau – er enghraifft, eir ati i fesur y lefel o dlodi, ond nid oes targed i leihau nifer y bobl mewn cartrefi incwm isel gan ffigur neu ganran penodol.

Mae’r materion a drafodir yma yn dangos bod y diffyg tystiolaeth presennol yn rhwystr i leihau tlodi’n effeithiol. Pe bai data gwell yn cael eu casglu, byddai’n haws dweud pa fentrau sy’n llwyddo a pha rai sy’n methu. A fydd llywodraethau Cymru yn y dyfodol yn cymryd y risg o bennu targedau i leihau tlodi er y gallent fethu’r nod?

Ffynonellau allweddol

Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Pedwerydd Cynulliad, Tlodi ac anghydraddoldeb (2015)

Sefydliad Bevan, National programme to spread prosperity and improve life chances (Saesneg yn unig) (2016)

Llywodraeth Cymru, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 – dangosyddion cenedlaethol (2016)

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg