Ffordd liniaru’r M4

24 Mai 2016

Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Daw’r erthygl hon o Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad’, a gyhoeddwyd ar 12 Mai 2016.

Mae tagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd yn cael effaith fawr ar y de, yn enwedig ar yr economi. A oes modd cyfiawnhau costau ariannol ac amgylcheddol creu ffordd liniaru?

Bydd yn rhaid i Lywodraeth newydd Cymru wneud penderfyniadau mawr yn gynnar yn y Pumed Cynulliad ar brosiect seilwaith mwyaf Llywodraeth Cymru hyd yn hyn – ffordd liniaru’r M4.

M4 route Welsh

 

Y cynllun

Mae cynlluniau i gynyddu’r capasiti ar yr M4 o amgylch Casnewydd wedi cael eu trafod ers y 1990au cynnar pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn ffafrio llwybr sy’n eithaf tebyg i’r cynigion presennol. Barnwyd yn 2009 y byddai’r prosiect yn rhy ddrud, ond fe’i hadfywiwyd yn sgil y cytundeb ar bwerau benthyca rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn 2013.

Yn 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y ddogfen Coridor yr M4 o Amgylch Casnewydd – Y Cynllun. Roedd y ddogfen hon yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn ffafrio llwybr ar gyfer traffordd tair lôn i’r de o Gasnewydd rhwng Magwyr a Chas-bach. Roedd y ddogfen hefyd yn rhestru pedwar ffactor pwysig a oedd yn sail i’r cynllun:

  • capasiti: erbyn 2037, bydd llif y traffig rhwng cyffordd 23A a chyffordd 29 yr M4 bresennol yn fwy na 100% o’r capasiti yn ystod yr oriau brig ganol wythnos;
  • y gallu i ymdopi: mae angen gwella gallu’r rhwydwaith i ymdopi â gwrthdrawiadau a digwyddiadau;
  • diogelwch: mae i’r M4 bresennol gyfyngiadau dylunio, tra bo tagfeydd cynyddol yn achosi mwy o ddigwyddiadau a gwrthdrawiadau; a
  • datblygu cynaliadwy: mae tagfeydd yn rhwystr i dwf economaidd, ac mae ansawdd aer gwael a llygredd sŵn yn effeithio’n gynyddol ar gymunedau lleol.

Y ddadl

Mae cytundeb cyffredinol bod angen mynd i’r afael â thagfeydd ar yr M4, ond mae dadlau mawr ynghylch sut y dylid gwneud hynny.

Cyhoeddodd CBI Cymru gynllun ar gyfer ffyniant ym mis Tachwedd 2015, gan ddadlau bod angen buddsoddi’n sylweddol yn y rhwydwaith trafnidiaeth. Mae ffordd liniaru’r M4 yn ganolog i’r cynllun hwn. Yn ôl CBI Cymru, mae angen y ffordd liniaru hefyd er mwyn cynyddu ffyniant a chyflogaeth yn y de a’r gorllewin. Mae’n awgrymu hefyd y byddai canslo’r prosiect yn niweidio enw da Llywodraeth Cymru o fewn y gymuned fusnes yn y tymor hir.

Mae Siambr Fasnach De Cymru hefyd wedi dadlau yn ei hymgyrch dros fusnesau 2015-2020 bod y ffordd, ynghyd â buddsoddiadau trafnidiaeth eraill fel Metro’r de a thrydaneiddio prif reilffordd y gogledd, yn angenrheidiol er mwyn meithrin hyder buddsoddwyr. Yn 2013, dywedodd 34% o aelodau’r Siambr bod yr M4 bresennol yn cael effaith negyddol ar eu busnes, gyda 76% o’r aelodau ar draws y de yn cefnogi’r llwybr y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio.

Serch hynny, nid yw’r gymuned fusnes i gyd o blaid. Yn ei hymateb i’r ymgynghoriad ar y cynllun drafft, holodd FSB Cymru pa mor gywir yw’r model a ddefnyddiwyd i ragamcanu’r twf mewn traffig. Cododd amheuon ynglŷn â pha mor fforddiadwy yw’r prosiect yn sgil ymrwymiadau eraill i fuddsoddi mewn trafnidiaeth, a dadleuodd nad oedd effeithiau’r Metro na’r polisi teithio cynaliadwy wedi cael eu hystyried yn ddigonol. Honnodd FSB Cymru hefyd nad oedd y Llywodraeth wedi asesu effaith y cynllun ar yr amgylchedd yn ddigon da yr adeg honno.

Cyrff amgylcheddol yw’r gwrthwynebwyr pennaf, ac mae nifer ohonynt wedi ffurfio cynghrair yr Ymgyrch yn Erbyn Traffordd y Gwastadeddau (CALM). Yn fwy na dim, maent yn gwrthwynebu’r ffaith bod llwybr y ffordd yn pasio drwy Wastadeddau Gwent, sy’n cynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac ardaloedd eraill a warchodir. Mae CALM yn dadlau bod y ffordd yn bygwth un o gorsydd pori hynafol mwyaf y DU, yn ogystal â systemau dŵr sy’n cynnal bywyd gwyllt unigryw. Ynghyd â difetha cynefinoedd, mae’n credu y byddai’r ffordd yn rhwystr i fywyd gwyllt ac i lif dŵr, ac y byddai llygredd dŵr ffo yn cael effaith andwyol ar ansawdd dŵr. Mae CALM hefyd yn pryderu am effaith allyriadau carbon posibl y cynllun.

Fel FSB Cymru a chyrff eraill, mae CALM wedi cefnogi’r Llwybr Glas a gynigiwyd gan yr Athro Stuart Cole.

Byddai’r Llwybr Glas (PDF 724 KB) yn defnyddio cyfuniad o Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol Casnewydd ar yr A48, a hen ffordd y gwaith dur ar ochr ddwyreiniol Casnewydd, i greu ffordd ddeuol newydd. Mae’r rheini sydd o blaid hyn yn dadlau y byddai modd adeiladu’r ffordd hon yn rhatach ac yn gyflymach na’r ffordd liniaru.

Cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru arfarniad o’r dewisiadau eraill a ystyriwyd yn ystod y broses ymgynghori (PDF 2.39MB),  ac awgrymodd yr arfarniad hwn na fyddai’r Llwybr Glas yn cyflawni amcanion y cynllun. Awgrymwyd hefyd y byddai’n galw am fuddsoddiad sylweddol heb ddigon o fanteision yn deillio ohono.

Y dyfodol

Ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad amgylcheddol y cynllun, gan nodi sut y bydd yn lliniaru’r effeithiau negyddol ar yr amgylchedd. Nid yw’n glir eto i ba raddau y mae’r datganiad hwn yn lleddfu’r pryderon amgylcheddol. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hefyd ddeddfwriaeth ddrafft a oedd yn paratoi’r ffordd ar gyfer y gwaith adeiladu, ynghyd ag ystod o adroddiadau eraill.

Ym mis Mai 2015, dywedodd y Prif Weinidog wrth y Pedwerydd Cynulliad y byddai’r cynllun yn costio dipyn yn llai na £1 biliwn. Er mai £857 miliwn yw’r amcangyfrif a geir o’r gost adeiladu yn y dogfennau newydd, gan gynnwys £45 miliwn ar gyfer gwaith ar yr amgylchedd a’r dirwedd, mae’r gwerthusiad economaidd yn amcangyfrif mai cyfanswm y gost fydd £1.131 biliwn, heb gynnwys TAW a chwyddiant.

Yn dibynnu ar yr ymatebion i’r datganiad amgylcheddol a’r gorchmynion drafft, bydd angen i Lywodraeth newydd Cymru benderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad lleol cyhoeddus, yn ôl pob tebyg yn ystod hydref neu aeaf 2017. Yn dibynnu wedyn ar adroddiad yr ymchwiliad hwnnw, byddai’n rhaid i’r Llywodraeth benderfynu a ddylid bwrw ymlaen. Pe bai’n gwneud hynny, ac oni bai bod her gyfreithiol i’r cynllun, gallai’r gwaith adeiladu ddechrau yn ystod gwanwyn 2018, gyda’r ffordd yn agor yn hydref 2021.

Ffynonellau allweddol

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg