Diwygio’r cwricwlwm a hyfforddi athrawon

24 Mai 2016

Erthygl gan Sian Hughes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Daw’r erthygl hon o Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad’, a gyhoeddwyd ar 12 Mai 2016.

Mae bwriad i gyflwyno cwricwlwm cwbl newydd, a bydd athrawon y presennol a’r dyfodol yn allweddol er mwyn iddo lwyddo. A all Llywodraeth newydd Cymru sicrhau bod yr athrawon yn barod am hyn?

Ym mis Chwefror 2015, canfu adolygiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru o’r cwricwlwm ysgol a’r trefniadau asesu nad yw’r rheini bellach yn diwallu anghenion plant a phobl ifanc Cymru. Dywedodd yr Athro Graham Donaldson, awdur yr adolygiad, fod ‘y ddadl o blaid newid sylfaenol yn un rymus’.

Yn wyneb ymdrechion parhaus i wella safonau ysgolion a’r ffaith nad yw perfformiad disgyblion Cymru cystal â’r disgwyl o’i gymharu â’u cyfoedion, derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhellion yr Athro Donaldson. Dyma gychwyn cyfnod newydd yn y broses o ddiwygio addysg yng Nghymru.

Diwygiadau mewn tair rhan

Ym mis Mawrth 2015, canfu adolygiad arall a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fod y trefniadau i hyfforddi athrawon wedi cyrraedd trobwynt allweddol. Daeth yr adolygiad hwn i’r casgliad fod angen hyfforddiant ehangach er mwyn rhoi agenda Donaldson ar waith, gan ‘roi i’r athrawon eu hunain y sgiliau, yr wybodaeth a’r awydd i arwain y newidiadau angenrheidiol’.

O ganlyniad, nid yw cwricwlwm newydd i Gymru ond yn un rhan o’r hyn a alwodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau blaenorol, yn broses ddiwygio mewn tair rhan. Y ddwy elfen arall yw datblygiad proffesiynol athrawon presennol a hyfforddiant cychwynnol darpar athrawon. Yng ngeiriau’r Gweinidog, mae’r rhain yn hanfodol er mwyn i’r gweithlu gyflawni’r broses o ‘ail-greu cwricwlwm hollol newydd o’r gwaelod i fyny gydag athroniaeth wahanol yn sail iddo’.

Cafwyd cefnogaeth drawsbleidiol gyffredinol i weledigaeth Donaldson ac i’r angen i ddiwygio’r gweithlu, sy’n golygu bod y mater hwn yn debygol o fod yn amlwg ar agenda’r Pumed Cynulliad waeth pwy sy’n ffurfio’r llywodraeth.

Cwricwlwm newydd

Mae’r cwricwlwm presennol wedi cael ei ddiwygio sawl gwaith ers ei sefydlu ym 1988, ond mae cynigion yr Athro Donaldson yn ei ailwampio’n sylfaenol. Dywedodd Llywodraeth ddiwethaf Cymru yn eglur nad mater o wneud mân waith trwsio yma ac acw mo hyn. Fel y dywedodd y Gweinidog blaenorol, ‘mae’r hen system ar fin marw’.

Roedd amserlen Llywodraeth flaenorol Cymru ar gyfer gweithredu’r cwricwlwm newydd yn uchelgeisiol. Er y byddai gan ysgolion rywfaint o hyblygrwydd, gallai’r cwricwlwm newydd fod ar gael erbyn mis Medi 2018 gyda phob ysgol yn ei ddefnyddio o fis Medi 2021. Cafodd y cynigion gefnogaeth pob plaid wleidyddol yn y Pedwerydd Cynulliad, a chan fudiadau athrawon hefyd. Un cwestiwn allweddol yw sut ac i ba raddau y bydd y disgyblion eu hunain yn rhan o’r broes. Bydd gan weithwyr proffesiynol yn y maes gyfraniad enfawr i’w wneud at y gwaith o gynllunio a datblygu’r cwricwlwm.

Nodweddion allweddol y cwricwlwm newydd

  • Pedwar prif ddiben
  • Chwe maes dysgu
  • Llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol disgwyliedig gan bob athro
  • Pum cam, mewn dilyniant o dair blynedd, yn lle’r cyfnodau allweddol.

Datblygiad proffesiynol athrawon presennol

Bydd datblygiad proffesiynol athrawon yn rhan hanfodol o’r broses o gyflwyno’r cwricwlwm newydd. Cydnabu’r Gweinidog blaenorol nad oes gan ysgolion y sgiliau ar hyn o bryd i fynd i’r afael â dyfnder y newid arfaethedig. Gyda golwg ar ofynion y cwricwlwm newydd, cyflwynwyd agwedd newydd ar ddatblygiad proffesiynol athrawon yn 2014 (y ‘Fargen Newydd’). Nod y Fargen Newydd hon oedd gwella addysgu a dysgu.

Fel yn achos y cwricwlwm newydd, bydd ‘ysgolion arloesi’ yn arwain y gwaith o gynllunio a darparu amrywiaeth o gyfleoedd dysgu proffesiynol. Cydnabu’r Gweinidog blaenorol nad oes digon o gyllid yn y system i gefnogi’r Fargen Newydd ond dywedodd yn glir nad oes arian ychwanegol ar gael. Mae hyn yn codi cwestiwn ynghylch pwy fydd yn talu’r gwahaniaeth, a sut y gwneir hynny, gyda Llywodraeth ddiwethaf Cymru yn awgrymu y dylai’r gweithlu ei hun gyfrannu at ariannu’r Fargen Newydd.

Nodweddion allweddol y Fargen Newydd

  • Hawl i ddatblygiad proffesiynol
  • Pasport dysgu proffesiynol ar-lein
  • Symud oddi wrth gyrsiau hyfforddi ‘untro’ i gyfeiriad datblygiad ar y cyd

Athrawon y dyfodol

Trydedd elfen y diwygiadau yw hyfforddiant cychwynnol ac addysg darpar athrawon. Cynhaliwyd nifer o adolygiadau o hyfforddiant athrawon ers i’r Cynulliad gael ei sefydlu. Y mwyaf diweddar oedd Adroddiad Furlong ym mis Mawrth 2015, a ganfu fod ansawdd hyfforddiant athrawon wedi gwaethygu yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Dywedodd yr Athro Furlong hefyd nad yw hyfforddiant athrawon yng Nghymru yn adlewyrchu’r arferion gorau rhyngwladol na’r hyn a fydd yn ofynnol i weithredu’r cwricwlwm newydd. Ymatebodd y Gweinidog blaenorol drwy ddweud bod dyddiau’r system bresennol wedi dod i ben.

Roedd Llywodraeth ddiwethaf Cymru yn bwriadu gwella ansawdd cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon trwy ailwampio’r cymhwyster addysgu a’r broses achredu, a thrwy ddiwygio safonau addysgu proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys llwybr israddedig newydd ar gyfer darpar athrawon, a hwnnw’n para pedair blynedd; mwy o arbenigedd pwnc i’r rhai sydd am addysgu oedran cynradd; a chwrs dwy flynedd newydd i fyfyrwyr ôl-raddedig. Mae’r camau hyn yn rhan o gynllun ehangach, tymor hir i weithio tuag at broffesiwn addysgu lle mae gan bob athro radd meistr.

Nid ydym yn gwybod eto sut y bydd hyfforddiant cychwynnol i athrawon yn cael ei gyflwyno yn y dyfodol. Awgrymodd yr Athro Furlong y gellid cael un, tair neu bum canolfan hyfforddi, ond argymhellodd y dylid dilyn proses o dendro cystadleuol ar gyfer darparwyr achrededig. Er na wnaeth y Gweinidog blaenorol ragnodi nifer y canolfannau, rhybuddiodd fod angen i ddarparwyr presennol wella eu safonau os oeddent am fod yn rhan o’r weledigaeth yn y dyfodol. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru, fel arall, yn barod i brynu’r hyfforddiant gorau o ble bynnag y caiff ei gynnig. O ystyried y twf mewn hyfforddiant sy’n cael ei arwain gan ysgolion, fel School Direct, a’r amheuon ynglŷn â pha mor gynaliadwy yw darpariaeth prifysgolion yn Lloegr, gall y weledigaeth hon fod yn ddeniadol i ganolfannau y tu allan i Gymru.

Lansiwyd y broses ddiwygio hon yn ystod cyfnod o bolisïau oedd wedi’u hanelu’n benodol at wella ysgolion. Yr her i Lywodraeth newydd Cymru fydd diwygio’r cwricwlwm a’r gweithlu mewn ffordd sy’n cyflymu, yn hytrach nag yn arafu, gwelliannau mewn safonau ysgolion a pherfformiad disgyblion.

Ffynonellau allweddol

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg