Rheoli’r perygl o lifogydd

20 Mai 2016

Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Daw’r erthygl hon o Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad’, a gyhoeddwyd ar 12 Mai 2016.

Mae llifogydd yn fygythiad cyson i lawer o gymunedau ledled Cymru. Sut fydd Llywodraeth newydd Cymru yn amddiffyn pobl ac eiddo rhag y difrod y mae llifogydd ac erydu arfordirol yn ei achosi?

Mae rheoli’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol yn her barhaus. Mae newid yn yr hinsawdd yn golygu ein bod yn debygol o gael tywydd difrifol yn amlach, a’i bod hefyd yn fwy anodd darogan hwnnw. Mae hyn yn cynyddu’r perygl o lifogydd mewn nifer o gymunedau ledled Cymru.

Y polisi

Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am reoli’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol, ac i raddau helaeth, hi sydd hefyd yn ariannu’r awdurdodau rheoli perygl i wneud gwaith i atal llifogydd ac erydu arfordirol. Yng Nghymru, yr awdurdodau hynny’n bennaf yw Cyfoeth Naturiol Cymru a’r awdurdodau lleol.

Mae pedwar prif amcan i strategaeth genedlaethol y Llywodraeth flaenorol ar gyfer rheoli’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol:

Llun o ffordd dan ddŵr

Llun o Flickr gan http://www.MorienJones.com. Dan drwydded Creative Commons.

  • lleihau effaith llifogydd ac erydu arfordirol ar unigolion, cymunedau, busnesau a’r amgylchedd;
  • codi ymwybyddiaeth am y perygl o lifogydd ac erydu arfordirol, a thynnu sylw pobl at hyn;
  • ymateb yn effeithiol ac yn barhaus i achosion o lifogydd ac erydu arfordirol; a
  • blaenoriaethu buddsoddiad yn y cymunedau sy’n wynebu’r perygl mwyaf.

Mae’r strategaeth yn cyfuno dulliau traddodiadol, fel draenio ac amddiffyn, gyda dulliau sy’n ceisio rheoli’r perygl.

Mae rheoli’r perygl yn golygu cydnabod nad yw’n bosibl atal pob achos o lifogydd ac erydu arfordirol, ond bod modd defnyddio amrywiaeth o wahanol ddulliau i reoli effaith hyn, yn aml drwy weithio gyda natur, yn hytrach nag yn ei erbyn. Er enghraifft, mae’r strategaeth yn awgrymu y dylid gwneud mwy o ddefnydd o ardaloedd fel gwlyptiroedd neu forfeydd heli a chanfod ardaloedd sy’n addas i’w gorlifo ac i storio dŵr. Mae hefyd yn golygu y dylai datblygiadau adeiladu gael eu cynllunio i wrthsefyll llifogydd ac erydu arfordirol, ac y dylid gwneud mwy o ddefnydd o systemau draenio cynaliadwy.

Gall rheoli’r perygl mewn ardaloedd arfordirol hefyd olygu peidio ag ymyrryd yn rhagweithiol neu adlinio’r traethlin drwy reoli’r broses honno. Ystyr adlinio o’r fath yw caniatáu i’r traethlin symud yn ôl neu ymlaen yn naturiol, ond gan reoli’r broses drwy gyfeirio’r modd y mae’n symud mewn ardaloedd penodol. Yn amlwg, gall fod yn anodd i gymunedau ac unigolion dderbyn polisïau o’r fath. Ym mis Hydref 2015, dywedodd Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, wrth y Pedwerydd Cynulliad:

Bydd newid yn yr hinsawdd yn golygu y bydd angen cefnogaeth tymor hir ar rai o’n cymunedau arfordirol … wrth iddynt wynebu addasiadau sylweddol pan fydd lefel y môr yn codi ac wrth i’r risgiau sy’n gysylltiedig â bywyd ac eiddo ddod yn anghynaladwy.

Mae’r dull strategol o reoli traethlin Cymru wedi’i amlinellu yn y pedwar Cynllun Rheoli Traethlin, un ar gyfer pob rhan wahanol o’r wlad.

Adolygu llifogydd arfordirol 2014

Achosodd stormydd mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr 2014 ddifrod difrifol i lawer o arfordir Cymru, ac ni fydd y bobl sy’n byw yn y cymunedau a ddioddefodd waethaf fyth yn eu hanghofio. Bu llifogydd mewn dros 300 o dai ac amcangyfrifwyd bod gwerth £8.1 miliwn o ddifrod wedi’i achosi i amddiffynfeydd llifogydd ac amddiffynfeydd arfordirol.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, fodd bynnag, ni fu llifogydd mewn 74,000 o gartrefi ac adeiladau, er bod y potensial yno i hynny ddigwydd. Mae’n golygu bod llifogydd wedi effeithio ar lai nag 1 y cant o’r eiddo a oedd mewn perygl. Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod hynny oherwydd y blynyddoedd o fuddsoddi blaenorol mewn amddiffynfeydd arfordirol a’r gwaith a wnaed i’w cynnal a’u cadw.

Aeth Cyfoeth Naturiol Cymru ati i wneud gwaith sylweddol i adolygu’r amddiffynfeydd yn dilyn y stormydd. Roedd yr adolygiad mewn dau gam – yn gyntaf, aseswyd effaith y llifogydd; yn ail, gwnaed 47 o argymhellion gyda’r nod o wella gallu Cymru i wrthsefyll llifogydd arfordirol mewn chwe maes:

  • buddsoddi parhaus er mwyn rheoli’r perygl mewn ardaloedd arfordirol;
  • gwybodaeth well am systemau sy’n amddiffyn rhag llifogydd arfordirol;
  • mwy o eglurder ynghylch gwahanol swyddogaethau a chyfrifoldebau asiantaethau ac awdurdodau;
  • asesu sgiliau a chapasiti;
  • mwy o gymorth i helpu cymunedau i wrthsefyll llifogydd yn well; a
  • chyflwyno cynlluniau sydd wedi’u datblygu’n lleol ar gyfer cymunedau arfordirol.

Dywedodd y Gweinidog ar y pryd y byddai 42 o’r 47 argymhelliad wedi’u rhoi ar waith erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2015-16 (mae’r pum argymhelliad sy’n weddill yn ymwneud â gwaith parhaus sydd heb derfyn amser penodol).

Ni fyddwn yn gwybod yn iawn pa mor effeithiol yw’r newidiadau hyn tan y tro nesaf y bydd tywydd garw yn taro’r amddiffynfeydd arfordirol o amgylch Cymru.

Y cyllid

Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, buddsoddodd Llywodraeth flaenorol Cymru tua £245 miliwn er mwyn rheoli’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol. Fodd bynnag, cwtogwyd y cyllid ar gyfer hyn yn ogystal â chyllideb waith Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Pan holwyd ef gan Bwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Pedwerydd Cynulliad ym mis Ionawr 2016, dywedodd y Gweinidog ar y pryd ei fod yn cydnabod y byddai’r toriadau yn rhoi pwysau ar Cyfoeth Naturiol Cymru ac y byddai mwy o berygl i gymunedau gan fod llai o arian ar gael yn y system. Awgrymodd hefyd y byddai toriadau pellach i’r gyllideb yn gallu gwthio Cyfoeth Naturiol Cymru i fan lle y byddai’n rhaid iddo roi’r gorau i wneud gwaith penodol. Dywedodd:

I think there will come a time when NRW are pressured and they are unable to continue with some of the duties that they currently do. I don’t believe it’s now.

Yn ddiweddarach, ysgrifennodd Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, at y Pwyllgor yn cadarnhau bod rheoli’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol yn faes lle y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gorfod gwneud arbedion a newidiadau i’w ffordd o weithio.

Rhaglen newydd i reoli’r perygl

Yn 2014, cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru raglen newydd gwerth £150 miliwn i reoli’r perygl o erydu arfordirol – rhaglen sydd i fod i’w rhoi ar waith yn 2018. Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ac mae £3 miliwn eisoes wedi’i neilltuo i wneud gwaith paratoi. Ym mis Mawrth 2016, nododd Llywodraeth Cymru y gallai Banc Buddsoddi Ewrop fod yn ffynhonnell bosibl o gyllid ar gyfer y rhaglen.

Er bod y ffocws ar leihau’r perygl i gartrefi a busnesau, dywedodd y Gweinidog ar y pryd y bydd y rhaglen hefyd yn ceisio sicrhau manteision eraill yn ymwneud â’r economi, yr amgylchedd a lles.

Nid ydym yn gwybod llawer mwy o fanylion am y rhaglen ar hyn o bryd. Ni wyddom chwaith sut y bydd yn cael ei hariannu na sut fath o brosiectau y bydd yn eu cefnogi.

Ffynonellau allweddol

Hyrwyddwyd gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg