Blaenoriaethu plant a phobl ifanc

17 Mai 2016

Erthygl gan Siân Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Daw’r erthygl hon o ‘Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad’, a gyhoeddwyd ar 12 Mai 2016.

Heb eu gweld na’u clywed? Pa mor amlwg fydd buddiannau plant a phobl ifanc yn y Pumed Cynulliad?

Dywedir mai’r modd y mae gwlad yn trin ei phlant a’i phobl ifanc sy’n datgelu ei gwir gymeriad. Yn ystod dyddiau cynnar datganoli, ystyriwyd Cymru yn wlad flaengar a oedd yn rhoi sylw amlwg i blant a’u hawliau. Mae’n gwestiwn a yw plant o hyd yn ganolog i wleidyddiaeth a pholisïau Cymru.

Mae elusennau plant yn honni bod y ‘traddodiad cryf o greu polisïa sy’n canolbwyntio ar blant’ – traddodiad a ddatblygodd ar ôl datganoli – wedi mynd yn dameidiog ac nad oes cymaint o sylw yn cael ei roi i hyn bellach. Galw am wneud mwy, a hynny’n well, y mae’r rhan fwyaf o’r grwpiau sy’n lobïo i ddylanwadu ar faniffestos pleidiau ar draws y meysydd polisi datganoledig. Yn eironig, mae Maniffesto’r Elusennau Plant Cenedlaethol ar gyfer Etholiadau 2016 yn canolbwyntio ar geisio adennill tir a gollwyd.

Gall y graddau y bydd buddiannau plant a phobl ifanc yn cael sylw yng nghanol strwythurau a dadleuon gwleidyddol y Pumed Cynulliad fod yn fodd o farnu Cymru ar y llwyfan rhyngwladol. Yn bwysicach, fe fydd yn ffactor allweddol wrth benderfynu beth fydd cyfleoedd bywyd a dyfodol ein plant a’n pobl ifanc.

Plant yn y Senedd

Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y sylw cynnar ar blant a phobl ifanc

Roedd buddiannau plant a phobl ifanc yn amlwg iawn yn ystod blynyddoedd cynnar y Cynulliad. Rhoddwyd eu lles a’u diogelwch yn gadarn ar yr agenda wleidyddol pan gyhoeddwyd canfyddiadau Ymchwiliad Waterhouse yn 2000. Ymchwiliad oedd hwn a wnaeth gadarnhau bod nifer fawr o blant, dros ddegawdau, wedi cael eu cam-drin yn rhywiol ac yn gorfforol mewn cartrefi gofal yn y gogledd.

Roedd natur y setliad datganoli cynnar hefyd yn rhannol gyfrifol am y sylw a roddwyd i blant a phobl ifanc ym mlynyddoedd cyntaf y Cynulliad. Yn wahanol i rai meysydd polisi eraill, roedd gan y Cynulliad lawer o’r pwerau oedd eu hangen (iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol) er mwyn caniatáu i lywodraeth y cyfnod ddatblygu polisïau gwahanol ar gyfer plant a phobl ifanc. Ffactor arall oedd bod gan rai o Aelodau ‘blaenllaw’ y Cynulliadau cynnar, gan gynnwys y Prif Ysgrifennydd, ddiddordeb cyffredin mewn materion a oedd yn effeithio ar blant a phobl ifanc, yn ogystal â phrofiad yn y maes.

Deddfwriaeth ‘arloesol’ a chamau blaengar eraill

Mae llawer o enghreifftiau o’r cyfnod ar ôl datganoli lle’r ystyriwyd bod Cymru ar flaen y gad ym maes plant a phobl ifanc. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i sefydlu Comisiynydd Plant (2001);
  • yr amlygrwydd a roddwyd i faterion plant a phobl ifanc yn strwythurau cabinet cynnar Llywodraeth Cymru: cafwyd Gweinidog yr oedd ei bortffolio a’i deitl yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc. Yn ogystal, sefydlwyd is-bwyllgor cabinet yn benodol er mwyn penderfynu ar bolisïau a oedd yn effeithio ar blant a phobl ifanc;
  • y gydnabyddiaeth ryngwladol a roddwyd i Lywodraeth Cymru ar y pryd pan gyflwynodd gyfraith ‘arloesol’ trwy’r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Dyma’r ddeddfwriaeth gyntaf o’i math yn y DU, yn gwneud Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn rhan o gyfraith y wlad; ac
  • y cyllid a roddodd Llywodraeth flaenorol Cymru i’r Ddraig Ffynci, (‘Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru’), a’r hyn a ystyrid yn agwedd flaengar y Llywodraeth wrth hyrwyddo a chefnogi’r modd roedd plant a phobl ifanc yn cyfrannu at wneud penderfyniadau ar bob lefel.

Tro ar fyd i blant a phobl ifanc

Bu newid yn y ffordd y rhoddwyd sylw i faterion plant a phobl ifanc yn y Cynulliad ac ym mholisïau Llywodraeth Cymru. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys:

  • newid mewn cyfrifoldebau gweinidogol a strwythurau’r cabinet ar gyfer plant a phobl ifanc, law yn llaw â symud at ragor o gynllunio, polisïau a deddfwriaeth ‘pob oedran’ (yn hytrach na rhai’n canolbwyntio’n benodol ar blant);
  • penderfyniad Llywodraeth ddiwethaf Cymru i beidio â bwrw ymlaen â’i bwriad i gyflwyno Bil Plant a Phobl Ifanc (Cymru), gan y byddai rhai o’r darpariaethau yn cael eu cynnwys mewn darnau eraill o ddeddfwriaeth;
  • gwanhau’r consensws ar faterion plant, fel y gwelwyd yn ystod dadleuon tanllyd yn y Cynulliad ynghylch newid y gyfraith ar gosbi plant yn gorfforol (cyfeirir at hyn yn aml fel ‘gwahardd smacio’). Gwelwyd hynny hefyd yn y cwestiynau a godwyd ynghylch penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â pharhau i gyllido’r Ddraig Ffync a rhoi cyllid yn lle hynny i waith sy’n canolbwyntio mwy ar gael plant a phobl ifanc i gyfrannu at bolisïau’r Llywodraeth; a
  • sylwadau’r Comisiynydd Plant ar y pryd, yn 2014, fod Llywodraeth Cymru yn ‘ymddangos yn rhy gyfforddus gyda’i statws fel arloeswr rhyngwladol ym maes hawliau plant’, ynghyd â’r sylw fod ‘gwasanaethau hollbwysig sy’n ceisio amddiffyn plant a phobl ifanc agored i niwed mewn perygl o gael eu colli, yn sgil diffyg gweledigaeth ac arweiniad gan Lywodraeth Cymru’.

Efallai y byddai Llywodraeth ddiwethaf Cymru wedi gwadu’n gryf yr awgrym bod ei pholisïau’n fwy ‘tameidiog’, ac wedi dadlau bod modd rhoi gwell sylw i fuddiannau plant a phobl ifanc drwy ymgorffori’r cyfrifoldeb drostynt yn holl bortffolios y gweinidogion. Gallai hefyd fod wedi cyfeirio at yr amrywiaeth eang o bolisïau, rhaglenni ac ymrwymiadau cyllido yn ei Rhaglen ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, 2015.

Penderfyniadau o bwys yn y Pumed Cynulliad

Dyma rai o’r prif benderfyniadau y bydd angen eu gwneud yn y Pumed Cynulliad yn y maes hwn:

  • A fydd gan Lywodraeth nesaf Cymru weinidog y bydd ei bortffolio’n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc, ac a fydd yn gyfrifol ac yn atebol am bob polisi sy’n effeithio ar blant a’u hawliau? Pa mor debygol yw y bydd is-bwyllgor cabinet ar gyfer plant yn cael ei ailsefydlu?
  • A fydd strwythur newydd pwyllgorau’r Cynulliad yn cynnwys pwyllgor a fydd yn canolbwyntio ar blant a phobl Ifanc, fel y digwyddodd ym mhob Cynulliad blaenorol?
  • Beth nesaf o ran y posibilrwydd o gael Cynulliad neu Senedd Genedlaethol i Blant a Phobl Ifanc?
  • Sut fydd Llywodraeth nesaf Cymru yn ymateb i argymhellion sydd i ddod yn fuan gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, yn dilyn ei waith ffurfiol yn edrych ar hawliau plant yng Nghymru?
  • Beth nesaf o ran y galw am ddeddfwriaeth a fyddai’n creu ffordd gyson o amddiffyn plant rhag ymosodiadau (‘gwaharddiad smacio’), sef o bosibl y prif fater ynghylch hawliau plant y bydd angen i’r Pumed Cynulliad benderfynu yn ei gylch?

Plant a phobl ifanc: ystadegau o bwys

  • Nifer y bobl 0-18 oed sy’n byw yng Nghymru: 667,300 (19-25 oed: 298,300)
  • Canran y plant sy’n swyddogol yn byw mewn tlodi: 31%, amcangyfrifir bod hynny’n 172,000 o blant
  • Plant sy’n derbyn gofal: 5,615
  • Nifer o atgyfeiriadau (oed 0-18) ar gyfer apwyntiad seiciatreg plant a’r glasoed: 2,907
  • Amcangyfrif o nifer y plant sydd â rhiant yn y carchar: mwy na 2,000
  • Plant 4-5 oed sy’n cael eu cyfrif dros eu pwysau neu’n ordew: 30%
  • Nifer y teuluoedd digartref gyda phlant sy’n byw mewn llety dros dro: 680
  • Mae plant 0-17 oed sy’n byw yn rhannau mwyaf difreintiedig Cymru bron ddwywaith yn fwy tebygol o farw na’r rhai sy’n byw yn y rhannau lleiaf difreintiedig.

Ffynonellau Allweddol

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg