Cyfraddau’r Dreth Gyngor 2016-17

29 Mawrth 2016

Erthygl gan Owen Holzinger a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ddydd Iau, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei datganiad ystadegol blynyddol am lefelau’r Dreth Gyngor wedi i awdurdodau lleol a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu bennu eu cyllidebau ar gyfer 2016-17 cyn y dyddiad cau, sef 11 Mawrth. Mae’r datganiad yn dangos y newidiadau yn y dreth gyngor ledled Cymru ac yn dadansoddi’r gwahanol elfennau ynddi.

Fel arfer, caiff y dreth gyngor ei chymharu drwy ystyried y dreth a godir ar gyfartaledd am eiddo band D mewn awdurdodau lleol, yr heddlu a chynghorau cymuned. Yn 2015-16, y dreth gyngor ar gyfer eiddo band D yng Nghymru oedd £ 1,328 ar gyfartaledd, a oedd yn gynnydd o 4.1% ers y flwyddyn flaenorol. Bydd yn codi eto yn 2016-17 i £ 1,374, sef cynnydd o 3.5% neu £ 47.

Mae’r dreth gyngor yn cynnwys tair elfen, a gall pob un o’r rhain newid yn annibynnol ar y ddwy arall. Mae’r sefydliadau sy’n cael incwm o’r dreth gyngor wedi’u rhestru yn y siart isod, ynghyd â’r gyfran a gânt o bob punt o dreth gyngor a gesglir:

Council Tax (Welsh)-01

Y dreth gyngor yng Nghymru

Mae’r dreth gyngor yn cyfrif am tua 25% o gyllid awdurdodau lleol a dros 40% o gyllid yr heddlu, felly mae’n ystyriaeth sylweddol yn ystod y broses o bennu cyllideb. Y llynedd, penderfynodd pob awdurdod lleol a thri o’r pedwar Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu godi’r dreth gyngor. Mae’r darlun yn debyg eto eleni, gydag un awdurdod (Heddlu Dyfed Powys) yn rhewi lefel y dreth gyngor a phawb arall yn codi’r gyfradd. Yn awdurdodau lleol Ceredigion, Conwy a Sir Benfro y gwelwyd y cynnydd mwyaf, sef 5.0%, ac yng Nghaerffili y gwelwyd y cynnydd lleiaf, sef 1.0% (ac eithrio cynghorau cymuned).

Rise in council tax (welsh)-01

Yr awdurdodau lleol sy’n rheoli ac yn pennu’r dreth gyngor ac mae’r dreth ar gyfer y gwahanol fandiau yn amrywio drwy Gymru. Bydd cyfran yr anheddau ym mhob band hefyd yn amrywio o’r naill awdurdod i’r llall, ac mae’r ddwy ffactor hon yn effeithio ar werth cyfartalog band D. Ar hyn o bryd, yn Sir Benfro mae’r gyfradd dreth gyngor isaf ar gyfartaledd ar gyfer band D, sef £ 1,071 ac ym Mlaenau Gwent y mae’r gyfradd uchaf, sef £ 1,695, sy’n wahaniaeth o £624. Ers 1996-97, mae’r dreth gyngor yng Nghymru ar gyfer eiddo band D wedi codi £912 ar gyfartaledd (nid yw hyn yn ystyried chwyddiant). O safbwynt y tâl fesul annedd, yng Nghaerffili y mae’r gyfradd isaf (£958) ac yn Sir Fynwy mae’r gyfradd uchaf (£ 1,573).

Gan ystyried cyfanswm yr amrywiadau rhwng yr awdurdodau lleol, yr heddlu a’r cynghorau lleol, mae’r cynnydd canrannol uchaf yn gyffredinol i’w weld yng Nghonwy (4.4%) a’r cynnydd uchaf yn gyffredinol o ran arian parod i’w weld ym Mlaenau Gwent (£60). Ar y llaw arall, yng Nghaerffili mae’r cynnydd canrannol isaf yn gyffredinol (1.5%) ac yn Sir Ddinbych mae’r cynnydd isaf yn gyffredinol o ran arian parod (£22).

Cymariaethau a chyfyngiadau

Bydd yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn rhyddhau gwybodaeth i awdurdodau lleol Lloegr ar 31 Mawrth, 2016. Ni chyhoeddwyd unrhyw wybodaeth yn dweud y caiff y grant i rewi’r dreth gyngor , a gynigiwyd yn ystod y blynyddoedd blaenorol, ar gael eto yn 2016-17. Mae’r wybodaeth gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth a nodir yn natganiad Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif mai’r cynnydd yn y dreth gyngor ar gyfartaledd drwy Gymru fydd 3.1%. Amcangyfrifir mai’r dreth ar gyfer eiddo ym mand D yn Lloegr yn 2016-17 yw £ 1,530 ar gyfartaledd, tua 10% yn uwch na’r cyfartaledd yng Nghymru.

Yn Lloegr, mae Deddf Lleoliaeth 2011 yn nodi bod yn rhaid i Lywodraeth Leol gynnal refferendwm os bydd cynnydd o 2% neu ragor yn y dreth gyngor, ond nid dyna’r achos yng Nghymru. Mae’r Canghellor hefyd yn caniatáu i awdurdodau lleol Lloegr godi praesept ychwanegol o (hyd at) 2% os ydynt yn darparu gofal cymdeithasol i oedolion. Yng Nghymru mae’r Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (1999) yn caniatáu i’r Cynulliad osod cap ar unrhyw gynnydd y mae’n ei ystyried yn ‘ormodol’. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ystyriwyd mai cynnydd o dros 5% oedd y trothwy anffurfiol a allai sbarduno gweinidogion i ymyrryd. Caiff bandiau treth cyngor eu pennu ar sail gwerth eiddo.

Yng Nghymru cynhaliwyd proses ail-brisio eiddo yn 2003, ac mae’r bandiau felly’n adlewyrchu gwerth eiddo fel ar 1 Ebrill 2003. Yn Lloegr a’r Alban, ni chynhaliwyd proses ail-brisio felly mae’r bandiau wedi’u seilio ar werth eiddo fel ar 1 Ebrill 1991. Mae modd herio bandiau’r dreth gyngor drwy gyfrwng Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Gostyngiadau, eithriadau a phremiymau

Diddymwyd Budd-dal y Dreth Gyngor yn 2013 ac fe’i disodlwyd gan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth y Cyngor. Mae’r rheoliadau newydd wedi’u seilio’n agos ar reolau Budd-dal y Dreth Gyngor, ond maent yn caniatáu rhywfaint o ddisgresiwn lleol i awdurdodau lleol. Mae hefyd yn bosibl i rai beidio â thalu’r dreth gyngor o gwbl, er enghraifft, os yw pawb sy’n byw mewn tŷ yn fyfyrwyr amser llawn. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal arolwg o anheddau treth gyngor bob blwyddyn i benderfynu ar nifer yr anheddau y gellir codi treth gyngor arnynt ar gyfer y cyfnod dilynol. Mae’r data a gasglwyd yn dangos y bydd tua 56,909 o anheddau, o gyfanswm o oddeutu 1,358,980, (4%) wedi’u heithrio.

Yn ogystal â’r posibilrwydd o eithrio annedd, weithiau mae hefyd yn bosibl codi premiwm ar ben y gyfradd dreth gyngor safonol. Pasiwyd deddfwriaeth yn ddiweddar sy’n caniatáu i awdurdodau lleol godi premiwm o hyd at 100% o dreth gyngor. Daeth Deddf Tai (Cymru) 2014 i rym ym mis Ebrill 2016 ac mae’n rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol godi tâl am annedd os nad hwnnw yw unig gartref, neu brif gartref y perchennog. Mae Cyngor Ynys Môn wedi cytuno ar bremiwm o 25% ac mae Cyngor Sir Benfro yn codi premiwm o 50% .

Mae rhagor o wybodaeth ystadegol am y dreth gyngor i’w gweld ar wefan ystadegol Llywodraeth Cymru, StatsCymru

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg