Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Beth yw hyn a beth y mae’n ei olygu i Gymru?

22 Mawrth 2016

Erthygl gan Chloe Corbyn, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn dod i rym ar 1 Ebrill 2016. Nod y Ddeddf yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru drwy osod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i feddwl mewn ffordd fwy cynaliadwy a hirdymor. Mae’r cofnod blog hwn yn amlinellu’r agweddau allweddol ar y Ddeddf a’r hyn y mae’n ei olygu i’r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Nodau llesiant

Mae’r Ddeddf yn gosod saith nod llesiant y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus weithio i’w cyflawni a’u hystyried yn eu holl benderfyniadau.

Tabl yn dangos nodau llesiant a disgrifyddion

Er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau, rhaid i Weinidogion Cymru bennu dangosyddion cenedlaethol, a cherrig milltir cysylltiedig. Cyhoeddwyd y gyfres derfynol o 46 o ddangosyddion cenedlaethol ar 16 Mawrth, yn dilyn comisiwn i Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru yn cynghori ynghylch datblygu’r dangosyddion, a chyfnod ymgynghori rhwng mis Hydref 2015 a mis Ionawr 2016.

Datblygu Cynaliadwy

Yn y Ddeddf, ystyr datblygu cynaliadwy yw:

…y broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gan anelu at gyrraedd y nodau llesiant.

Wrth wneud eu penderfyniadau, mae angen i gyrff cyhoeddus ystyried yr effaith y gallent ei chael ar bobl sy’n byw yng Nghymru yn y dyfodol. Mae angen i gyrff cyhoeddus ystyried pum peth er mwyn dangos eu bod wedi cymhwyso egwyddor datblygu cynaliadwy:

  • Hirdymor: Pwysigrwydd cydbwyso anghenion tymor byr gyda’r angen i ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion hirdymor hefyd.
  • Atal problemau: Sut gall gweithredu i atal problemau rhag codi neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion.
  • Integreiddio: Ystyried sut y gallai amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar eu hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.
  • Cydweithio: Cydweithio ag unrhyw berson arall (neu wahanol rannau o’r corff ei hun) mewn ffyrdd a allai helpu’r corff i gyflawni ei amcanion llesiant.
  • Cynnwys: Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â buddiant mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny yn adlewyrchu amrywiaeth yr ardal y mae’r corff yn ei gwasanaethu.

Pa gyrff cyhoeddus sy’n dod o dan y Ddeddf?

Mae’r Ddeddf yn cwmpasu cyrff cyhoeddus yng Nghymru, yn benodol:

  • Gweinidogion Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Awdurdodau Lleol
  • Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
  • Byrddau Iechyd Lleol
  • Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Cyngor Chwaraeon Cymru
  • Ymddiriedolaeth GIG Felindre
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol
  • Amgueddfa Cymru
  • Awdurdodau Tân ac Achub Cymru

Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd llesiant y bydd disgwyl i gyrff cyhoeddus ei chyflawni. Mae’r ddyletswydd yn nodi’r canlynol:

Rhaid i bob corff cyhoeddus ymgymryd â datblygu cynaliadwy. Rhaid i weithredoedd corff cyhoeddus wrth ymgymryd â datblygu cynaliadwy gynnwys:

  1. Gosod a chyhoeddi amcanion (“amcanion llesiant”) sy’n cael eu cynllunio i sicrhau ei fod yn cyfrannu i’r eithaf at gyrraedd pob un o’r nodau llesiant, a
  2. Chymryd pob cam rhesymol (wrth arfer ei swyddogaethau) i gyflawni’r amcanion hynny.

Sut byddwn ni’n gwybod os yw cyrff cyhoeddus yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant?

Rhaid i gyrff cyhoeddus gyhoeddi datganiad wrth bennu eu hamcanion llesiant, yn esbonio pam y maent yn teimlo y bydd yr amcan o help iddynt gyflawni’r saith nod a sut maent wedi cadw at yr egwyddor datblygu cynaliadwy. Rhaid iddynt hefyd gyhoeddi adroddiad blynyddol sy’n dangos y cynnydd y maent wedi’i wneud o ran cyflawni eu hamcanion. Lle y mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi gwneud argymhellion i gorff cyhoeddus, rhaid iddo gyhoeddi ei ymateb.

Ddeuddeg mis cyn etholiad y Cynulliad, rhaid i Weinidogion gyhoeddi Adroddiad Tueddiadau yn y Dyfodol sy’n rhagfynegi tueddiadau tebygol yn y dyfodol o ran llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru ac unrhyw wybodaeth a data dadansoddol cysylltiedig sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae’r Ddeddf yn sefydlu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’n rhaid i aelodau’r byrddau ddod o’r awdurdod lleol, y Bwrdd Iechyd Lleol, Awdurdod Tân ac Achub Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn ogystal, rhaid i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wahodd y bobl/sefydliadau canlynol i gymryd rhan yn y Bwrdd, sy’n dod yn ‘gyfranogwyr gwadd’ os byddant yn derbyn y gwahoddiad:

  • Gweinidogion Cymru
  • Y Prif Gwnstabl ar gyfer yr ardal heddlu
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer yr ardal heddlu
  • Rhai gwasanaethau prawf, ac
  • O leiaf un corff sy’n cynrychioli ‘sefydliadau gwirfoddol’ perthnasol.

Gall hefyd wahodd pobl eraill sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus.

Rôl y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal drwy asesu cyflwr yr agweddau hyn ar lesiant a gosod amcanion i gynyddu cyfraniad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus at y nodau llesiant. Mae’n rhaid gwneud hyn yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

Rhaid i bob Bwrdd Gwasanaethau Lleol baratoi a chyhoeddi Cynllun Llesiant Lleol yn nodi ei amcanion llesiant lleol a’r camau y bydd yn eu cymryd i’w cyflawni. Rhaid i’r cynllun nodi pam mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn teimlo y bydd ei amcanion yn cyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant a sut y mae wedi ystyried yr Asesiad o Lesiant Lleol wrth bennu ei amcanion a’r camau i’w cymryd. Bydd pob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwneud adolygiad blynyddol o’r cynllun sy’n dangos ei gynnydd. 

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Rôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yw gweithredu fel gwarcheidwad ar gyfer buddiannau cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru, cefnogi’r cyrff cyhoeddus i weithio tuag at gyflawni’r nodau lles a monitro cynnydd o ran cyflawni amcanion. Cefnogir y rôl gan banel cynghori, gan gynnwys y Comisiynwyr eraill Cymru, Prif Swyddog Meddygol Cymru, cynrychiolydd Cyfoeth Naturiol Cymru, TUC Cymru a busnesau Cymru.

Mae gan y Comisiynydd nifer o rolau a chyfrifoldebau:

  • Adrodd: Flwyddyn cyn etholiad y Cynulliad, rhaid i’r Comisiynydd gyhoeddi adroddiad yn cynnwys asesiad o’r gwelliannau y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud i gyflawni’r nodau llesiant.
  • Cyngor: Gall y Comisiynydd roi cyngor i gyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar weithio tuag at gyflawni’u hamcanion llesiant.
  • Ymchwil: Gall y Comisiynydd wneud gwaith ymchwil, er enghraifft i’r nodau llesiant, y dangosyddion cenedlaethol, cerrig milltir a’r egwyddor datblygu cynaliadwy.
  • Cynnal adolygiadau i’r ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn ystyried effaith eu penderfyniadau yn yr hirdymor, ac yn gwneud argymhellion ar sail y canfyddiadau.

Archwilydd Cyffredinol Cymru

Gall Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal ymholiadau o’r cyrff cyhoeddus i asesu i ba raddau y mae corff wedi gweithredu’n unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth bennu amcanion llesiant a chymryd camau i gyflawni’r amcanion hynny. Bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gweithio gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gweithio i gyflawni nodau llesiant Cymru.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneghttp://wp.me/p3yqr2-1z8