Dyfodol Ynni Craffach i Gymru

15 Mawrth 2016

Erthygl gan Chloe Corbyn, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ffotograff o Aelodau’r Cynulliad yn lansio’r adroddiad

 

Ar 16 Mawrth, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn trafod adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar Ddyfodol Ynni Craffach i Gymru. Mae’r adroddiad yn benllanw dros 12 mis o waith gan y Pwyllgor, a ddechreuodd gyda thaith ymchwiliol i’r Almaen i weld sut mae’r Energiwende yn yr Almaen wedi trawsnewid y tirlun ynni yno. (I gael rhagor o wybodaeth am yr Energiewende darllenwch blog blaenorol y gwasanaeth ymchwil). Mae’n adeiladu ar waith blaenorol ar Bolisi Ynni a Chynllunio a wnaed gan y Pwyllgor yn ystod y 4ydd Cynulliad, gan gynnig gweledigaeth am ddyfodol ynni cynaliadwy i Gymru.

Y negeseuon allweddol gan y Pwyllgor yw:

Os yw Cymru am gyflawni ei rhwymedigaeth newid yn yr hinsawdd i leihau o leiaf 80% erbyn 2050, mae angen i ni newid y ffordd rydym yn meddwl am ynni; ei gynhyrchu, dosbarthu, storio a’i gadwraeth. Mae’r cytundeb arloesol ar newid yn yr hinsawdd ym Mharis fis Rhagfyr diwethaf yn gosod fframwaith i Gymru gyflymu ei weithredoedd yn y maes hwn, gan gymryd camau gwirioneddol tuag at leihau ei allyriadau nwyon tŷ gwydr a gosod y bar yn uchel ar gyfer model ynni newydd.

Mae arweinyddiaeth yn allweddol er mwyn trawsnewid ynni, gyda chyfeiriad polisi clir a sefydlog i baratoi’r ffordd. Mae’n rhaid i’r polisi hwn arwain Cymru at system ynni ddi-garbon, gyda’r nod o gael Cymru mewn sefyllfa lle mae ei holl ffynonellau adnewyddadwy yn bodloni anghenion ynni domestig. Mae cyflenwi ynni lleol i farchnadoedd lleol yn gonglfaen y polisi newydd hwn, ac, er y bydd prosiectau mewnfuddsoddi ar raddfa fwy yn parhau i chwarae rhan o ran darparu diogelwch ynni, rhaid i ddatrysiadau lleol gwasgaredig hefyd ymddangos yn amlwg mewn jig-so ynni cynaliadwy ac adnewyddadwy yn y dyfodol.

Mae’n rhaid mynd i’r afael â chadwraeth ynni a lleihau’r galw, ac maent yn feysydd lle mae gan Cymru y liferi a phwerau angenrheidiol i weithredu nawr. Mae adeiladau newydd a stoc tai presennol yn cynnig cyfleoedd i wella effeithlonrwydd ynni.

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 19 o argymhellion ynghylch yr hyn y mae’n rhaid i Gymru ei wneud er mwyn gwireddu gweledigaeth ynni craffach. Mae nifer o’r rhain wedi eu crynhoi isod:

  • Pennu gweledigaeth glir ar gyfer polisi ynni yn y dyfodol, gan gynnwys rôl ganolog i ynni lleol;
  • Pennu targedau blynyddol i leihau’r galw am ynni a helpu pobl i’w ddefnyddio’n fwy effeithlon;
  • Anelu i ddiwallu ei holl anghenion ynni o ffynonellau adnewyddadwy;
  • Diwygio’r Rheoliadau Adeiladu ar frys i sicrhau bod tai newydd yn cael eu hadeiladu i safonau ynni ‘agos at sero’;
  • Ymchwilio i gysylltu cost treth tir y doll stamp â pherfformiad ynni tŷ i ddechrau cynyddu gwerth cartrefi effeithlon o ran ynni;
  • Annog Llywodraeth y DU i galluogi Ofgem i ganiatáu blaenoriaethu cyflenwad lleol i ddefnyddwyr lleol yng Nghymru;
  • Diwygio’r polisi cynllunio fel ei fod yn blaenoriaethu prosiectau ynni adnewyddadwy lleol a chymunedol; a
  • Darparu cymorth a chyngor ‘dal llaw’ i brosiectau lleol a chymunedol.

Mae’r Pwyllgor yn crynhoi drwy ddatgan:

“Mae gan bawb yng Nghymru gyfrifoldeb i sicrhau dyfodol ynni craffach. Rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan os ydym am ymateb i’r heriau yr ydym yn eu hwynebu a chymryd y cyfleoedd sydd ar gael i ni. Er mwyn i bawb gael y cyfle i chwarae eu rhan, mae’n rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru ddangos yr arweinyddiaeth angenrheidiol i osod y weledigaeth a’r fframwaith ar gyfer y newid hwn. Mae’n rhaid i Gymru fanteisio ar gyfleoedd i drawsnewid y ffordd y mae’n ymdrin ag ynni nawr.”

Mae Cymru Gynaliadwy, gan weithio gydag Ynni Cymunedol Cymru, wedi lansio fideo yn ddiweddar fel rhan o ymgyrch Golau Newydd? sy’n hyrwyddo ynni lleol a chymunedol.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg