Bil Undebau Llafur y DU a Chydsyniad Deddfwriaethol

14 Mawrth 2016

Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Dyma lun o San Steffan

Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.

Cyflwynwyd y Bil Undebau Llafur 2015-16 yn Nhŷ’r Cyffredin ar 15 Gorffennaf 2015. Mae’r Bil yn gwneud newidiadau i’r Ddeddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992. Mae’n cynnwys y darpariaethau canlynol:

  • I streic gael ei gymeradwyo, bydd angen balot gyda thros 50 y cant o’r rhai sydd â’r hawl i bleidleisio yn bwrw eu pleidlais, ac o ran “gwasanaethau cyhoeddus pwysig”, bydd rhaid i unrhyw weithredu arfaethedig gael ei gymeradwyo gan fwyafrif nad yw’n llai na 40 y cant.
  • Bellach, bydd rhaid i undebau roi o leiaf pythefnos o rybudd i gyflogwyr am unrhyw weithredu diwydiannol.
  • Ni fyddai undebau’n gallu didynnu cyfraniadau i bleidiau gwleidyddol yn awtomatig o ffioedd eu haelodau mwyach. Byddai’n rhaid i aelodau ddewis gwneud unrhyw gyfraniadau o’r fath.
  • Hefyd, bydd gweithgareddau a chyllid undebau yn cael eu rheoleiddio yn fwy llym. Rhoddir pwerau i’r Swyddog Ardystio (sy’n rheoleiddio undebau) i weld ac ymchwilio i restri aelodaeth, hyd yn oed os nad oes neb wedi cwyno amdanynt.
  • Yn ogystal, ni fydd gweithwyr sector cyhoeddus yn gallu talu ffioedd undeb yn uniongyrchol drwy eu cyflogau; yn hytrach bydd yn rhaid iddynt gofrestru a thalu am eu haelodaeth undeb yn annibynnol.

Mae’r Bil wedi ysgogi gwrthwynebiad cryf yn y Senedd; bellach mae’r Bil yn y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Mae Llywodraethau Cymru a’r Alban wedi mynegi gwrthwynebiad i’r Bil, gan ddadlau y dylai’r Bil fod yn ddarostyngedig i gydsyniad deddfwriaethol yn y deddfwrfeydd hynny gan fod rhannau ohono’n ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus datganoledig. Mae Llywodraeth y DU yn haeru bod a wnelo’r Bil yn gyfan gwbl â materion a gadwyd yn ôl. Mewn dadl yn y Pwyllgor Bil Cyhoeddus ar 27 Hydref 2015, dywedodd Nick Boles, y Gweinidog Sgiliau:

‘All the provisions in the Bill relate to employment and industrial relations law, which are clearly reserved matters under the devolution settlements for Scotland and Wales. New clause 11 relates to the same reserved matters, so it is entirely in order for the Government to propose that its provisions should also apply to the whole of Great Britain. I see no reason why the Government should seek consent before applying those provisions in particular areas.’

Cyflwynodd Gweinidogion yr Alban Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn gofyn i Senedd yr Alban wrthod caniatâd i Fil Undebau Llafur Llywodraeth y DU. Dadl y Gweinidogion oedd y bydd y Bil yn effeithio ar swyddogaethau datganoledig. Fodd bynnag, dyfarnodd Llywydd Senedd yr Alban fod a wnelo’r Bil yn gyfan gwbl â materion a gadwyd yn ôl ac ni raid wrth ganiatâd Senedd yr Alban. Golygai hynny nad oedd modd cynnal pleidlais ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth yr Alban.

Yng Nghymru, dyfarnwyd bod Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn trefn; fe’i gosodwyd ar 20 Tachwedd 2015. Mae’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn nodi barn Llywodraeth Cymru y byddai angen caniatâd y Cynulliad ar gyfer cymalau 3, 12, 13 a 14 o’r Bil gan eu bod yn ymwneud â materion datganoledig. Ei dadl yw bod y cymalau hyn yn dod o dan gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad i’r graddau y maent yn ymwneud â chyflogwyr sector cyhoeddus yng Nghymru sy’n ymwneud â darparu amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus gan gynnwys addysg a hyfforddiant; gwasanaethau tân ac achub; gwasanaethau iechyd; llywodraeth leol; a chyfleusterau a gwasanaethau trafnidiaeth.

Trafodwyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ei ystyried yn Y Cyfarfod Llawn ar 20 Ionawr, 2016. Dywedodd Leighton Andrews AC, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus:

‘Mae rhannau sylweddol o’r Bil yn ymwneud yn benodol â gwasanaethau cyhoeddus sydd yn amlwg wedi’u datganoli, ac nid yw’n dderbyniol i Lywodraeth y DU geisio ei orfodi ar Gymru.’

Cyn y bleidlais, cyhoeddodd undeb y GMB farn gyfreithiol yr oedd wedi ei chomisiynu gan Hefin Rees QC. Yn ei gasgliadau, noda’r adroddiad y canlynol:

‘In summary, in our view it is strongly arguable that clauses 3, 12, 13 and 14 of the Bill relate to the following devolved subject matters: “education and training”; “fire and rescues services”; “health and health services”; “highways and transport”; “local government”; and “public administration”.

Further, the Bill relates to “industrial relations” and “employment”, matters which are neither devolved subjects nor specified exceptions to devolved subjects.

In these circumstances, the UK Government’s conclusion that the Bill’s provisions are not within the legislative competence of the Assembly is flawed; a legislative provision may relate to both a devolved and a non-devolved subject matter: see In re Agricultural Sector.

Cyfeiriodd y farn at ddyfarniad gan y Goruchaf Lys ar y Bil Sector Amaethyddol (Cymru) sy’n dweud nad yw cysylltiadau diwydiannol a chyflogaeth yn eithriadau penodol yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Mae hyn yn cyd-fynd â barn Llywodraeth Cymru, a nodwyd mewn Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ym mis Medi 2015. Dywed:

‘Mae’r ohebiaeth gychwynnol a ddaeth i law gan Weinidogion y DU yn mynnu bod y Bil yn ymwneud â mater sydd heb ei ddatganoli ac nad oes angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod elfennau sylweddol o’r Bil yn ymwneud yn benodol â gwasanaethau cyhoeddus, sy’n bendant yn gyfrifoldebau sydd wedi’u datganoli i Gymru. Nid wyf felly’n derbyn yr awgrym bod y Bil yn ymwneud â materion sydd heb eu datganoli yn unig.

Mae dyfarniad y Goruchaf Lys mewn perthynas â’r Bil Sector Amaethyddol (Cymru) yn cadarnhau, ar yr amod bod Bil Cynulliad bodloni’n deg ac yn realistig y prawf a nodir yn adran 108 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac nad yw’n dod o dan yr eithriadau, nid oes gwahaniaeth a ellir hefyd ei ddosbarthu fel un sy’n ymwneud â phwnc nas datganolwyd, megis hawliau cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol.’

Ym mis Ionawr 2016, daeth llythyr gan Nick Boles, y Gweinidog, at Weinidogion eraill, i’r fei. Mae’r llythyr yn nodi:

‘We have sought legal advice from First Treasury Counsel who has confirmed that we have a strong case that these provisions are reserved in relation to Scotland, but a very weak case in relation to Wales.’

Pleidleisiodd y Cynulliad o blaid gwrthod caniatâd deddfwriaethol i’r Bil o 43 pleidlais i 13.

Wrth gloi’r ddadl, nododd Leighton Andrews, pe câi ei hail-ethol yn etholiad nesaf y Cynulliad, byddai Llywodraeth Cymru yn ‘symud yn gyflym iawn ar ôl yr etholiad ym mis Mai i gyflwyno’r hyn yr wyf am ei alw, at ddibenion heddiw, yn Fil datgymhwyso undebau llafur (Cymru) i gael gwared ar y cymalau hynny’ o Fil y DU.

Pe bai’r Cynulliad yn pasio Bil o’r fath, y disgwyliad yw y byddai Llywodraeth y DU yn ei gyfeirio at y Goruchaf Lys i benderfynu a yw y tu mewn i gymhwysedd y Cynulliad.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg