Hunanladdiad yng Nghymru

8 Mawrth 2016

Erthygl gan Helen Jones a Paul Worthington, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyn dadl yr Aelodau ar hunanladdiad ar 9 Mawrth mae’r erthygl hon ar y blog yn ystyried yr ystadegau mwyaf diweddar a strategaeth ddiweddaraf Llywodraeth Cymru ar atal hunanladdiadau yng Nghymru.

Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf ar hunanladdiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 4 Chwefror 2016,  Hunanladdiadau yn y Deyrnas Unedig: cofrestriadau 2014.

Cyflwynir y data fel cyfraddau hunanladdiad oed-safonedig am bob 100,000 o’r boblogaeth. Mae’r dechneg hon yn cael ei defnyddio i alluogi cymharu poblogaethau â phroffiliau oedran gwahanol. Dengys data 2014 mai Cymru sydd â’r gyfradd hunanladdiad oed-safonedig isaf yng ngwledydd y DU, 9.2 o farwolaethau am bob 100,000 o’r boblogaeth.

Tabl 1: Cyfraddau hunanladdiad oed-safonedig am bob 100,000 o’r boblogaeth, 2014

Table 1 Cymraeg

Ffynhonnell: ONS, Hunanladdiadau yn y Deyrnas Unedig, 2014

Mae data cymaradwy ar gyfer gwledydd y DU ar gael rhwng 1981-2014. Mae’r graff isod yn dangos bod y gyfradd hunanladdiad oed-safonedig ar gyfer Cymru wedi amrywio rhwng 9 a 15 o farwolaethau am bob 100,000 o’r boblogaeth yn y cyfnod hwn. Yng Nghymru, roedd y gyfradd uchaf yn 1982 (14.9) ac roedd y gyfradd isaf yn 2014 (9.2).

Ffigur 1: Cyfraddau hunanladdiad oed-safonedig am bob 100,000 o’r boblogaeth, 1981 – 2014

Figure 1 Cymraeg

Ffynhonnell: ONS, Hunanladdiadau yn y Deyrnas Unedig, 2014

Rhyw

Dengys data 2014 fod y cyfraddau hunanladdiad oed-safonedig ymhlith dynion yn gyson uwch na’r cyfraddau i fenywod. Yng Nghymru yn 2014 roedd y gyfradd ymlith dynion yn 15.3 o farwolaethau am bob 100,000 o’r boblogaeth o’i gymharu â 3.4 o farwolaethau ymlith menywod am bob 100,000 o’r boblogaeth.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu y gallai’r gyfradd hon fod yn uwch oherwydd bod dynion yn tueddu i ddefnyddio dulliau gwahanol i’r rhai a ddefnyddir gan fenywod. Mae menywod yn llawer mwy tebygol na dynion o gael eu derbyn i’r ysbyty o ganlyniad i hunan-niwed. Yn ystod 2007/08, denodd cyfres o hunanladdiadau yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr yng Nghymru sylw sylweddol yn lleol ac yn genedlaethol, er bod y rhesymau am y lefel uchel a dwys o hunanladdiadau ymhlith pobl ifanc yn y dref yn parhau’n aneglur.

Yn wir, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud nad oes un rheswm yn unig pam y gallai rhywun geisio cymryd ei fywyd ein hun a’r ffordd orau i geisio deall pam yw drwy edrych ar fywyd ac amgylchiadau yr unigolyn. Fodd bynnag, gallai ffactorau neu broblemau penodol gynyddu’r risg o hunanladdiad, yn cynnwys  ynysu cymdeithasol neu ddigwyddiadau bywyd llawn straen a phroblemau iechyd meddwl.

Oed

Mae cyfraddau hunanladdiad oed-benodol ar gyfer Cymru ar gael mewn bandiau oedran pum mlynedd hefyd. Mae’r graff isod yn dangos mai ymlith y grwpiau oedran 40-44, 85-90 a 55-59 oedd y cyfraddau hunanladdiad uchaf yng Nghymru. Roedd gan y grwpiau oedran 20-24 a 75-79 y cyfraddau hunanladdiad isaf.

Ffigur 2: Cyfraddau hunanladdiad oed-benodol am bob 100,000 o’r boblogaeth yng Nghymru yn ôl grŵp oedran pum mlynedd, 2014

Figure 2 Cymraeg

Ffynhonnell: ONS, Hunanladdiadau yn y Deyrnas Unedig, 2014

Mae data ar gael ar lefel dynion a menywod ar gyfer y grwpiau oedran pum mlynedd, fodd bynnag, oherwydd y nifer fach o achosion o hunanladdiad ymhlith menywod yng Nghymru mae’r cyfraddau oed-benodol yn ddibynadwy ar gyfer dynion yn unig. Mae’r data yn dangos mai dynion 40-44 oed oedd â’r gyfradd hunanladdiad uchaf, 29.1 o farwolaethau am bob 100,000.

Yn ôl awdurdod lleol

Mae’r map isod yn dangos mai Blaenau Gwent oedd â’r gyfradd hunanladdiad uchaf, 16 o farwolaethau am bob 100,000 o’r boblogaeth. Torfaen oedd â’r gyfradd hunanladdiad isaf gyda 5.4 o farwolaethau am bob 100,000 o’r boblogaeth yn 2014.

Map 1 Suicide rates in Wales - Welsh

Ffynhonnell: ONS, Hunanladdiadau yn ôl awdurdod lleol, 2014

Strategaethau ar gyfer lleihau ac atal hunanladdiad yng Nghymru

Ym mis Gorffennaf 2015 lansiodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Siarad â Fi 2, cynllun 5 mlynedd sy’n anelu at leihau hunanladdiad a hunan-niwed drwy nodi’r grwpiau hynny o bobl sy’n arbennig o agored i hunanladdiad a hunan-niwed a nodi’r gofal y dylent ei gael.

Mae’r Strategaeth yn nodi nifer o gamau gweithredu blaenoriaeth i gyflawni hyn:

  • Darparu ymatebion priodol i argyfyngau personol, ymyrraeth a rheolaeth gynnar o ran hunanladdiad a hunan-niwed
  • Gwella ymhellach ymwybyddiaeth, gwybodaeth a dealltwriaeth o hunanladdiad a hunan-niwed ymhlith y cyhoedd; pobl sydd yn aml yn dod i gysylltiad â’r rhai sydd mewn perygl o hunanladdiad a hunan-niwed a gweithwyr proffesiynol yng Nghymru
  • Darparu gwybodaeth a chymorth i bobl mewn profedigaeth neu sydd wedi’u heffeithio gan hunanladdiad a hunan-niwed
  • Cefnogi’r cyfryngau gydag adrodd a phortreadu hunanladdiad ac ymddygiad hunanladdol mewn modd cyfrifol
  • Lleihau mynediad at ddulliau o gyflawni hunanladdiad
  • Parhau i hyrwyddo a chefnogi dysgu, gwybodaeth a systemau monitro ac ymchwil i wella’r ddealltwriaeth o hunanladdiad a hunan-niwed yng Nghymru.

Mae’r Strategaeth hefyd yn cydnabod yr angen am well data mewn rhai meysydd yn ymwneud â hunanladdiad a hunan-niwed.

Mae sefydliadau fel MIND Cymru yn dadlau dros werth annog pobl i fod yn agored am eu teimladau, i ofyn am gymorth, ac i allu cael mynediad at y cymorth a’r gefnogaeth gywir ar yr adeg cywir; maent hefyd yn darparu cysylltiadau ar gyfer rhai gwasanaethau.

Ar yr un pryd, ceir cydnabyddiaeth bod angen i wasanaethau adlewyrchu anghenion penodol gwahanol grwpiau a chanolbwyntio cymorth yn unol â hynny. Er enghraifft, mae CALMzone glannau Mersi yn targedu dynion 15-54 oed yn benodol ledled Glannau Mersi, Warrington a Dwyrain Sir Gaer, gan gefnogi eu llesiant.

View this post in English

Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg