Datblygiadau diweddaraf Bil Cymru drafft

4 Mawrth 2016

Erthygl gan Steve Boyce, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Dyma lun o San Steffan

Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.

Yr wythnos hon, mae’r broses o ddeddfu ar gyfer setliad datganoli newydd i Gymru wedi cymryd cam pellach ymlaen. Ddydd Sul 28 Chwefror, cyhoeddodd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig adroddiad ar ei waith craffu ar Bil Cymru drafft ac ar y dydd Llun, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ei gynlluniau ar gyfer y cam nesaf yn natblygiad y Bil. Cafodd Bil Cymru drafft ei gyhoeddi gan Swyddfa Cymru Llywodraeth y DU ar 20 Hydref 2015.

Mae Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad a (gweler blog “Nid yw eto mewn cyflwr i ennyn consensws”: craffu ar Bil Cymru drafft, 16 Rhagfyr 2015) Phwyllgor Dethol Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin wedi nodi problemau sylweddol gyda’r Bil drafft ac mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi ymateb drwy gyhoeddi oedi yn natblygiad y Bil a newid o ran y dull drafftio ar gyfer rhai o’r darpariaethau allweddol.  

Mae adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig yn canolbwyntio ar dair agwedd allweddol ar y Bil drafft:

  • y newid i fodel cadw pwerau;
  • y cymalau cadw ynghylch cyfraith droseddol a chyfraith breifat a’r profion angenrheidrwydd; a’r
  • trefniadau ar gyfer cydsyniad.

Mae’r adroddiad yn beirniadu’r ffordd y cafodd y rhestr o bynciau sy’n cael eu cadw gan San Steffan ei lunio. Mae’r rhestr o gymalau cadw yn hir, ac mae’r Pwyllgor yn dadlau bod gofyn i adrannau Llywodraeth y DU nodi’r materion i’w cadw gan San Steffan wedi arwain at restr sydd ond yn mapio’r cymhwysedd deddfwriaethol presennol.

Argymhellodd y Pwyllgor y dylid ail-gynnal y broses gydag arweiniad clir gan Swyddfa Cymru i adrannau Whitehall ynghylch gwneud penderfyniadau ar gadw pwerau, a mwy o dryloywder am y meini prawf sy’n cael eu defnyddio yn y broses.   Mae’r Pwyllgor hefyd yn dweud y dylai Swyddfa Cymru hefyd ymgynghori â Llywodraeth Cymru ynghylch ei disgwyliadau o ran y rhestr o gymalau cadw.

Roedd y Pwyllgor hefyd yn beirniadu’r profion ‘angenrheidrwydd’ yn y Bil drafft a fyddai’n berthnasol i bedair agwedd ar ddeddfwriaeth y Cynulliad: deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymhwysedd y Cynulliad i wneud darpariaethau sy’n effeithio ar Loegr, addasu’r gyfraith ar faterion a gadwyd yn ôl, addasu “cyfraith breifat” ac addasu cyfraith droseddol.

Mae’r Pwyllgor o’r farn fod perygl i’r profion greu trothwy rhy uchel ar gyfer deddfwriaeth y Cynulliad ac yn argymell eu dileu o’r Bil ac asesu dewisiadau amgen.

Mae’r adroddiad yn trafod y gofyniad am gydsyniad gweinidogol ar gyfer deddfwriaeth y Cynulliad lle y mae’n effeithio ar swyddogaethau Gweinidogion y DU neu gyrff a gadwyd yn ôl.   Byddai’r Bil drafft yn ehangu’r amgylchiadau lle byddai angen cydsyniad. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ddiffyg eglurder yn y diffiniad o awdurdodau cyhoeddus Cymru yn y Bil drafft, ac yn awgrymu y dylai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gytuno ar restr o gyrff y gall y Cynulliad ddeddfu yn eu cylch, er mwyn llywio penderfyniadau ar y mater hwn. Mae hefyd yn argymell cynnwys cyfyngiad amser o 60 diwrnod yn y Bil, ar gyfer y rhan fwyaf o amgylchiadau, ar gyfer unrhyw benderfyniadau ynghylch cydsyniad gweinidogol.

Mae’r Pwyllgor yn argymell trosglwyddo, lle bo’n bosibl, swyddogaethau gweinidogol ar gyfer pob maes lle y mae gan y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol.

Yn olaf, mae’r Pwyllgor o’r farn y dylai’r Ysgrifennydd Gwladol ystyried y broses cyn deddfu a dylai ystyried oedi cyn cyflwyno’r Bil.

Nid oedd y Pwyllgor o’r farn eu bod yn gallu gwneud argymhellion ar rai o’r materion allweddol eraill sy’n effeithio ar y Bil, fel y gwaith o ddatblygu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân neu benodol i Gymru, ac ni ddaeth i gonsensws ynghylch pa bwerau y dylid eu datganoli i Gymru a pha bwerau y dylai San Steffan eu cadw.

Mewn datganiad ar 29 Chwefror, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ei fwriad i gael gwared ar y prawf angenrheidrwydd yn hytrach na’i newid:

‘Given that a key aim is to reduce complexity, removing the “necessity test” will cut the constitutional red tape which risks fettering the ability of the Assembly to modify the law to enforce its legislation for which it is responsible.’

Cytunodd hefyd i leihau nifer y cymalau cadw ac mae wedi rhoi cyfarwyddyd i swyddogion Swyddfa Cymru weithio â chydweithwyr yng Nghabinet y DU i lunio rhestr ddiwygiedig.

Mewn perthynas â chydsyniad gweinidogol, mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu cael gwared ar y cyfyngiad cyffredinol ar y Cynulliad o ran addasu swyddogaethau Gweinidog y Goron mewn meysydd sydd wedi’u datganoli, ac i adolygu pob un o’r swyddogaethau i geisio datganoli cymaint ag y bo modd.

Pwysleisiodd yr Ysgrifennydd Gwladol ei wrthwynebiad i awdurdodaeth ar wahân i Gymru ond cyhoeddodd fod gweithgor wedi’i greu – gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, swyddfa’r Arglwydd Brif Ustus, a Llywodraeth Cymru – i ystyried pa drefniadau penodol fyddai eu hangen i gydnabod anghenion Cymru o fewn awdurdodaeth Cymru a Lloegr pan gaiff y model cadw pwerau ei roi ar waith.

Ni chaiff fersiwn derfynol y Bil – a oedd i gael ei chyhoeddi ym mis Chwefror – bellach ei chyhoeddi tan fis Mai ar y cynharaf.

Cafodd y penderfyniad i oedi’r broses o gyhoeddi’r Bil groeso gan y Cynulliad, arweinwyr y pleidiau a’r Llywydd. Mewn datganiad, nododd y Prif Weinidog ei fod yn gyfle i gynhyrchu darn gwirioneddol ystyrlon o ddeddfwriaeth, ond mynegodd ei siom ynghylch diffyg manylion ar y cynigion a diffyg deialog adeiladol rhwng Swyddfa Cymru a Llywodraeth Cymru.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg