Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Estyn 2014-15: Sylwadau manylach cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn

19 Chwefror 2016

Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae hwn yn ddarlun o rai pensiliau.

Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.

Dyma’r ail erthygl ar adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Estyn cyn dadl y Cynulliad ddydd Mawrth (23 Chwefror 2016).

Roedd erthygl ddoe yn edrych ar sylwadau cyffredinol y Prif Arolygydd ynghylch beth roedd arolygwyr Estyn wedi canfod yn ystod 2014-15 ac roedd yn cyflwyno peth data ar ganlyniadau arolygiadau mewn dau dabl. Heddiw, rydym yn cymryd golwg agosach ar sectorau penodol a blaenoriaethau addysg Llywodraeth Cymru.

Mae adroddiad blynyddol y Prif Arolygydd yn cynnwys ‘adroddiadau sector’ ar gyfer pob agwedd ar system addysg Cymru y mae’n ei harolygu. Mae rhai o’r prif bwyntiau wedi’u rhestru isod.

Ysgolion cynradd

  • Cafodd safonau eu barnu yn Dda neu’n well mewn tua dwy o bob tair ysgol gynradd a arolygwyd.
  • Cafodd darpariaeth yn gyffredinol ei barnu yn Dda neu’n well mewn tri chwarter o ysgolion a arolygwyd.

Ysgolion uwchradd

  • Gwnaeth cyfran yr ysgolion a farnwyd yn Ardderchog godi i 16%, sef y gyfran uchaf yn unrhyw flwyddyn ers 2010. Fodd bynnag, mae cyfran yr ysgolion a farnwyd yn Anfoddhaol hefyd wedi codi. Mae’r Prif Arolygydd yn disgrifio hyn fel ‘polareiddio mewn canlyniadau’, fel y nodwyd yn erthygl ddoe.
  • Nododd arolygwyr Estyn arfer ardderchog yn 38% o ysgolion uwchradd, sef cynnydd o 13 pwynt canran oddi ar 2013-14.
  • Cafodd safonau eu barnu yn Dda neu’n well mewn dwy o bob pum ysgol uwchradd, sy’n is na’r flwyddyn flaenorol.
  • Cafodd darpariaeth ei barnu yn Dda neu’n well mewn tua hanner o ysgolion a arolygwyd, sef cyfran is na’r flwyddyn flaenorol.

Y Blynyddoedd Cynnar

  • Roedd 36% o leoliadau heb fod mewn ysgolion i blant dan bump oed angen rhyw fath o waith dilynol, sy’n uwch na’r ddwy flynedd flaenorol. Mae’r Prif Arolygydd yn nodi bod hyn yn ‘gwrth-droi’r duedd flaenorol o welliant mewn meysydd allweddol, fel cynllunio’r cwricwlwm a hunanarfarnu’.

Unedau Cyfeirio Disgyblion

  • Cafodd safonau eu barnu yn Dda mewn dwy Uned Cyfeirio Disgyblion ac yn Ddigonol yn y llall, tra bod darpariaeth wedi’i barnu’n Dda yn y tair Uned. Mae hyn yn dangos gwelliant o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Mae’r Prif Arolygydd yn cyfeirio at Unedau Cyfeirio Disgyblion fel enghraifft lle nad yw cyfres o ganlyniadau arolygu un flwyddyn mewn sector cymharol fach yn rhoi’r darlun llawn. Dywed fod y ‘sector yn gyffredinol yn parhau’n wan, ac mae angen newidiadau o hyd i’r ffordd y mae unedau cyfeirio disgyblion yn cael eu rheoli a’u trefnu’.

Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru

Llythrennedd a rhifedd

Mae’r Prif Arolygydd yn nodi gwelliannau yn sgiliau llythrennedd disgyblion mewn ysgolion cynradd. Fodd bynnag, mae hefyd yn dweud, mewn chwarter o ysgolion cynradd, bod y cynnydd o ran gwella sgiliau rhifedd yn rhy amrywiol. Mae Estyn yn dweud mai ‘diffyg hyder disgyblion yn cymhwyso medrau rhifedd y tu allan i wersi mathemateg’ sy’n gyfrifol am hyn ynghyd â ‘diffyg cyfleoedd perthnasol a difyr iddynt gymhwyso’u medrau ar draws y cwricwlwm’.

Dywedodd y Prif Arolygydd wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 27 Ionawr 2016 y bu llai o gynnydd mewn rhifedd na llythrennedd, a oedd, yn ei farn ef, yn rhannol gan fod athrawon ym mhob pwnc yn llai cyfforddus a hyderus eu hunain wrth gymhwyso rhifedd. [gweler paragraffau 57-62 o drawsgrifiad y Pwyllgor (pdf 461KB)]

Dim ond tua hanner o ysgolion uwchradd sydd â ‘chynlluniau addas i ddatblygu llythrennedd a rhifedd disgyblion ar draws y cwricwlwm’ ac ystyriwyd fod gwaith cynllunio a chydgysylltu ar gyfer dilyniant ar draws y cwricwlwm yn yr hanner arall yn ‘wan’.

Mynd i’r afael ag effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad

Mae’r Prif Arolygydd yn nodi bod y bwlch yn lleihau ym mhob cyfnod rhwng cyrhaeddiad disgyblion sy’n gymwys i gael cinio ysgol am ddim a’u cyfoedion mwy breintiedig Yng nghyfnod allweddol 4 (lefel TGAU) mae’r bwlch ar ei leiaf ers 2009. Mae ystadegau Llywodraeth Cymru (Rhagfyr 2015) yn rhoi rhagor o fanylion.

Am y tro cyntaf, mae’r adroddiad blynyddol yn trafod pa mor dda mae ysgolion yn defnyddio’r Grant Amddifadedd Disgyblion. Mae’r Prif Arolygydd yn nodi bod ‘arweinwyr mewn llawer o ysgolion cynradd yn defnyddio’r cyllid…yn dda’ ac, mewn ysgolion uwchradd ‘mae mwyafrif o ysgolion yn gwneud defnydd effeithiol’ ohono ‘trwy weithgareddau wedi’u cynllunio’n dda’. [Gellir cael rhagor o wybodaeth am hyn yn y Gwerthusiad ar Grant Amddifadedd Disgyblion gan Ipsos MORI a WISERD.]

Cymhwysedd digidol

Dywed y Prif Arolygydd, yn y mwyafrif o ysgolion cynradd, y ‘ceir diffygion pwysig mewn safonau TGCh’ gyda safonau Da neu well mewn lleiafrif yn unig.

Yn y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd ‘nid yw disgyblion yn cael digon o gyfle i ddatblygu’u medrau TGCh mewn pynciau ar draws y cwricwlwm’ ac mae hyn yn ‘fylchog ac wedi’i gydlynu’n wael’ yn ôl Estyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu blaenoriaethu’r cymhwysedd digidol o fewn y cwricwlwm ar ôl i adolygiad cwricwlwm yr Athro Graham Donaldson argymell y dylai gael yr un pwysigrwydd â llythrennedd a rhifedd.

Safonau addysgu

Mae’r Prif Arolygydd yn nodi fod addysgu yn cael ei farnu yn Dda neu’n well mewn dim ond tua hanner o ysgolion uwchradd. Yn yr hanner arall, ‘mae ansawdd yr addysgu yn anghyson ac nid yw gweithgareddau’n ddigon heriol’. Mae’r adroddiad blynyddol hefyd yn dweud ‘mewn rhyw hanner y gwersi, nid yw athrawon yn addasu gwaith i ymestyn disgyblion mwy abl nac i gynorthwyo’r rhai is eu gallu’.

Mae’r sefyllfa mewn ysgolion cynradd yn well, gyda dwy o bob tair ysgol gydag addysgu ac asesu Da neu well.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n gwneud newidiadau mawr i addysgu a hyfforddiant cychwynnol athrawon, yn dilyn Adolygiad Furlong, ac i ddatblygiad proffesiynol parhaus athrawon drwy’r ‘Fargen Newydd’.

Arweinyddiaeth a rheolaeth

Mae Estyn wedi pwysleisio’n rheolaidd bod arweinyddiaeth dda yn mynd law yn llaw ag ansawdd darpariaeth. Fel y nodwyd yn adroddiad blynyddol y flwyddyn flaenorol:

Mae canfyddiadau arolygu wedi dangos, dro ar ôl tro dros y pum mlynedd diwethaf, fod cysylltiad rhwng ansawdd arweinyddiaeth ac ansawdd deilliannau ar gyfer dysgwyr. [fy mhwyslais i]

Roedd hon yn un o brif negeseuon yn adroddiad thematig Estyn, Arfer orau o ran datblygu arweinyddiaeth mewn ysgolion (PDF 964KB) (Mehefin 2015).

Amlygir y thema hon yn adroddiad 2014-15 hefyd. Er enghraifft, mae’r Prif Arolygydd yn nodi bod gan bob un o’r ysgolion cynradd a roddwyd mewn categori statudol yn 2014-15 wendidau o ran arweinyddiaeth a rheolaeth.

Mae’r Prif Arolygydd yn nodi, yn 2014-15:

  • Mae’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth yn Dda neu’n well mewn saith o bob deg ysgol. Mae hyn yr un fath â’r llynedd.
  • Mae’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth yn Dda neu’n well mewn 43% o’r ysgolion a arolygwyd eleni. Hynny yw, mae ond yn Ddigonol ar ei orau mewn bron i dair o bob pum ysgol.
  • Mewn ychydig dros chwarter o ysgolion uwchradd, mae hunanarfarnu yn Anfoddhaol ac mae agweddau pwysig, fel addysgu ac asesu, ar goll mewn adroddiadau hunanarfarnu.

Hunanarfarnu

Yn ei adroddiad blynyddol cyntaf fel Prif Arolygydd, mae Meilyr Rowlands wedi cynnwys cyfres o gwestiynau hunanarfarnu, a, dywed:

‘allai fod yn fuddiol i staff a llywodraethwyr wrth feddwl am yr addysgu a’r dysgu yn eu hysgol eu hunain neu mewn lleoliad heblaw’r ysgol, ac am ba mor dda y maent wedi paratoi ar gyfer y newidiadau sydd i ddod [y cwricwlwm newydd ac ati] dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.’

Dywedodd y Prif Arolygydd wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 27 Ionawr 2016 (PDF 461KB)

‘Wel, rydych chi’n gwybod beth yw barn Estyn: mae hunanarfarnu yn

bwysig ofnadwy. Yn aml, yr ysgolion yna sy’n gwneud yn dda yw’r ysgolion sy’n hunanarfarnu mewn ffordd hollol onest. (…) Felly, rydym ni’n pwysleisio drwy’r amser ar bwysigrwydd hunanasesu fel rhywbeth mae pob ysgol yn ei wneud, bob blwyddyn.’

Mae’r ddadl ar adroddiad blynyddol Estyn wedi’i drefnu ar gyfer 4.00pm ddydd Iau 23 Chwefror 2016. Gellir ei gwylio ar SeneddTV.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg