Ymdrin â dŵr wyneb: y safonau newydd ar gyfer systemau draenio cynaliadwy (systemau SuDS)

8 Chwefror 2016

Erthygl gan  Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Pant yn Llanelli

Llun gan Gyfoeth Naturiol Cymru

 

Ym mis Rhagfyr 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru safonau anstatudol dros dro ar gyfer draenio cynaliadwy yng Nghymru:

Safonau anstatudol ar gyfer draenio cynaliadwy

Beth yw draenio cynaliadwy?

Bwriad systemau draenio cynaliadwy (systemau SuDS) yw lleihau effaith datblygiadau ar ddraenio dŵr wyneb, a hynny drwy ddefnyddio prosesau naturiol i ddraenio dŵr wyneb ffo. Gwneir hyn drwy gasglu, storio, a glanhau dŵr cyn ei ryddhau’n araf yn ôl i’r amgylchedd.

Mae’r dull hwn yn wahanol i systemau draenio confensiynol sy’n seiliedig ar ddefnyddio pibellau tanddaearol i symud dŵr glaw i ffwrdd o safleoedd cyn gynted â phosibl. Gall systemau confensiynol gynyddu’r perygl o lifogydd, llygredd a halogi dŵr daear.

Mae manteision system SuDS yn cynnwys lleihau faint o ddŵr sydd wedi’i halogi â charthion ac sy’n cael ei bwmpio i gael triniaeth, ac yn lleihau’r risg o orlifo a llifogydd. Yn ogystal, yn dibynnu ar sut y maent yn cael eu dylunio, gall systemau SuDS wella ansawdd dylunio trefol, creu mannau gwyrdd cyhoeddus, cynyddu bioamrywiaeth, a gwella ansawdd yr aer a byffro sŵn.

Gallwch ddarllen rhagor am systemau SuDS ar wefan SuDS Wales.

I beth y mae’r safonau hyn yn berthnasol?

Mae’r safonau yn berthnasol i systemau SuDS sy’n gwasanaethu datblygiadau newydd sydd â mwy nag un tŷ neu sydd ag arwynebedd llawr o dros 300m2. Maent yn pennu’r modd y dylid dylunio, adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw’r systemau hyn. Maent yn darparu gwybodaeth i ddylunwyr, datblygwyr eiddo, awdurdodau lleol a phartïon eraill sydd â diddordeb, fel ymgymerwyr carthffosiaeth a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Mae’r safonau’n cynnwys nifer o egwyddorion a ddylai fod yn sail i sut y mae systemau SuDS yn cael eu cynllunio. Maent hefyd yn cynnwys meini prawf ar gyfer blaenoriaethu’r dewisiadau o ran cyrchfannau ffo a’r meini prawf gofynnol o ran dylunio. Maent hefyd yn nodi sut y dylid adeiladu a chynnal a chadw systemau SuDS. Dyma rhai o’r egwyddorion dylunio:

  • Rheoli dŵr ar y wyneb neu’n agos i’r wyneb, a hynny mor agos â phosibl at ffynhonnell y dŵr ffo.
  • Trin glaw fel adnodd naturiol gwerthfawr.
  • Sicrhau bod llygredd yn cael ei atal yn y fan y mae’n tarddu, yn hytrach na dibynnu ar y system ddraenio i’w drin neu i ymyrryd.
  • Rheoli glaw er mwyn diogelu pobl rhag y perygl cynyddol o lifogydd, a diogelu’r amgylchedd rhag y difrod sy’n deillio o’r newidiadau mewn cyfraddau a phatrymau llif, a symudiadau gwaddodion y mae’r datblygiad yn eu hachosi.
  • Rhoi ystyriaeth i’r ffactorau sy’n debygol o greu pwysau yn y dyfodol mewn perthynas â’r perygl o lifogydd, yr amgylchedd ac adnoddau dŵr, fel newid hinsawdd ac ymgripiad trefol.
  • Sicrhau’r budd gorau o ran amwynder a bioamrywiaeth.
  • Gwneud y defnydd gorau o’r tir sydd ar gael drwy ddefnydd amlswyddogaethol o fannau cyhoeddus a thir y cyhoedd.
  • Osgoi’r angen i bwmpio lle bo hynny’n bosibl.Disgwylir i ddatblygwyr ddangos eu bod wedi cydymffurfio â’r safonau wrth gyflwyno ceisiadau cynllunio.

Beth nesaf?

Mae’r Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Atodlen 3)—Deddf nad yw wedi’i chychwyn yng Nghymru (nac yn Lloegr)—yn ei gwneud yn ofynnol ar ddatblygiadau newydd i gynnwys nodweddion systemau SuDS sy’n cydymffurfio â’r safonau cenedlaethol.

Mae’r safonau dros dro wedi’u cyhoeddi ar sail ymgynghorol fel y gall y partïon perthnasol (dylunwyr, datblygwyr, awdurdodau lleol, ac ati) ddangos eu bod wedi ystyried polisi Llywodraeth Cymru ar Ddatblygu a Pherygl o Lifogydd a Chynllunio a Chadwraeth Natur. Maent hefyd wedi’u cyhoeddi er mwyn eu treialu ac, os oes angen, eu diwygio os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu y dylid eu gwneud yn statudol.

Mae dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran systemau SuDS wedi’i nodi yn ei Strategaeth Ddŵr i Gymru.

Enghreifftiau o systemau SuDS yng Nghymru

Grangetown Werddach, Caerdydd

Mae cynllun Grangetown Werddach yn bartneriaeth rhwng Cyngor Dinas Caerdydd, Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Bwriad y cynllun yw casglu, glanhau a dargyfeirio dŵr glaw yn uniongyrchol i mewn i’r afon Taf, yn hytrach na bod y dŵr hwn yn cael ei bwmpio wyth milltir drwy Fro Morgannwg i’r môr, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd. Mae’r cynllun yn cynnwys ardaloedd plannu a fydd yn amsugno’r dŵr glaw, cynyddu bioamrywiaeth a darparu mannau gwyrdd cyhoeddus.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynhyrchu fideo ar gynllun Grangetown Werddach:

Gallwch ddarllen mwy ar flog Grangetown Werddach.

GlawLif, Llanelli

Mae Dŵr Cymru yn buddsoddi tua £80 miliwn mewn nifer o brosiectau GlawLif yng Nghymru hyd at 2020. Mae prosiectau yn Llanelli wedi cael eu datblygu i fynd i’r afael â phroblemau sy’n ymwneud â’r dŵr glaw sy’n llifo i garthffosydd yn ystod cyfnodau o law trwm. Roedd un prosiect yn cynnwys ymdrin â materion dŵr wyneb mewn ysgol gynradd drwy gyflwyno pwll, pant, planwyr, palmentydd athraidd, casgenni dŵr a pharth addysgol awyr agored.

Gallwch ddarllen mwy am brosiectau Dŵr Cymru ar ei wefan GlawLif.

View this post in English

Darllenwch yr erthygl hon yn Saesneg