Systemau cynllunio ym mhedair gwlad y DU: cyhoeddiad newydd gan bedair deddfwrfa’r DU

20 Ionawr 2016

Erthygl gan Graham Winter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Welsh - blogHeddiw, rydym yn cyhoeddi papur sy’n disgrifio ac yn cymharu’r systemau cynllunio defnydd tir sy’n gweithredu yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Fersiwn wedi’i ddiweddaru a’i ymestyn yw hwn o’r papur a gyhoeddwyd gyntaf gennym yn 2013. Fe’i paratowyd ar y cyd gan Wasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin, Gwasanaeth Ymchwil a Gwybodaeth Cynulliad Gogledd Iwerddon a Chanolfan Wybodaeth Senedd yr Alban.

Mae gan bob un o’r pedair gwlad system gynllunio y gellir ei disgrifio fel ei bod yn ‘cael ei harwain gan gynlluniau’.   Mae hyn yn golygu bod polisi cynllunio cenedlaethol a lleol wedi’i nodi mewn cynlluniau datblygu ffurfiol sy’n disgrifio pa ddatblygiadau a ddylai ac na ddylai gael caniatâd cynllunio, sut y dylid diogelu tir ac mae’n ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng datblygu a diogelu’r amgylchedd er budd y cyhoedd.

Gwneir penderfyniadau ar geisiadau cynllunio unigol ar sail y polisïau yn y cynlluniau hyn, oni bai bod ystyriaethau eraill. Mae gan bob gwlad hefyd ddiffiniadau o’r mathau o ddatblygiad a ganiateir heb yr angen am gais cynllunio ac mae’n diffinio “dosbarthiadau defnydd” lle mae newid defnydd o fewn dosbarth yn cael ei ganiatáu fel arfer. Mae system apelio i adolygu penderfyniadau ar geisiadau hefyd yn gweithredu ym mhob gwlad, ynghyd â system orfodi ar gyfer ymdrin ag achosion o dorri caniatâd cynllunio.

Er bod strwythurau sylfaenol y pedair system yn debyg, ceir gwahaniaethau yn y ffordd mae pob system yn gweithio. Mae gan Loegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru bellach eu deddwriaeth gynllunio sylfaenol eu hunain:

  • Cafodd Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 Gydsyniad Brenhinol ym mis Gorffennaf 2015, er nad yw pob un o’i darpariaethau eto mewn grym. Mae’r Ddeddf hon yn cyflwyno mathau newydd o gynllun datblygu a math newydd o gais cynllunio i’w penderfynu’n uniongyrchol gan Weinidogion Cymru;
  • Mae newidiadau yn Lloegr ers 2010 wedi creu mwy o wahaniaeth rhwng y system yn Lloegr a’r tair gwlad arall. Roedd Deddf Lleoliaeth 2011 yn benodol yn rhoi’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer pwerau cynllunio cymdogaeth a’r ddyletswydd i gydweithredu ag awdurdodau cyfagos;
  • Deddf Cynllunio Gwlad a Thref (yr Alban) 1997 yw’r sail ar gyfer y system gynllunio yn yr Alban. Diwygiwyd y Ddeddf hon yn sylweddol gan Ddeddf Cynllunio ac ati (yr Alban) 2006. Mae adolygiad annibynnol o system gynllunio’r Alban yn mynd rhagddo;
  • Cafodd y system yng Ngogledd Iwerddon ei newid yn sylweddol yn ddiweddar ar ôl trosglwyddo swyddogaethau cynllunio i gynghorau lleol. Ar 1 Ebrill 2015 daeth system gynllunio dwy haen newydd i rym o dan Ddeddf Cynllunio (Gogledd Iwerddon) 2011.

Am fwy o wybodaeth gweler ein cyhoeddiad newydd.

View this post in English

Darllenwch yr erthygl hon yn Saesneg