Adolygiad o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru

20 Ionawr 2016

Erthygl gan Anne Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae hwn yn lun o raddedigion

Llun: o Flickr gan Kevin Saff. Dan drwydded Creative Commons.

Y prynhawn yma (dydd Mercher 20 Ionawr 2016), bydd Aelodau’r Cynulliad yn cael dadl ar yr Adolygiad annibynnol o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru.

Cafodd adroddiad interim ffeithiol yr adolygiad ei gyhoeddi ar 18 Rhagfyr 2015. Mae’r adroddiad interim yn grynodeb ffeithiol o’r dystiolaeth a gafodd yr adolygiad. Mae’r adroddiad terfynol a’r argymhellion i gael eu cyflwyno i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau yr hydref hwn.

Yr Adolygiad

Sefydlwyd yr adolygiad gan Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, ym mis Ebrill 2014.

Gofynnwyd i’r Athro Syr Ian Diamond gadeirio’r panel adolygu. Yr Athro Diamond yw Pennaeth ac Is-Ganghellor Prifysgol Aberdeen. Cyn hynny, bu’n Brif Weithredwr y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

Cylch gwaith yr Adolygiad

Mae blaenoriaethau’r Gweinidog ar gyfer yr adolygiad yn cynnwys:

  • ehangu mynediad – sicrhau mai ehangu mynediad yw amcan canolog unrhyw system yn y dyfodol, a’i bod yn system flaengar a theg;
  • cefnogi anghenion sgiliau Cymru;
  • cryfhau’r ddarpariaeth ran-amser a darpariaeth ôl-raddedig yng Nghymru; a
  • chynaliadwyedd ariannol hirdymor.

Gofynnwyd i’r adolygiad hefyd ystyried:

cyllido addysg uwch yn wyneb cyfyngiadau parhaus ar wariant cyhoeddus; polisi ffioedd dysgu amser llawn a rhan-amser; polisi a threfniadau cyllido addysg uwch traws-ffiniol; trefniadau cyllid myfyrwyr (gan gynnwys cymorth cynhaliaeth i fyfyrwyr Addysg Uwch ac Addysg Bellach); rôl Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o ran darparu cyllid myfyrwyr; a dyled myfyrwyr.

Yn eu Rhaglen Lywodraethu, mae Llywodraeth Cymru wedi addo na fydd unrhyw fyfyriwr [israddedig amser llawn] sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru yn talu ffioedd uwch mewn termau real yn ystod oes y weinyddiaeth hon na phe bai wedi bod yn fyfyriwr yn 2010/11. Mae hyn yn berthnasol waeth ble y bydd y myfyriwr yn dewis astudio, yng Nghymru neu mewn man arall.

Pwy yw aelodau eraill y panel adolygu?

Mae Aelodau eraill y panel adolygu’n cynnwys:

  • Yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Caerdydd a Chadeirydd Prifysgolion Cymru;
  • Rob Humphreys: Cyfarwyddwr Cymru y Brifysgol Agored ac Is-gadeirydd Prifysgolion Cymru; a
  • Stephanie Lloyd yna Beth Button: Llywyddion Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr (UCM) Cymru.

Mae aelodau eraill y panel yn cynnwys arbenigwyr addysg o feysydd amrywiaeth, cynhwysiant, economeg addysg, y sector addysg bellach a chynrychiolydd o ddiwydiant.

Yn ei ragair, dywedodd yr Athro Diamond ei fod yn freintiedig o fod wedi cael arbenigwyr o gystal ansawdd i roi o’u hamser i eistedd ar y Panel Adolygu, ac o natur trawsbleidiol yr arbenigwyr hynny. Cafodd pob un o’r gwrthbleidiau gwleidyddol eu gwahodd i enwebu cynrychiolydd i eistedd ar y panel. Y rhain yw:

  • Gareth Jones OBE: Cyn-brifathro a chyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru;
  • Yr Athro David Warner, CBE: Cyn Is-Ganghellor Prifysgol Fetropolitan Abertawe. Enwebai y Blaid Geidwadol yng Nghymru
  • Yr Athro Michael Woods: Athro Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Aberystwyth a Chyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru. Enwebai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Dr David Blaney, Prif Weithredwr ac Aelod o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) sy’n mynychu cyfarfodydd fel sylwedydd swyddogol.

Adroddiad interim ffeithiol

Mae’r Athro Diamond a’r Gweinidog yn pwysleisio bod yr adroddiad yn crynhoi’r dystiolaeth a ystyriwyd gan y Panel Adolygu o fis Ebrill 2014 i fis Medi 2015.  Mae’r adroddiad interim yn nodi’r themâu sy’n dod i’r amlwg a negeseuon sy’n deillio o’r dystiolaeth hon, ond nid yw’n gwneud unrhyw ddyfarniad ynghylch ei ddilysrwydd neu ei arwyddocâd.

Beth yw barn y rhanddeiliaid allweddol?

Ar yr un pryd, cyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion i’r Alwad am Dystiolaeth hefyd. Roedd yr Alwad am Dystiolaeth yn rhedeg o fis Tachwedd 2014 i fis Chwefror 2015. Roedd yn gofyn am ymatebion i 16 o gwestiynau penodol ynghyd â gwahoddiad i ddarparu gwybodaeth ategol ychwanegol, gan gynnwys cynigion ar gyfer diwygio a modelau ariannu cyllid myfyrwyr a sector Addysg Uwch amgen. Cafodd yr adolygiad 166 o ymatebion ysgrifenedig i’w galwad am dystiolaeth.

Mae mwy…

Comisiynwyd Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru i gynnal gwaith ymchwil ychwanegol yn ymwneud yn benodol â darpariaeth addysg uwch ran-amser yng Nghymru. Cyhoeddwyd eu hadroddiad, Tystiolaeth i’r Adolygiad o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru – Addysg Uwch Rhan-amser yng Nghymru ar yr un pryd â’r adroddiad interim.

Themâu allweddol sy’n deillio o’r dystiolaeth

Mae’r panel a’r Gweinidog wedi pwysleisio’n gryf nad yw’r rhain yn argymhellion na hyd yn oed yn farn y panel ei hunan! Fodd bynnag, mae rhai o’r themâu a’r negeseuon sy’n deillio o’r sail dystiolaeth yn cynnwys:

  • Roedd mwyafrif yr ymatebwyr a fynegodd farn yn credu nad oedd cynnal y sefyllfa bresennol yn opsiwn;
  • Ar y cyfan, mae diffyg consensws o ran y ffordd ymlaen. Mae’r rhan fwyaf o ymatebwyr yn cydnabod, fodd bynnag, y bydd angen gwneud dewisiadau anodd;
  • Ar y cyfan, mae’r sector addysg uwch yng Nghymru wedi elwa o gynnydd net mewn incwm ers cyflwyno’r gyfundrefn bresennol o ffioedd a chyllido – er ei bod yn bosibl na fydd y cynnydd mor uchel ag y rhagwelwyd a bod newidiadau mewn lefelau incwm yn wahanol iawn rhwng sefydliadau;
  • Mae pryder, yn enwedig ymysg ymatebwyr yn y sector Addysg Uwch, ynghylch bwlch ariannu mawr sy’n cynyddu o ran y lefel o fuddsoddiad mewn addysg uwch yng Nghymru o’i gymharu â rhannau eraill o’r DU;
  • Mae barn gref nad yw’r gyfundrefn bresennol o ariannu’r sector Addysg Uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol;
  • Mae myfyrwyr Addysg Uwch sy’n byw yng Nghymru yn elwa o gael lefelau dyled myfyrwyr is na’r rheini sy’n byw yn Lloegr;
  • Ceir cytundeb cryf, yn enwedig ymysg myfyrwyr, cyrff sy’n cynrychioli myfyrwyr, staff cymorth a gweithwyr proffesiynol ehangu cyfranogiad, bod lefel y cymorth cynhaliaeth sydd ar gael yn annigonol i dalu am gostau gwirioneddol myfyrwyr a bod hyn yn fwy o broblem i fyfyrwyr na lefel y ffioedd dysgu a’r cymorth ffioedd dysgu.

Adroddiad terfynol ac argymhellion

Caiff barn ac argymhellion y Panel Adolygu ei hun eu gwyntyllu yn yr adroddiad terfynol, a gaiff ei gyflwyno i’r Gweinidog erbyn mis Medi 2016. Y dasg yw i’r adolygiad lunio adroddiad terfynol i’r Gweinidog Addysg a sgiliau, sy’n rhoi cyngor clir ac argymhellion wedi’u costio ar gyfer trefniadau ariannu’r sector addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru yn y dyfodol.  Gofynnodd y Gweinidog am i argymhellion y Panel fod yn gyflawnadwy, yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy.

Mae’n dasg enfawr a chymhleth i fynd i’r afael â hi. Mae disgwyliadau’n uchel. Bydd eu hargymhellion i’r Gweinidog Addysg nesaf yn dylanwadu ar gymorth ariannol i’r ddau sefydliad addysg uwch ac i’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr addysg uwch.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg