Sut yr aeth Cymru ati i drechu tlodi yn 2015

10 Rhagfyr 2015

Erthygl gan  Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Eleni, mae dadleuon am dlodi yng Nghymru wedi cael lle amlwg ar yr agenda gwleidyddol. Mae’r trafodaethau wedi canolbwyntio ar effeithlonrwydd rhaglenni’r llywodraeth, y rhaglen diwygio lles a’r hyn a fydd yn wynebu’r tlotaf yn y wlad yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Mae’r etholiad yn prysur agosáu ac, o gofio bod cyfran y boblogaeth yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi yn parhau’n ystfnig o uchel, dyma ddadansoddiad o’r prif ddigwyddiadau a’r cyhoeddiadau a’r gwaith ymchwil a gyhoeddwyd yn 2015 yn ymwneud â thlodi. Maent wedi’u rhestru mewn trefn gronolegol, a’r diweddaraf yn gyntaf:

Cyn Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd a gynhaliwyd ym Mharis ym mis Tachwedd, rhybuddiodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol mai’r tlotaf yng Nghymru fydd yn dioddef fwyaf oherwydd y newid yn yr hinsawdd. Dywedodd:

Climate change is one of the biggest challenges facing the world in the 21st century which has significant environmental, economic, cultural and social consequences. It will affect future generations, and [disproportionately] impact people in poverty within Wales and worldwide.”

Cyhoeddodd Sefydliad Bevan adroddiad ym mis Tachwedd, yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi rhaglen genedlaethol ar waith i ledaenu ffyniant a gwella cyfleoedd bywyd miloedd o bobl yng Nghymru.

Roedd yn dadlau y bydd angen i Lywodraeth nesaf Cymru ymdrin â’r broblem mewn ffordd gwbl wahanol, gan gymryd camau sy’n:

  • ddigon eang i sicrhau newidiadau mesuradwy yn y modd y caiff incwm a chyfleoedd bywyd eu dosbarthu;
  • cydnabod bod gan bobl anghenion penodol yn ystod cyfnodau gwahanol o’u bywydau;
  • cynnwys Cymru gyfan o ran eu cwmpas a’u heffaith;
  • cael eu cymryd gan yr holl brif sefydliadau – gan gynnwys busnesau, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.

Lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad fis Hydref ynghylch set o ddangosyddion perfformiad, sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith, i fesur saith o nodau (un o’r rhain yw ‘Cymru ffyniannus’) Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae’n ofynnol hefyd gosod cerrig milltir mewn perthynas â’r dangosyddion.

Mae nifer o’r dangosyddion arfaethedig yn ymwneud â thlodi, gan gynnwys: nifer y babanod sydd â phwysau geni iach; digartrefedd; pobl mewn gwaith; pobl sy’n gallu fforddio prynu nwyddau cyffredin; a disgwyliad oes, ymhlith eraill.

Un o’r dangosyddion arfaethedig yw’r ‘nifer sy’n byw mewn tlodi’ er nad yw hwn yn cael ei ddefnyddio fel dangosydd perfformiad yng Nghynllun Gweithredu Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru.

Gŵr digartref

e.g. Image from (website). Licensed under the Creative Commons Delwedd o Wikimedia. Trwyddedwyd o dan Creative Commons

Ym mis Hydref, cyhoeddodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi fod £41.1 miliwn o arian Llywodraeth Cymru a’r UE yn cael ei fuddsoddi yn y rhaglen Cymunedau dros Waith. Yn ôl ei datganiad, rhaglen dair blynedd yw hon, a bydd yn ‘helpu 8,000 o unigolion i gael gwaith’. Dywedodd hefyd y bydd yn cymryd camau penodol i “helpu oedolion sy’n economaidd anweithgar ac sy’n ddi-waith ers cyfnod hir a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth, sy’n methu cael gwaith oherwydd rhesymau cymhleth, i ailymuno â’r farchnad lafur.”

Lansiodd y Llywodraeth hefyd raglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth y Llywodraeth i helpu rhieni sy’n  economaidd anweithgar i gael hyfforddiant neu waith os gofal plant yw eu prif rwystr. Caiff y rhaglen ei chyflwyno ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru a disgwylir iddi helpu 6,400 o rieni dros 25 oed sy’n economaidd anweithgar i gael gwaith neu hyfforddiant dros y tair blynedd nesaf.

Sefydlodd Sefydliad Bevan adroddiad fis Medi yn dyfalu sut le fydd yng Nghymru yn 2020. Awgrymodd:

  • y bydd teuluoedd tlotach yn colli £40 yr wythnos a bydd gweithwyr amser llawn cyffredin yn cael £125 yr wythnos yn ychwanegol;
  • y bydd cynnydd o 17% mewn swyddi proffesiynol, ond gostyngiad o 12%  mewn swyddi i weithwyr lled-fedrus a gweithwyr heb sgiliau;
  • y bydd prinder o oddeutu 60,000 o gartrefi newydd; a
  • y bydd 70,000  blant yn gadael yr ysgol heb 5 TGAU da.

Ym marn Cyfarwyddwr y Sefydliad, “there needs to be an honest discussion about universalism and targeting, and about place-based versus people-based approaches”.

Ym mis Medi, cyhoeddodd Sefydliad Joseph Rowntree ei adroddiad, Monitoring poverty and exclusion in Wales, a gaiff ei baratoi bob dwy flynedd, a daw i’r casgliadau a ganlyn:

  • ar gyfartaledd, roedd 700,000 yn byw mewn tlodi yng Nghymru yn ystod y tair blynedd hyd at 2013-14, sy’n cyfateb i 23 y cant o’r boblogaeth;
  • o’i gymharu â’r sefyllfa ddeng mlynedd ynghynt, roedd rhagor o bobl oedran gweithio (yn enwedig oedolion ifanc) yn byw mewn tlodi a llai o blant a phensiynwyr yn byw mewn tlodi;
  • ni fu gostyngiad yn nifer y swyddi sy’n talu cyflogau isel dros y ddegawd ddiwethaf yng Nghymru. Mae 270,000 o swyddi, sy’n cael eu llenwi gan ferched yn bennaf, yn talu llai na dau draean o gyflog canolrifol y DU fesul awr;
  • yn 2014, roedd 30,000 o sancsiynau Lwfans Ceisio Gwaith, sy’n llai na’r nifer yn 2013, a hynny’n bennaf oherwydd bod llai wedi  gwneud cais amdano.

Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad adroddiad yn nodi pryder dirfawr am y ffaith nad oedd tlodi’n lleihau yng Nghymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid y ffordd roedd yn ceisio mynd ati i wneud hynny. Awgrymodd un sylwebydd gwleidyddol mai hwn, efallai, oedd yr ymchwiliad pwysicaf ers datganoli.

Ymatebodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi i’r adroddiad ym mis Hydref, gan ddweud nad oedd yn credu bod angen adolygu dulliau Llywodraeth Cymru o weithredu. Mae rhagor o wybodaeth am ymateb y Gweinidog i’r adroddiad i’w gweld yn fy mlog blaenorol.

Ym mis Ebrill, pasiodd Cynulliad Cenedlaethol Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Nod y Ddeddf yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Nod y Ddeddf oedd annog rhai cyrff cyhoeddus penodol i ystyried effeithiau hirdymor, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau, a gyda’i gilydd, ceisio atal problemau a gweithredu’n fwy cydgysylltiedig.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Tlodi Plant diwygiedig ym mis Mawrth. Yn dilyn ymgynghoriad, penderfynwyd cadw tri phrif nod y Strategaeth. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar leihau nifer y plant sy’n byw mewn cartrefi lle nad oes neb yn gweithio, gwella sgiliau a lleihau anghydraddoldeb ym maes iechyd, Gosodwyd dau nod newydd hefyd: mae’r naill yn canolbwyntio ar rôl yr economi yn y broses o greu swyddi a thwf yng Nghymru, ac mae’r llall yn mynd i’r afael â thlodi mewn gwaith.

Mae’r Strategaeth hefyd yn egluro mai drwy’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi yn bennaf y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni amcanion ei Strategaeth Tlodi Plant.

Ym mis Ionawr, cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad yn dwyn y teitl, Rheoli effaith diwygiadau lles ar denantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru.

Archwiliodd yr adroddiad effaith y diwygiadau lles ar denantiaid tai cymdeithasol Cymru a daeth i’r casgliad bod y newidiadau yn y budd-dal tai a oedd yn rhan o’r rhaglen diwygio lles yn cael effaith sylweddol ar gynghorau a chymdeithasau tai Cymru, a oedd ei chael yn anodd cael hyd i atebion effeithiol a chynaliadwy i’r broblem.

Penderfynodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad gynnal ymchwiliad i’r mater. Daeth i’r casgliad fod y diwygiadau lles yn taro’r rhai a oedd eisoes yn dlawd yn arbennig o galed. Roedd rhai landlordiaid cymdeithasol yn defnyddio ‘asesiadau o allu ariannol’ i fesur gallu tenantiaid i dalu rhent. Os byddant yn methu, mae hynny, i bob pwrpas, yn golygu eu bod yn ‘rhy dlawd i rentu tŷ cymdeithasol’.

Roedd yr adroddiad yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn:

  • datblygu strategaeth diwygio lles i wella cysondeb a chynnig arweinyddiaeth gydlynol ar y mater;
  • cyhoeddi cyfres o opsiynau a ystyriwyd gan Weinidogion i liniaru effaith y penderfyniad i ddileu’r cymhorthdal ystafell sbâr (sef ‘treth yr ystafell wely’);
  • casglu data allweddol gan Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai;
  • monitro effaith asesiadau o allu ariannol ac ymchwilio i broffil yr ymgeiswyr sy’n eu methu;
  • dylanwadu mwy i sicrhau bod mwy o gysondeb yn y modd y defnyddir taliadau tai yn ôl disgresiwn drwy Gymru.

Ymatebodd y Gweinidog ym mis Awst, ond gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth, ac fe’i chafwyd ym mis Tachwedd.

View this post in English

Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg