Cyflwyno deiseb i Gynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Rhagfyr 2015

Erthygl gan Joe Champion, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Committee room CR-AS0126New build

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynrychioli pobl a buddiannau Cymru. Fel corff democrataidd, mae’n gofyn am fewnbwn gan ddinasyddion Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau. Er mwyn hwyluso’r broses hon, sefydlwyd y Pwyllgor Deisebau yn 2007, a chyflwynwyd system ddeisebau ar-lein yn 2010.

Sefydlwyd y Pwyllgor i alluogi aelodau’r cyhoedd sy’n teimlo’n gryf am fater penodol i ennyn cefnogaeth a chyflwyno deiseb i’r Cynulliad mewn ffordd hygyrch ac ystyrlon. Gall y cam o gyflwyno deiseb helpu’r broses o ddwyn Llywodraeth Cymru a rhai eraill sy’n gwneud penderfyniadau i gyfrif; gall roi cyfle i ddeisebwyr geisio gwybodaeth ganddynt ac i gyflwyno eu hachos yn uniongyrchol i Aelodau’r Cynulliad.

Gall unrhyw un weld a llofnodi deisebau y mae llofnodion yn cael eu casglu ar eu cyfer ar hyn o bryd drwy ddefnyddio gwasanaeth deisebau ar-lein y Cynulliad. Am resymau diogelwch, dim ond unwaith y gellir defnyddio cyfeiriad e-bost wrth lofnodi un ddeiseb.

Cyflwyno eich Deiseb

Gellir cyflwyno deisebau ar-lein drwy ddefnyddio gwefan y Cynulliad, neu gellir lawrlwytho templedi o’r ffurflenni a ddefnyddir ar gyfer deisebau.

Dylai pob deiseb:

  • Gynnwys teitl neu bwnc y ddeiseb;
  • Darparu datganiad cryno a chlir sy’n cynnwys pwnc y ddeiseb Datgan y camau y mae’r deisebydd am i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu cymryd;
  • Cynnwys enw’r prif ddeisebydd a chyfeiriad cyswllt (rhag ofn bod angen cysylltu â chi am y ddeiseb. Ni fydd y cyfeiriad hwn yn ymddangos ar y wefan);
  • Sicrhau bod dyddiad cychwyn a gorffen wedi’u nodi ar gyfer y ddeiseb (rydym yn argymell cyfnod o rhwng pedair ac wyth wythnos).

A fydd y ddeiseb yn cael ei derbyn?

Ni all y Pwyllgor weithredu ar rhai deisebau ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn ddeisebau:

  • Y mae ganddynt lai na 10 llofnod (oni bai mai sefydliadau neu gymdeithasau sy’n eu cyflwyno; os felly, un llofnod yn unig sydd ei angen);
  • Sy’n gofyn am bethau sydd y tu hwnt i gylch gwaith neu bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
  • Sy’n galw ar y Cynulliad i ymyrryd ym mhenderfyniadau neu gamau gweithredol awdurdodau lleol, gan gynnwys penderfyniadau cynllunio;
  • Sydd yr un peth â deiseb a gaewyd lai na blwyddyn ynghynt neu maent yn debyg iawn iddi;
  • Sy’n gysylltiedig ag unrhyw beth sy’n cael ei adolygu drwy system farnwrol y DU ar hyn o bryd;
  • Sy’n amlwg yn ddifenwol, yn dramgwyddus neu’n debygol o achosi gofid;
  • Sydd wedi’u llunio ar ffurf cymeradwyaeth fasnachol.

Bydd unrhyw ddeisebau y mae’r meini prawf hyn yn berthnasol iddynt yn cael eu hystyried yn rhai annerbyniadwy, ac ni fyddant yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor. Mae rhestr o ddeisebau annerbyniadwy a gyflwynwyd yn y gorffennol ar gael ar-lein.

Mewn achosion lle mae deiseb yn cael ei gyflwyno ond mae yna broblemau sillafu, gramadeg neu eglurder, gellir cysylltu â’r deisebydd i aralleirio’r ddeiseb.

Beth nesaf?

Unwaith y bydd deiseb yn cael ei hystyried yn dderbyniadwy, bydd yn cael ei hanfon at y Pwyllgor. Yna, gall y Pwyllgor gymryd nifer o gamau gweithredu yn ei chylch, gan gynnwys:

  • Gofyn am wybodaeth bellach gan Weinidogion Cymru a rhai eraill sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru;
  • Gofyn am wybodaeth bellach gan Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad neu’r Gwasanaeth Cyfreithiol;
  • Gwahodd deisebwyr neu unrhyw sefydliadau eraill i roi tystiolaeth lafar (ni fydd pob deisebydd yn cael ei wahodd i roi tystiolaeth, a phenderfyniad y Pwyllgor yw pwy gaiff wahoddiad);
  • Cynnal ymchwiliad byr i’r mater dan sylw, i weld beth y gellir ei wneud i ddatrys y broblem;
  • Gofyn i Bwyllgor arall ystyried y mater. Penderfyniad y Pwyllgor hwnnw yw pa un a yw am fanteisio ar y cyfle i fynd i’r afael â’r mater.

Pan fydd rhagor o wybodaeth yn dod i law, bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried y ddeiseb eto ac yn penderfynu pa gamau i’w cymryd yn sgil y wybodaeth newydd. Cyn i’r Pwyllgor ail-ystyried unrhyw ddeiseb, rhoir gwybod i’r deisebydd beth fydd dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf. Yn ogystal, gofynnir am eu barn ynghylch y wybodaeth newydd. Bydd staff y Pwyllgor hefyd yn rhoi manylion i’r deisebydd ynghylch y canlyniadau sy’n deillio o’r cyfarfod.

Ystyrir y bydd deiseb yn cael ei chau:

  • lle bydd y deisebwyr yn fodlon bod y mater gwreiddiol wedi cael ei ddatrys; neu
  • pan fo’n amlwg na ellir gwneud llawer o gynnydd, os o gwbl (yn aml ar ôl i Weinidog wneud datganiad polisi clir nad yw’n bwriadu gweithredu’r hyn y mae’r ddeiseb yn galw amdano, neu na all wneud hynny);

Pan fydd y Pwyllgor yn cytuno i gau deiseb, bydd yn rhoi gwybod i’r deisebydd ac yn datgan y rhesymau dros ei chau. Caiff hyn ei wneud fel arfer mewn llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor a fydd yn cynnwys crynodeb o’r camau a gymerwyd ynghylch y ddeiseb.

Faint o bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth hwn?

Yn ystod y Trydydd Cynulliad (2007-2011), pan gafodd y system ddeisebau ei lansio, cyflwynwyd 342 o ddeisebau (262 o ddeisebau derbyniadwy ac 80 o ddeisebau annerbyniadwy). O’r rhain, cafodd 203 eu cau a chafodd 59 eu trosglwyddo i Bwyllgor Deisebau y Pedwerydd Cynulliad. Golyga hyn bod tua 7 deiseb, ar gyfartaledd, yn cael eu cyflwyno bob mis yn ystod y Trydydd Cynulliad (5 deiseb dderbyniadwy a 2 ddeiseb annerbyniadwy).

O ddechrau’r Pedwerydd Cynulliad (2011) i fis Tachwedd 2014, cyflwynwyd 491 o ddeisebau i’r Pwyllgor (321 o ddeisebau derbyniadwy a 170 o ddeisebau annerbyniadwy). Golyga hyn bod tua 11 o ddeisebau, ar gyfartaledd, yn cael eu cyflwyno bob mis (7 deiseb dderbyniadwy a 4 deiseb annerbyniadwy).

Cyflwyno deiseb i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn y dyfodol

Mae’r Cynulliad wedi bod yn adolygu’r ffordd y mae ei system ddeisebau yn gweithredu ar hyn o bryd, a hynny er mwyn sicrhau ei bod yn bodloni anghenion pobl Cymru yn ystod y Cynulliad nesaf. Mae’r ymgynghoriad hwn wedi canolbwyntio ar:

  • Y meini prawf cyfredol o ran derbynioldeb deisebau a’r cwestiwn ynghylch a ddylid eu hehangu; ac
  • Y modd y mae deisebau derbyniadwy yn cael eu trin. A fyddai’n bosibl gwneud mwy i ganfod datrysiad cadarnhaol i’r broblem sydd wedi’i nodi mewn deiseb?

At y dibenion hyn, mae’r Pwyllgor Deisebau wedi bod yn cymharu’r system yng Nghymru gyda systemau deisebu eraill ledled y byd, ac wedi ceisio barn rhanddeiliaid, pobl sydd wedi cyflwyno deisebau yn y gorffennol ac aelodau’r cyhoedd ynghylch sut y gellir gwella’r broses. Er mwyn dilyn hynt yr adolygiad, gallwch ddarllen gwefan ddeisebau’r Cynulliad.

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch gysylltu â’r tîm Deisebau drwy anfon neges e-bost at SeneddDeisebau@Cynulliad.Cymru neu ffonio 0300 200 6565. Gallwch hefyd ddilyn y Pwyllgor ar Twitter @SeneddDeisebau, neu gael rhagor o wybodaeth ar-lein yma: http://www.assembly.wales/cy/gethome/e-petitions/Pages/e-petitions.aspx.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg