Sut mae mesur cynnydd cenedl?

23 Tachwedd 2015

Erthygl gan Chloe Corbyn, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ar 19 Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ddangosyddion llesiant: Sut mae mesur cynnydd cenedl? Cynigion ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol i fesur y cynnydd y mae Cymru’n ei wneud tuag at gyrraedd y saith nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Diagram yn dangos saith nod llesiant y Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol.

Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Yn gynharach eleni, pasiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Diben y Ddeddf yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’n rhoi saith nod llesiant ar gyfer Cymru ar waith.

Mae Adran 10 o’r Ddeddf yn gosod gofyniad cyfreithiol ar Weinidogion Cymru i bennu dangosyddion cenedlaethol i fesur y cynnydd a wneir tuag at gyrraedd y nodau. Mae hefyd yn ofynnol i osod cerrig milltir o ran y dangosyddion, a bydd gwaith ar ddatblygu cerrig milltir yn digwydd ar ôl cyhoeddi’r gyfres o ddangosyddion terfynol. Bydd ‘Adroddiad Blynyddol ar Lesiant’ yn cael ei gyhoeddi gan Weinidogion Cymru bob blwyddyn, a fydd yn adrodd ar gynnydd tuag at gyrraedd y saith nod llesiant. Bydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol hefyd yn ystyried yr adroddiad hwn wrth baratoi a chyhoeddi ei Adroddiad ar Genedlaethau’r Dyfodol.

Mae’r ymgynghoriad yn nodi’r cynigion drafft ar gyfer y 40 o ddangosyddion llesiant cenedlaethol, ac yn rhoi cyfle i awgrymu gwelliannau i’r dangosyddion arfaethedig neu i gynnig awgrymiadau ar gyfer dangosyddion eraill.

Y dangosyddion arfaethedig

  • Babanod a gaiff ei geni ar bwysau iach
  • Disgwyliad oes iach i bawbPobl yn gwneud dewisiadau ffordd o fyw iach
  • Plant ifanc yn datblygu’r sgiliau cywir
  • Pobl ifanc yn gadael yr ysgol gyda sgiliau a chymwysterau
  • Poblogaeth addysgedig a medrus
  • Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
  • Pobl mewn gwaith
  • Gweithlu cynhyrchiol
  • Busnesau arloesol
  • Lefelau o incwm y cartref
  • Pobl yn byw mewn tlodi
  • Pobl yn gallu fforddio nwyddau a gweithgareddau bob dydd arferol
  • Pobl yn fodlon yn eu swyddi
  • Pobl yn fodlon gyda lle maent yn byw
  • Ymdeimlad o gymuned
  • Pobl yn teimlo’n rhan o’r broses o wneud penderfyniadau’n lleol
  • Pobl sy’n gwirfoddoli
  • Pobl yn fodlon â mynediad at wasanaethau a chyfleusterau
  • Pobl yn teimlo’n ddiogel yn eu cymunedau
  • Pobl yn teimlo’n unig
  • Llesiant meddwl cadarnhaol ar gyfer pawb
  • Ansawdd tai
  • Lefelau digartrefedd
  • Pobl yn cymryd rhan yn y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth
  • Pobl yn defnyddio’r iaith Gymraeg mewn bywyd bob dydd
  • Cyfranogiad pobl mewn chwaraeon
  • Gofalu am ein treftadaeth ddiwylliannol
  • Eiddo sydd mewn perygl o lifogydd
  • Effeithlonrwydd ynni adeiladau
  • Allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Ecosystemau iach
  • Amgylchedd naturiol bioamrywiol
  • Ansawdd dŵr
  • Ansawdd aer
  • Ansawdd y pridd
  • Gwastraff nad yw’n cael ei ailgylchu
  • Ôl troed byd-eang
  • Dinasyddion gweithredol byd-eang
  • Cyfrifoldebau rhyngwladol

 

Mae’r ymgynghoriad hefyd yn cynnwys nifer o ddangosyddion nad ydynt wedi’u cynnwys yn y rhestr uchod, ond sy’n bresennol i lywio ystyriaeth rhanddeiliaid o ran dangosyddion eraill. Mae’r meysydd sydd wedi’u heithrio yn cynnwys: Llesiant goddrychol, cymunedau hygyrch, adnoddau dŵr sydd ar gael, ynni adnewyddadwy, seilwaith, entrepreneuriaeth a defnyddio moesegol.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ymatebion i’r ymgynghoriad yw 11 Ionawr 2016.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg