Y Cyflog Byw yng Nghymru: ffigurau newydd wedi’u cyhoeddi

06 Tachwedd 2015

Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan KPMG, rhwng 2014 a 2015, cynyddodd y gyfran o swyddi yng Nghymru sy’n talu llai na’r Cyflog Byw o 24 y cant i 26 y cant. Erbyn hyn, o’r 12 o weinyddiaethau datganoledig a rhanbarthau (yn Lloegr) sy’n bodoli yn y DU, Cymru sydd â’r gyfran uchaf ond un o swyddi sy’n talu llai na’r Cyflog Byw (ynghŷd â Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gorllewin Canolbarth Lloegr a Swydd Efrog a Humber). Gogledd Iwerddon sydd â’r gyfran uchaf, sef 29 y cant.

Faint o arian sydd ei angen ar bobl i dalu’r costau byw lleiaf?

Mae’r Cyflog Byw (y tu allan i Lundain) yn cael ei osod bob mis Tachwedd gan academyddion ym Mhrifysgol Loughborough. Mae wedi’i seilio ar gyfrifiad ynghylch faint o arian sydd ei angen ar berson arferol i dalu’r costau byw lleiaf, ar gyfartaledd. Fodd bynnag, mae’r ffigur terfynol yn destun cap, a hynny er mwyn sicrhau nad yw’r Cyflog Byw yn cynyddu’n fwy nag enillion cyfartalog yn y DU. Er bod academyddion o’r farn bod angen i bobl ennill £9.31 yr awr, golyga hyn fod Cyflog Byw 2015 wedi’i gapio ar £8.25.

Mae Cyflog Byw cenedlaethol y Canghellor yn rhywbeth hollol wahanol, ac nid yw’n gysylltiedig â’r safonau byw isaf. Yn lle hynny, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi cyfarwyddyd i’r Comisiwn Cyflogau Isel (y corff annibynnol sy’n cynghori’r Llywodraeth am yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol) y dylai’r isafswm cyflog ar gyfer pobl dros 25 oed gyrraedd 60 y cant o enillion canolrifol y DU erbyn 2020 (amcangyfrifir y bydd hyn yn tua £9 yr awr). Golyga hyn y bydd lefel yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn adlewyrchu’r farchnad gyflogaeth, yn hytrach nag anghenion pobl.

Beth yw’r Cyflog Byw?

Mae’r Cyflog Byw yn feincnod gwirfoddol y mae cyflogwyr yn dewis ei fabwysiadu. Mae’n cael ei osod gan academyddion. Y bwriad yw adlewyrchu faint o arian sydd ei angen ar berson i fyw bywyd o ansawdd da. Ar hyn o bryd, Cyflog Byw y DU yw £8.25 yr awr.

Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yw’r isafswm cyflog, fesul awr, y mae gan bron bob gweithiwr hawl iddo yn ôl y gyfraith. Mae cyfradd yr isafswm cyflog yn dibynnu ar oedran y gweithiwr, ac ar a ydynt yn brentis ai peidio. Mae’r Isafswm Cyflog presennol ar gyfer pobl sy’n 21 oed neu’n hŷn yn £6.70 yr awr.

Cyflwynwyd y Cyflog Byw cenedlaethol gan y Canghellor yng nghyllideb 2015. Mae’n bremiwm isafswm cyflog gorfodol i bob aelod o staff dros 25 oed. Caiff y drefn hon ei chyflwyno ym mis Ebrill 2016. Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi cyfarwyddyd i’r Comisiwn Cyflogau Isel y dylai’r isafswm cyflog ar gyfer pobl dros 25 oed gyrraedd 60 y cant o enillion canolrifol y DU erbyn 2020 (amcangyfrifir y bydd hyn yn tua £9 yr awr). O fis Ebrill 2016 ymlaen, bydd y cyflog byw cenedlaethol yn £7.20 yr awr i weithwyr sy’n 25 oed neu’n hŷn.

Beth yw’r sefyllfa yng Nghymru?

Yn ôl ffigurau KPMG, rhwng 2014 a 2015, roedd cynnydd o 26,000 yn nifer y swyddi yng Nghymru sy’n talu llai na’r Cyflog Byw. Gyda chyfran o 35 y cant, Gwynedd yw’r awdurdod lleol sydd â’r gyfran uchaf o swyddi sy’n talu llai na’r Cyflog Byw. Mae’r ffigur hwn yn gynnydd o 6 phwynt canran ers y llynedd. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn cynhyrchu ystadegau Cyflog Byw. Er bod y ffigurau diweddaraf sydd ar gael ond yn cynnwys data hyd at 2014, mae’r dudalen hon ar wefan y Swyddfa yn cynnwys ffeithluniau defnyddiol a dadansoddiad pellach ynghylch y swyddi sy’n talu llai na’r Cyflog Byw.

English-Table-RW

Ffynhonnell: KPMG, data o Adroddiad Ymchwil ar y Cyflog Byw, gan ddefnyddio amcangyfrifon gan Markit Economics Limited, Tachwedd 2015

Mae’r cynnydd yng nghyfran y swyddi sy’n talu llai na’r Cyflog Byw yng Nghymru wedi digwydd ochr yn ochr â chynnydd mewn tlodi mewn gwaith. Daeth ymchwil a wnaed yn ddiweddar gan Sefydliad Joseph Rowntree i’r casgliad bod tlodi ymhlith teuluoedd yng Nghymru sy’n gweithio wedi codi dros y ddegawd ddiwethaf, ac wedi disgyn ymhlith teuluoedd di-waith. Yn yr wythnosau nesaf, bydd cyfres o flogiau gan y Gwasanaeth Ymchwil dadansoddi datblygiadau diweddar eraill sy’n gysylltiedig â thlodi mewn gwaith, fel y newidiadau arfaethedig i gredydau treth a’r Cyflog Byw Cenedlaethol.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg