Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): Tatŵio, addasu’r corff a rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff

https://assemblyinbrief.wordpress.com/2015/10/13/public-health-wales-bill-tattooing-body-modification-and-intimate-piercing/13 Hydref 2015

Erthygl gan Amy Clifton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae llawer o’r sylw ynghylch Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) wedi bod ar e-sigaréts. Fodd bynnag, mae rhan ddiddorol arall o’r Bil yn ymwneud â thriniaethau arbennig a rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff (Rhannau 3 a 4 o’r Bil). Mae Cyfnod 1 y broses graffu gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn mynd rhagddo’n dda, ac mae rhai Aelodau yn dweud ei fod wedi bod yn agoriad llygad i rai o’r arferion newydd mwy eithafol o ran addasu’r corf.

Llun o Flickr gan Eddy Van 3000. Trwydded Creative Commons.

Llun o Flickr gan Eddy Van 3000. Trwydded Creative Commons.

Triniaethau arbennig

Bydd y Bil fel y cafodd ei ddrafftio yn creu cynllun trwyddedu gorfodol i ymarferwyr a busnesau sy’n rhoi triniaethau arbennig yng Nghymru. Y triniaethau arbennig sydd ynddo ar hyn o bryd yw aciwbigo, electrolysis, tyllu’r corff a thatŵio, ond byddai’r Bil hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio’r rhestr hon drwy is-ddeddfwriaeth.

Yn eu tystiolaeth i’r Pwyllgor, nododd llawer o randdeiliaid fod diffyg sylweddol ar hyn o bryd o ran rheoli ansawdd yn y diwydiannau tatŵio a thyllu. Clywodd y Pwyllgor adroddiadau brawychus fod llawer o driniaethau’n cael eu rhoi gan bobl sydd ag ychydig, os o gwbl, o wybodaeth am anatomeg, rheoli heintiau neu brosesau iachau.

Hefyd, tynnodd rhanddeiliaid sylw at driniaethau ychwanegol a ddylai fod yn rhan o’r Bil yn eu barn nhw. Mae’r rhain yn cynnwys addasu’r corff (creithio, mewnblaniadau croen, llosgnodi a hollti’r tafod), pigiad o hylif i mewn i’r corff (botox neu lenwyr croen), a thriniaethau laser (cael gwared ar datŵ neu gael gwared ar flew).

Gwnaeth tîm Allgymorth y Cynulliad fideo byr am driniaethau arbennig drwy gyfweld ag ymarferwyr ledled Cymru, sydd ar gael i chi ei wylio ar YouTube.

Mae artistiaid tatŵ yn y fideo yn mynegi pryder yn arbennig am frandio, creithio, addasu eithafol o’r corff (fel hollti’r tafod a hollti’r pidyn) a mewnblaniadau croen. Maent yn egluro bod creithio (lle caiff rhan o’r croen ei dynnu i adael craith) yn aml yn digwydd mewn ffordd beryglus:

Mae pobl yn gwneud hyn gyda ffleimiau, mae pobl yn ei wneud gyda pheiriannau tatŵ heb unrhyw inc, ac yn torri creithiau.

Mae’r tatwyddion hefyd yn dweud bod brandio yn cael ei wneud gyda lampau llosgi, bachau hongian dillad a heyrn sodro sydd wedi’u haddasu, ac yn sôn am bryderon ynghylch mewnblaniadau croen, fel gosod cyrn a sêr o dan y croen:

Dyw gosod gwrthrychau yn eich corff ddim yn beth da heb ryw fath o bwysau deddfwriaethol tu ôl iddo i ddweud, ‘Dyw hynny ddim yn ddiogel’, neu ‘A yw’r deunydd yn ddiogel?’ neu ‘Oes rhywun wedi’i archwilio?’; ‘A yw’n gwbl lân? Ydych chi wedi’i awtoclafio cyn i chi ei roi mewn yna? O ble mae’n dod? Ydy hwn wedi dod allan o beiriant pêl pum ceiniog rownd y gornel?’

Triniaeth arall a nodwyd fel pryder posibl yw ‘cwpanu gwlyb’ (a elwir hefyd yn ‘Hijama’). Triniaeth therapiwtig yw hon sy’n cyfuno’r defnydd o gwpanau sugno a gollwng gwaed a reolir (caiff y croen ei dorri â fflaim), sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd, yn enwedig mewn rhai cymunedau Asiaidd. Dywedodd Dr Ncube (Epidemiolegydd ymgynghorol a Phennaeth Feirysau a Gludir yn y Gwaed yn Public Health England) wrth y Pwyllgor fod angen ymchwilio i’r risg o haint, a bod gwaith yn mynd rhagddo ar hyn. Argymhellodd y dylid adolygu’r angen posibl am reoleiddio ‘cwpanu gwlyb’ pan fydd y dystiolaeth ar gael.

Rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff

Mae’r Bil yn cynnig gosod trothwy oedran o 16 oed ar gyfer rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff. Mae’n diffinio’r rhannau personol o’r corff fel yr anws, y fron, y folen, rhych y pen ôl, y pidyn, y perinëwm, y mons pubis, y ceillgwd a’r fwlfa.

Er bod cefnogaeth i’r egwyddor o osod trothwy o’r fath, mae llawer o randdeiliaid yn credu y byddai 18 oed yn drothwy mwy priodol yn achos mannau personol. Er enghraifft, mae Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH) yn credu y byddai 18 oed yn drothwy mwy priodol, gan fod hyn yn cyd-fynd â’r oedran isaf ar gyfer tatŵio, ac yn adlewyrchu’r aeddfedrwydd sydd ei angen i wneud penderfyniadau o’r fath. Roedd rhanddeiliaid hefyd yn rhesymu bod unigolyn 16 oed yn dal i dyfu ac felly bod mwy o risg o niwed i’r croen. Nodwyd hefyd fod rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff yn gofyn am safon uwch o ôl-ofal na thatŵs, gan ei fod o bosibl yn fwy agored i haint.

Mae Dr Ncube yn cefnogi trothwy oedran uwch, gan nodi bod goblygiadau hirdymor yn sgil tyllu’r organau cenhedlu. Rhoddodd enghraifft o astudiaeth achos o dad â thwll mewn organ cenhedlu, a oedd yn chwarae gyda’i ferch. Cafodd ei gicio’n ddamweiniol gan ei ferch.

Arweiniodd y trawma a achoswyd gan y tyllu at fadredd (gangrene) yn ei bidyn. Cyflwr Fournier yw’r enw ar hyn. Oherwydd hynny, cafodd greithiau sylweddol. Felly, mae risgiau sylweddol ynghlwm â thyllu organau cenhedlu, sy’n golygu bod goblygiadau hirdymor tyllu yn bwysig, yn ogystal â’r tyllu ei hun.

Cafwyd neges gref hefyd gan randdeiliaid, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, y dylid cynnwys tyllu’r tafod yn y Bil, gyda thystion yn nodi risg uchel o gymhlethdodau, niwed a haint.

Mae Pwyllgor Deintyddol Cymru yn nodi tystiolaeth dros y farn hon:

Mae’r data yn amrywio, ond mewn 2 astudiaeth yn y DU (gan gynnwys un yng Nghaerdydd), roedd dros 90 y cant o’r deintyddion a holwyd wedi gweld cleifion gyda thyllau tafod, ac roedd tua hanner ohonynt wedi trin cleifion oherwydd cymhlethdodau yn sgil tyllu’r tafod. Roedd tua hanner y cleifion wedi cael cyngor ynghylch risgiau tyllu, ond bach iawn oedd y cyngor hwn ac yn ymdrin â phoen a chwyddo fel arfer.

Gall cymhlethdodau yn sgil tyllu’r tafod godi ar unwaith, ac yna ar ôl iachau. Mae adroddiadau’n dangos yn gyson y bydd tua 90 y cant o’r bobl sy’n cael eu tyllu yn dioddef cymhlethdodau ar unwaith, gan gynnwys poen, chwyddo, gwaedu, niwed i’r nerfau a haint. Ceir nifer fechan o adroddiadau am haint difrifol yn lledaenu, yn amharu ar y llwybr anadlu, ac yn peryglu bywyd.

Gallwch ddarllen ein cofnod blog blaenorol ar y rhannau hyn o’r Bil i gael rhagor o wybodaeth.

Bydd y Pwyllgor yn holi’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 21 Hydref ynghylch y dystiolaeth y mae wedi’i chlywed ar y Bil hyd yn hyn. Yna bydd yn gweithio ar argymhellion ar gyfer ei adroddiad Cyfnod 1 a gyhoeddir erbyn 27 Tachwedd.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg