Cymru ac Agenda Llywodraeth y DU ar gyfer Diwygio’r UE

12 Hydref 2015

Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Delwedd o faneri Ewropeaidd

Llun: Flikr gan Xavier Häpe. Dan drwydded Creative Commons

Mae disgwyl i’r DU gynnal refferendwm ar ei haelodaeth o’r UE erbyn diwedd 2017: bydd ymdrechion parhaus Llywodraeth y DU i ddiwygio’r ffordd y mae’r UE yn gweithredu a llywio ei gyfeiriad at y dyfodol yn dylanwadu ar y bleidlais hon.

Mae Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i agenda Llywodraeth y DU ar gyfer diwygio’r UE, gan ystyried sut gall Cymru ddylanwadu ar y broses hon, a’r effaith debygol ar Gymru. Bydd y gwaith hwn yn cychwyn ddydd Llun 12 Hydref drwy gyfres o gyfarfodydd ym Mrwsel gyda swyddogion o sefydliadau Ewropeaidd, Aelodau o Senedd Ewrop a’r gweinyddiaethau datganoledig.

Pa ddiwygiadau y mae Llywodraeth y DU yn eu cynnig?

Cafodd cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer diwygio’r UE eu mynegi’n fanwl yn fwyaf diweddar gan y Gweinidog dros Ewrop (David Lidlington AS) wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Craffu Ewropeaidd Tŷ’r Cyffredin ar 16 Medi 2015. Yn fras, y cynigion hyn yw:

  • gwella cystadleurwydd, deinamigrwydd economaidd, creu swyddi a chreu cyfoeth yn yr UE, gan gynnwys:
    • Dyfnhau’r Farchnad Sengl, gan ganolbwyntio’n arbennig ar farchnad sengl ar gyfer gwasanaethau,
    • Masnach, yn arbennig cytuno ar TTIP (cytundeb masnach yr UE/UDA),
    • Rheoleiddio sy’n fwy craff, yn fwy effeithiol ac yn llai o faich (gan gyfeirio’n benodol at fusnesau bach).
  • Tegwch rhwng Aelod-wladwriaethau Ardal yr Ewro a thu allan i Ardal yr Ewro, gan gynnwys:
    • Sicrhau uniondeb marchnad sengl ar lefel EU28,
    • Sicrhau bod Sefydliadau’r UE yn rhoi ystyriaeth lawn i’r holl Aelod-wladwriaethau, nid dim ond y rhai yn Ardal yr Ewro,
    • Sicrhau uniondeb wrth wneud penderfyniadau ar draws pob maes polisi nas cwmpesir gan arian sengl,
    • Rhoi’r dewis i’r DU optio allan o ‘undeb agosach fyth’, gan gydnabod y gallai eraill fod eisiau mwy o integreiddio gwleidyddol.
  • Sofraniaeth, gan gynnwys:
    • Cryfhau pwerau i seneddau cenedlaethol, gan adeiladu ar y system rhybudd cynnar a gyflwynwyd gan Gytuniad Lisbon,
    • Bod y Cyngor yn fwy pendant ynghylch ei rôl ei hun o dan y cytuniadau,
    • Diwygio symudiad rhydd a’r hawl i gael lles, gan gynnwys mynd i’r afael â’r mater o ‘dwristiaeth lles’.

Yn yr un sesiwn, gwrthododd y Gweinidog dros Ewrop ddweud beth yw’r “llinellau coch” yn y trafodaethau i’r DU, gan ddatgan:

I cannot give a running commentary on the detail of negotiation. The people who would be most delighted if I were to spell out all the detail of negotiation would be the other countries and the European institutions with whom we are negotiating.

Mae cefndir pellach i amcanion Llywodraeth y DU yn y trafodaethau ar gael yn:

  • Araith Bloomberg David Cameron ar 23 Ionawr 2013. Pum egwyddor y Prif Weinidog ar gyfer diwygio’r UE oedd: cystadleurwydd, hyblygrwydd, ailwladoli pwerau i Aelod-wladwriaethau, atebolrwydd democrataidd a thegwch.
  • Lluniodd llywodraeth glymblaid y DU Review of the Balance of Competences yn hydref 2014. Disgrifiodd y llywodraeth hyn fel “an audit of what the EU does and how it affects the UK”. Cafodd ei gyhoeddi mewn 32 o gyfrolau ac roedd yn cynnwys tystiolaeth gan arbenigwyr, Aelod-wladwriaethau eraill yr UE a sefydliadau’r UE.

Beth yw sefyllfa bresennol y trafodaethau?

Yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol, cynhaliodd y Prif Weinidog a’i Weinidogion drafodaethau dwyochrog gyda phob un o’r 27 o Aelod-wladwriaethau eraill, yn ogystal â swyddogion yn sefydliadau’r UE.

Yng nghyfarfod y Cyngor Ewropeaidd ar 25-26 Mehefin, cyflwynodd David Cameron ei gynlluniau ar gyfer refferendwm, a chytunodd y Cyngor i ddychwelyd at y mater hwn ym mis Rhagfyr.

Mae’r Cyngor Ewropeaidd i fod i gwrdd nesaf ar 15-16 Hydref, pan fydd Donald Tusk (Llywydd y Cyngor Ewropeaidd) yn trafod y dadansoddiad technegol a wnaed yn dilyn cyflwyniad Cameron am ei gynlluniau ar gyfer refferendwm.

Pa ran y mae Cymru yn ei chwarae yn y trafodaethau?

Yn eu hanfod, mater i Lywodraeth y DU fel llywodraeth yr Aelod-wladwriaeth yw trafodaethau diwygio’r UE. Fodd bynnag, mae Cydbwyllgor Gweinidogion (Ewrop) yn cyfarfod bob chwarter (cyn cyfarfodydd y Cyngor Ewropeaidd) ac yn cynnig fforwm i Weinidogion Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i drafod busnes yr UE. Hefyd, mae Gweinidog Tramor y DU wedi cynnig cyfarfodydd preifat gyda’r Prif Weinidogion i drafod trafodaethau diwygio’r UE.

Ar hyn o bryd mae Senedd yr Alban yn cynnal ymchwiliad i ddiwygio’r UE a’r refferendwm, a goblygiadau’r rhain i’r Alban. Fel rhan o’r ymchwiliad hwn, gwahoddodd y Gweinidog dros Ewrop o Lywodraeth y DU i gyflwyno tystiolaeth: gwrthododd y gwahoddiad ddwywaith, gan nodi bod “digon o gyfleoedd eraill i gynrychiolwyr y Gweinyddiaethau Datganoledig gyfrannu at y mater hwn”.

Pa effaith y byddai’r diwygiadau hyn yn ei chael ar Gymru?

Mae’r diffyg manylion ar hyn o bryd yn ei gwneud yn anodd gwneud dadansoddiad technegol o oblygiadau agenda’r DU ar gyfer diwygio i gymwyseddau’r Cynulliad. Mae llawer o’r meysydd hyn – e.e. yr hawl i gael lles a chytundebau masnach – yn amlwg y tu hwnt i gymhwysedd y Cynulliad. Fodd bynnag, mae’r Cynulliad yn dal i gymryd diddordeb yn y meysydd hyn a’u heffaith ar Gymru. Er enghraifft, trafodwyd TTIP yn y Cyfarfod Llawn a Phwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad; er nad oes gan y Cynulliad unrhyw gymhwysedd ynghylch cytundebau masnach, mae’r Aelodau yn pryderu am yr effaith sylweddol y gallai TTIP ei chael ar fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Un mater o ddiddordeb arbennig i’r Cynulliad yw’r drafodaeth ynghylch cryfhau pwerau seneddau cenedlaethol, a beth yw rôl seneddau is-genedlaethol fel y Cynulliad yn hyn oll. Ymchwiliodd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad i’r mater hwn yn ystod ei ymchwiliad i rôl Cymru ym mhroses gwneud penderfyniadau’r UE yn 2014.

Wrth gwrs, gallai canlyniad yr agenda ar gyfer diwygio ddylanwadu ar refferendwm yr UE sydd ar y gweill. Mae Bil Refferendwm yr UE gan Lywodraeth y DU yn mynd drwy Dŷ’r Arglwyddi ar hyn o bryd, lle bydd yn cael ail ddarlleniad ar 13 Hydref. Y disgwyliad cyffredinol yw y bydd y Bil yn cael ei basio mewn pryd i dderbyn Cydsyniad Brenhinol ym mis Rhagfyr neu (yn fwy tebygol) ym mis Ionawr 2016. Mae llyfrgell Tŷ’r Cyffredin wedi llunio papur ymchwil yn ystyried effaith bosibl gadael yr UE, gan gynnwys adran sy’n edrych yn benodol ar Gymru a luniwyd gan wasanaeth ymchwil y Cynulliad.

Ddydd Mercher 14 Hydref, bydd Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, yn annerch digwyddiad lansio Cymru ar gyfer y fenter y DU mewn Ewrop sy’n Newid, a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y digwyddiad cyntaf mewn cyfres ohonynt yn gyfle i bartïon â diddordeb drafod lle Cymru yn yr UE yng nghyd-destun rhaglen ddiwygio’r DU a’r refferendwm sydd ar y gweill.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg