Pleidleisiau Lloegr ar gyfer cyfreithiau Lloegr: Datblygiadau yn Senedd y DU

7 Hydref 2015

Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

This is a picture of the Houses of Parliament Division Bell

Llun: o Wikimedia Commons gan Richard Pope. Dan drwydded Creative Commons.

Cyn toriad Senedd y DU, gwnaeth y Gwir Anrhydeddus Chris Grayling AS, Arweinydd y Tŷ, ddatganiad yn Nhŷ’r Cyffredin am fwriad Llywodraeth y DU i gyflwyno “pleidleisiau Lloegr ar gyfer cyfreithiau Lloegr” [“EVEL”]. Roedd y Gwir. Anrhydeddus William Hague AS  wedi gwneud datganiad yn y Senedd flaenorol yn amlinellu sut roedd Llywodraeth y DU yn bwriadu bwrw ymlaen â’r mater yn dilyn cynigion Comisiwn Mackay.

Y cynigion

Cyhoeddodd Arweinydd y Tŷ Reolau Sefydlog drafft  a phapur polisi. Bydd y broses newydd yn gymwys i filiau’r Llywodraeth a gyflwynir yn y sesiwn seneddol hon ac a gaiff Ail Ddarlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin ar ôl y cytuno ar y rheolau newydd. Yna, bydd yn gymwys i bob rhan o filiau’r Llywodraeth y bydd y Llefarydd yn ardystio’u bod yn cynnwys darpariaethau’n ymwneud â Lloegr yn unig, neu â Chymru a Lloegr yn unig. Ni fydd yn gymwys i filiau arferol sy’n gweithredu penderfyniadau’r Tŷynghylch gwariant sydd wedi’u cynnwys yn yr Amcangyfrifon.  Bydd hefyd yn gymwys i is-ddeddfwriaeth.

  • Pan gaiff bil ei gyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin, bydd y Llefarydd yn ardystio a ddylai’r bil, neu rannau ohono, fod yn ddarostyngedig i’r broses newydd. Wrth wneud y penderfyniad hwn bydd y Llefarydd yn penderfynu a yw’r ddeddfwriaeth yn ymwneud â Lloegr yn unig, neu â Chymru a Lloegr yn unig, ac a yw’n ymwneud â materion sydd wedi’u datganoli i Gymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
  • Ar ôl i’r Llefarydd ardystio bil, bydd yn symud ymlaen i’r Ail Ddarlleniad a’r cyfnod pwyllgor yn unol â’r drefn arferol.
  • Os bydd y Llefarydd yn ardystio bod bil yn gymwys i Loegr yn unig, dim ond Aelodau Seneddol Lloegr fydd yn ei drafod yn y cyfnod pwyllgor. Bydd aelodaeth y pwyllgor hwn yn cyd-fynd â nifer yr Aelodau Seneddol sydd gan y pleidiau yn Lloegr.
  • Yna, bydd y bil yn symud ymlaen i’r Cyfnod Adrodd, yn unol â’r drefn arferol.
  • Os bydd bil yn cynnwys darpariaethau’n ymwneud â Lloegr neu â Chymru a Lloegr, bydd yn rhaid dilyn proses i gael cydsyniad Aelodau Seneddol o Loegr, neu o Gymru a Lloegr. Bydd Uchel Bwyllgor deddfwriaethol yn ystyried cynnig cydsyniad ar gyfer unrhyw gymalau y bydd y Llefarydd yn ardystio’u bod yn gymwys i Loegr yn unig neu i Gymru a Lloegr yn unig. Mae hwn yn gyfnod newydd a fydd yn caniatáu i holl Aelodau Lloegr, neu Cymru a Lloegr, naill ai gydsynio â’r cymalau hynny neu i roi feto arnynt. Yn ystod y cyfnod hwn, ni ellir cynnig diwygiadau i destun y bil ond gellir rhoi feto ar gymalau penodol drwy gynnig diwygiadau i’r cynnig cydsyniad. Os yw bil yn gymwys i Loegr yn unig, neu i Gymru a Lloegr yn unig, mae’r cyfnod hwn yn caniatáu i’r Aelodau Seneddol hynny gydsynio â’r bil cyfan neu i roi feto arno.
  • Os bydd yr Uchel Bwyllgor deddfwriaethol yn rhoi feto ar gymalau’r bil, bydd cyfnod ailystyried i roi cyfle i’r Aelodau gynnig diwygiadau eraill, a chyfaddawdu. Gall y Tŷ cyfan gymryd rhan yn y cyfnod hwn sydd, i bob pwrpas, yn ail gyfnod adrodd ar gyfer rhannau cynhennus o’r bil. Yna, bydd ail Uchel Bwyllgor deddfwriaethol yn cyfarfod a gofynnir i holl Aelodau Seneddol Lloegr neu Aelodau Cymru a Lleogr gydsynio â’r diwygiadau a gynigiwyd gan y Tŷ cyfan. Os na allant gytuno, bydd y rhannau cynhennus yn methu.
  • Yn dilyn y cyfnod adrodd ac unrhyw gynigion cydsyniad, bydd y bil yn symud ymlaen i’r Trydydd Darlleniad, pan gaiff yr holl Aelodau Seneddol gymryd rhan. Yna bydd yn symud i Dŷ’r Arglwyddi. Os bydd angen unrhyw ddiwygiadau canlyniadol i weddill y bil ar ôl i rannau cynhennus o’r bil fethu, bydd cyfnod ychwanegol cyn y trydydd darlleniad i ganiatáu hynny.

Nid yw’r broses ddeddfwriaethol yn Nhŷ’r Arglwyddi wedi newid.

Y broses graffu yn San Steffan

Mae nifer o Bwyllgorau yn San Steffan wrthi’n cynnal ymchwiliadau ynghylch cynigion EVEL. Dechreuodd adolygiad cychwynnol Pwyllgor Gweithdrefnau  Tŷ’r Cyffredin o gynigion Llywodraeth y DU ym mis Gorffennaf. Lansiodd Pwyllgor Dethol Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol  ymchwiliad hefyd ym mis Gorffennaf ac mae’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Albanaidd  wedi cynnal dwy sesiwn dystiolaeth.

Tystiolaeth y Llywydd

Ysgrifennodd Cadeirydd Pwyllgor Gweithdrefnau Tŷ’r Cyffredin at Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’r gweinidogion cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn eu gwahodd i gyflwyno tystiolaeth am ardystio deddfwriaeth o fewn cymhwysedd datganoledig. Yn ei hymateb, cyflwynodd y Llywydd dystiolaeth fanwl <http://www.parliament.uk/business/committees/committees-a-z/commons-select/procedure-committee/news-parliament-2015/proposed-english-votes-for-english-laws/&gt;.

Yn y Cynulliad, pan gyflwynir bil, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Llywydd ddatgan a fyddai’r bil, yn ei barn hi, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad ai peidio. Mae Rhan 1 o’r dystiolaeth yn nodi manylion ffeithiol y weithdrefn sy’n ymwneud â hyn, gan gynnwys:

  • Dyletswyddau’r Llywydd o ran pennu cymhwysedd deddfwriaethol Biliau’r Cynulliad;
  • Disgrifiad manwl o’r weithdrefn a ddilynwyd, y profion deddfwriaethol a ddefnyddiwyd, maint a chymhlethdod y dasg a’r adnoddau / arbenigedd angenrheidiol;
  • Y posibilrwydd y gallai anghydfod neu anghytundeb godi mewn perthynas â phenderfynu ar gymhwysedd deddfwriaethol biliau arfaethedig, a hefyd mewn perthynas ag ystyried Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Cynulliad.

Mae Rhan 2 o’r dystiolaeth yn amlygu rhai pryderon ac ymholiadau a nodwyd mewn perthynas â’r posibilrwydd y gallai EVEL arwain at ganlyniadau anfwriadol – yn benodol,  rôl y Llefarydd yn y broses o benderfynu ar gymhwysedd deddfwriaethol.

Mae’r dystiolaeth yn amlygu pryder penodol ynghylch y posibilrwydd y gallai gwrthdaro canfyddedig godi rhwng y Llefarydd a’r Llywydd – ac yn wir y Cynulliad – pe bai anghytuno  ynghylch a yw Bil, cymal, atodlen neu offeryn statudol o fewn cymhwysedd deddfwriaethol. Gallai gwrthdaro posibl godi hefyd rhwng barn y Llefarydd a dyfarniad, neu ddyfarniadau, y Goruchaf Lys.

Mae’r dystiolaeth yn nodi bod mai’r agwedd sy’n peri’r pryder mwyaf, o bosibl, yw’r modd y mae’r cynigion yn cynnwys y Llefarydd mewn dadleuon ynghylch yr hyn sydd wedi’i ddatganoli yn y DU. Mae’r goblygiadau posibl yn bellgyrhaeddol a gall ychwanegu at yr anghysondebau sy’n bod eisoes, sef pwynt a gododd yr Athro Thomas Glyn Watkin yn ei dystiolaeth i Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad ar 22 Mehefin.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg