E-sigaréts – cydbwyso’r risgiau a’r manteision i iechyd y cyhoedd yng Nghymru

2 Medi 2015

Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun gan Mike Mozart drwy flickr, wedi’i drwyddedu o dan Creative Commons.

Llun gan Mike Mozart drwy flickr, wedi’i drwyddedu o dan Creative Commons.

Bydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad yn parhau i graffu ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn nhymor yr hydref. Y cynigion i gyfyngu ar y defnydd o e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus sy’n denu’r sylw a’r dadlau mwyaf.

Mae’r sesiynau tystiolaeth hyd yn hyn wedi cwmpasu pob elfen ar y Bil – cynigion sy’n ymwneud â darparu toiledau, gwasanaethau fferyllol, gweithdrefnau arbennig (tatŵio, tyllu ac ati), a chynnyrch tybaco a nicotin. Yn yr hydref, bydd y Pwyllgor yn gofyn am dystiolaeth bellach ar y cynigion ar e-sigaréts gan ystod eang o randdeiliaid.

Mae’r Pwyllgor eisoes wedi cymryd tystiolaeth gan arbenigwyr iechyd cyhoeddus ac amgylcheddol a chynrychiolwyr llywodraeth leol. Hyd yn hyn, cafwyd cefnogaeth gref i’r cynigion i ddod â’r defnydd o e-sigaréts yn unol â’r gwaharddiad ar ysmygu. Er yn cydnabod y gallai fod gan e-sigaréts rôl wrth leihau niwed mewn perthynas ag ysmygu, mae tystion wedi dadlau y byddai caniatáu defnydd eang o e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus yn peri risg y gellir tanseilio’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn o ran lleihau nifer y bobl sy’n dechrau ysmygu ac amlder ysmygu, ac yn peri her arwyddocaol i orfodi’r gwaharddiad ar ysmygu.

Mae’r Pwyllgor yn debygol o glywed barn gyferbyniol yn y sesiynau tystiolaeth sydd i ddod; hyd yn oed o fewn y gymuned feddygol, mae arbenigwyr yn anghytuno ar y mater.

Un pwynt allweddol y disgwylir y caiff ei drafod yw’r graddau y mae e-sigaréts mewn gwirionedd yn cynrychioli cynnydd posibl mewn iechyd cyhoeddus. Pe byddai e-sigaréts yn helpu nifer fawr o ysmygwyr i roi’r gorau i dybaco, gallai hyn gael effaith sylweddol ar leihau marwolaethau a chlefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu. Mae’n bwysig bod yn glir nad yw cynigion y Bil yn atal pobl rhag prynu neu ddefnyddio e-sigaréts, ond mae pryderon y gallai ysmygwyr gael eu hannog i beidio â newid i e-sigaréts os nad ydynt yn gallu eu defnyddio yn rhwydd.

Mewn sesiynau tystiolaeth cynharach, disgrifiodd tystion iechyd y cyhoedd sut nad yw e-sigaréts eu hunain yn ddiogel, neu heb risg. Mae hyn hefyd yn debygol o fod yn destun trafodaeth bellach, yn enwedig o ystyried cyhoeddi adolygiad annibynnol a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn ddiweddar, a ganfu fod e-sigaréts tua 95% yn llai niweidiol na thybaco. Fodd bynnag, mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod yn glir nad hyn sy’n bwysig mewn gwirionedd, ac mae’r sail ar gyfer dod â’r ddeddfwriaeth yw risgiau mewn perthynas â normaleiddio ymddygiad ysmygu, y posibilrwydd y bydd e-sigaréts yn gweithredu fel porth i ddefnyddio tybaco, a’r mater o orfodi.

Ni chafodd yr adolygiad annibynnol unrhyw dystiolaeth hyd yn hyn fod e-sigaréts yn gweithredu fel llwybr i ysmygu ar gyfer plant neu’r rhai nad ydynt yn ysmygu, nac ychwaith bod y defnydd o e-sigaréts yn arwain at normaleiddio ysmygu:

Since EC [electronic cigarettes] were introduced to the market, smoking prevalence among adults and youth has declined. Hence there is no evidence to date that EC are renormalising smoking, instead it’s possible that their presence has contributed to further declines in smoking, or denormalisation of smoking.

Fodd bynnag, cydnabyddir yn eang (yn cynnwys yn yr adroddiad uchod) bod e-sigaréts yn gynnyrch cymharol newydd ac mae angen ymchwil pellach. Dywedodd Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd wrth y Pwyllgor:

it’s a cliché to say it but absence of evidence is not evidence of absence. I think we need to wait and see if e-cigarettes normalise smoking.

Mae aros, yn ôl y Gweinidog, yn strategaeth rhy beryglus:

We won’t have definitive evidence for many years to come. What I don’t think we ought to be prepared to do as a committee or as a National Assembly is to take the risk that, in 10 years’ time, we will look back and say how much we wished we had acted then, before the harm had occurred.

Mater i’r Pwyllgor fydd ystyried, ar sail y dystiolaeth y mae’n ei derbyn, a yw ymagwedd ragofalus y Llywodraeth yn un cymesur.

Noder:

Fel rhan o’i gasglu tystiolaeth, mae’r Pwyllgor wedi gwahodd unigolion a sefydliadau i roi eu barn ar y cynigion drwy arolwg ac ymgynghoriad ysgrifenedig, sydd wedi bod yn rhedeg dros yr haf.

Bydd sesiynau tystiolaeth lafar yn parhau ym mis Medi a mis Hydref, a disgwylir i’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) ym mis Tachwedd 2015.