Adroddiad yr UE ar Gyflwr Natur: Mae cyfreithiau Ewropeaidd yn chwarae rhan bwysig wrth amddiffyn bioamrywiaeth, ond, mae dirywiad arwyddocaol o hyd.

02 Gorffennaf 2015

Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun o Ddyfrgi

Llun gan Peter Trimming gan Flickr. Trwyddedwyd o dan Creative Commons

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd newydd gyhoeddi Adroddiad ar Gyflwr Natur, y dywed sy’n rhoi’r ‘darlun mwyaf cynhwysfawr eto’ o statws cadwraeth rhywogaethau a chynefinoedd yn yr UE. Mae’n rhoi asesiad o’r Gyfarwyddeb ar Gynefinoedd a’r Gyfarwyddeb ar Adar  ar sail data y blynyddoedd 2007-2012. Mae’r adroddiad yn cyflwyno darlun cymysg o ran perfformiad, ac mae wedi ennyn ymatebion cryf gan gyrff amgylcheddol anllywodraethol.

Cefndir

Bob chwe blynedd, rhaid i Aelod-wladwriaethau adrodd ar statws cadwraeth mathau o rywogaethau a chynefinoedd a gaiff eu diogelu o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd a’r Gyfarwyddeb Adar. Mae’r adroddiad yn ymdrin â phob rhywogaeth o adar gwyllt (oddeutu 450 ohonynt), 231 math o gynefin a thros 1200 o rywogaethau eraill sydd o ddiddordeb i’r UE.

Caiff yr adroddiad ar Gyflwr Natur ei danategu gan adroddiad technegol Cyflwr Natur yn yr UE: Canlyniadau adrodd fel rhan o Gyfarwyddebau natur 2007-2012 gan yr Asiantaeth Amgylchedd Ewropeaidd (AEE), sy’n seiliedig ar asesiadau a gyflwynir gan Aelod-wladwriaethau. Adroddiad 2015 yw’r asesiad cyntaf i gynnwys y Cyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd, ac felly mae’r Comisiwn yn datgan mai hwn yw’r asesiad a’r ymarferiad casglu data natur mwyaf a gynhaliwyd erioed ledled yr Aelod-wladwriaethau.

 Y canfyddiadau allweddol

Adar

Siart Gylch -Statws y Boblogaeth Adar

Dengys yr adroddiad bod oddeutu thraean o rywogaethau adar (32 y cant) â statws anffafriol. Mae’n dangos bod llawer o rywogaethau o adar, e.e. adar ysglyfaethus a llawer o adar cigysol mawr, wedi dangos gwelliannau sylweddol mewn rhai ardaloedd, ond mae’r gwelliannau hynny wedi’u cyfyngu i lefel leol neu ranbarthol ar hyn o bryd, ac nid ydynt wedi cyrraedd cyfradd gwelliant ar lefel Ewropeaidd eto. Dengys astudiaethau achos bod:

  • Rhywogaethau tir amaethyddol a oedd unwaith yn gyffredin, fel yr Ehedydd, Alauda arvensis, a’r Rhostog Gynffonddu, Limosa limosa, bellach o dan fygythiad;
  • Mae’r Fôr-wennol Wridog, y Sterna dougallii, wedi cyrraedd statws poblogaeth sefydlog wedi i’r niferoedd ostwng yn sylweddol yn y 1970au a’r 1980au.

Rhywogaethau sy’n dod o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd

Siart Gylch - Statws cadwraeth rhywogaethau

Mae’r adroddiad yn dangos bod statws anffafriol i fwy na hanner (60 y cant) y rhywogaethau o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd. Dim ond 16 y cant o’r rhywogaethau pysgod a aseswyd sydd â statws cadwraeth ffafriol. Ystyrir mai ychydig yn fwy na chwarter y planhigion fasgwlaidd (29 y cant) ac amffibiaid (28 y cant), a 21y cant o famaliaid sydd â statws ffafriol. Dengys astudiaethau achos bod:

  • Y Dyfrgi, Lutra lutra, yn dangos arwyddion o welliant. Yn rhanbarth yr Iwerydd, mae adferiad cyson wedi digwydd dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, y mae’r adroddiad yn ei gysylltu â gostyngiad mewn rhai llygryddion ar ddŵr.
  • Mae sefyllfa’r glöyn byw Copr Mawr, Lyceana dispar, hefyd yn gwella ar draws y rhanbarth cyfandirol, ac mae’r adroddiad yn cysylltu’r gwelliant hwn â mesurau cadwraeth a dargedwyd.

Cynefinoedd o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd

Siart Gylch - Statws cadweaeth cynefinoedd

Dengys yr adroddiad bod oddeutu thri chwarter (77 y cant) o gynefinoedd o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd â statws anffafriol. Y prif fygythiadau a nodwyd i gynefinoedd oedd:

  • arferion amaethyddol gan gynnwys addasu arferion amaethu, gor-bori, gadael systemau bugeiliol, gwrteithio a phlaladdwyr;
  • “addasiadau i amodau naturiol” a achosir gan ddyn, y maent yn ymwneud yn bennaf â newidiadau hydrolegol.

Mae’r adroddiad yn datgan ei bod yn ymddangos bod y Rhwydwaith Natura 2000  yn fesur cadwraeth effeithiol, sydd hefyd o fudd i rywogaethau nad ydynt wedi’u targedu. Wrth edrych ar y cynefinoedd a’r rhywogaethau sydd â statws anffafriol, gellir canfod cydberthynas gadarnhaol rhwng y lefel o sylw a roddir i Natura 2000 a’r tueddiadau o ran statws cadwraeth.

Dywedodd Hans Bruyninckx, Cyfarwyddwr Gweithredol yr Asiantaeth Amgylchedd Ewropeaidd, wrth sôn am ganfyddiadau’r adroddiad:

The results are mixed but clear. When implemented well, conservation measures work and improve the status of habitats and species on the ground. Such improvements remain limited and patchy, and unfortunately Europe’s biodiversity is still being eroded overall and the pressures continue.

Goblygiadau ehangach

Diben yr adroddiadau ar Gyflwr Natur yw darparu mewnbwn i’r Adolygiad Canol Tymor o Strategaeth Bioamrywiaeth yr UE. Bydd y canfyddiadau hefyd yn cyfrannu at y Gwiriad Ffitrwydd  parhaus a gynhelir o dan y Gyfarwyddeb Adar a’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd.

Ymatebion rhanddeiliaid

Dywedodd Cyfeillion y Ddaear:

Rhaid i’r Comisiwn Ewropeaidd roi’r gorau i gynlluniau i wanhau ei gyfarwyddebau natur. Mae’r adroddiad yn cadarnhau bod cyfreithiau Ewropeaidd yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn ein cynefinoedd a’n bywyd gwyllt mwyaf gwerthfawr, a rhaid eu gorfodi ar draws yr UE.

Dywedodd Ariel Brunner, Pennaeth Polisi yn BirdLife Europe:

The new report shows that conservation efforts are having an impact but that the overall situation of EU biodiversity is still dire. If we do not deal urgently with some of the major drivers of biodiversity loss, agriculture in particular, we are going to miss the 2020 target, lose precious habitats and species and pay a high price as a society.

Mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi llyfryn sy’n rhoi dadansoddiad o ganfyddiadau’r adroddiad.

 

Cyflwr Natur yng Nghymru 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi llunio adroddiad yn ddiweddar sy’n nodi tystiolaeth gyfredol am gyflwr adnoddau naturiol yng Nghymru. Mae’n amlygu bod y rhan fwyaf o gynefinoedd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig yng Nghymru mewn cyflwr anffafriol (75 y cant) ac eithrio ogofâu (100 y cant mewn cyflwr ffafriol).

 

Cynlluniwyd yr adroddiad hwn i gychwyn y drafodaeth, a’r broses, o ran sut y gall Cyfoeth Naturiol Cymru wella’r sylfaen dystiolaeth i lywio’r gwaith o baratoi’r adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol, a fydd yn un o ddyletswyddau newydd Cyfoeth Naturiol Cymru o dan y Bil yr Amgylchedd (Cymru), sydd newydd gael ei osod.

 

View this post in English

Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg