Trafod Bil Refferendwm yr UE – Rhan 2

 01 Gorffennaf 2015

Erthygl gan Aled McKenzie, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun o San Steffan

Llun: Flikr gan Shane Global. Dan drwydded Creative Commons

Fel y trafodwyd mewn blog blaenorol, mae Bil refferendwm yr UE wedi cyrraedd y Cyfnod Pwyllgor yn Nhŷ’r Cyffredin. Yn dilyn y broses graffu ar 16 Mehefin, parhaodd y ddadl ar 18 Mehefin wrth i ragor o faterion gael eu trafod.

Dyddiad

Cyflwynodd Llywodraeth y DU welliant 55 rhag bod gwrthdaro gyda’r etholiadau eraill a drefnwyd ar 5 Mai 2016, a oedd yn cynnwys etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd hyn ei groesawu gan yr Wrthblaid. Fodd bynnag, mae rhai wedi mynegi pryderon fod Llywodraeth y DU wedi gwrthod diystyru cynnal y refferendwm ar yr un dyddiad â llawer o’r etholiadau lleol yn y DU, a gynhelir ym mis Mai 2017*. Yn ôl Kelvin Hopkins AS ni ddylai unrhyw etholiadau eraill gael eu cynnal ar y diwrnod hwnnw ac roedd am weld diwrnod penodol yn cael ei bennu ar gyfer y bleidlais honno, a dywedodd Pat McFadden AS bod y ffocws, mewn refferendwm, yn wahanol i etholiad.

Fel y nodwyd gan Mike Gapes AS Llafur, nid dim ond etholiadau lleol yn y DU a allai wrthdaro â dyddiad refferendwm yr UE. Bydd etholiadau Arlywydd Ffrainc ac etholiadau Ffederal yr Almaen yn cael eu cynnal yn 2017, a dywedodd Gapes ei fod yn ofni y bydd y Gweinidogion yn y gwledydd hyn â phethau eraill i’w gwneud “and diverted from considering matters to do with the possible negotiated terms, or the nature of the negotiation, if we had not yet set the date for our referendum”. Dywedodd hefyd y gallai fod problemau ym Mrwsel yn ogystal ag ym Mharis a Berlin os cynhelir y refferendwm ddiwedd 2017, oherwydd bydd Prydain yn gyfrifol am lywyddiaeth Cyngor yr Undeb Ewropeaidd (a elwir yn Gyngor y Gweinidogion) yn ystod chwe mis olaf y flwyddyn honno. Dywedodd:

We are debating the period of purdah. Just imagine what would happen if there were a meeting of the Council of Ministers in September 2017 and the referendum were to be held within 28 days of that meeting, in the October. What would Ministers be able to do or say during that period? Those Council of Ministers meetings have to be convened and chaired by the appropriate representative of the rotating six-month presidency, and there would have to be a British Minister present to represent the interests of the UK Government. What could those Ministers and their officials say and do during that period? There would be enormous complications if the Bill were to lead to a referendum being held in the last few months of 2017.

Etholfraint

Fel y soniwyd mewn blog blaenorol**, bydd dinasyddion y Gymanwlad sy’n byw yn y DU ac yn Gibraltar yn cael yr hawl i bleidleisio. Fodd bynnag, fel y nodwyd gan Stephen Phillips AS, pan ddaw’n fater o bleidleisio, nid yw’n glir pwy sydd yn ddinesydd y Gymanwlad a phwy sydd ddim. Cafodd Zimbabwe ei hatal dros dro o’r Gymanwlad, ac yna ymadawodd yn llwyr. Ond mae dinasyddion Zimbabwe wedi cadw’u hawliau pleidleisio pan ddaw’n fater o bleidleisio yn etholiadau’r DU. Mae dinasyddion y Gambia hefyd wedi cadw’u hawliau pleidleisio, er bod y wlad wedi gadael y Gymanwlad yn 2013.  Mae Llywodraeth y DU yn honni y byddant yn cael gwared ar yr hawliau hynny ar y “cyfle addas” nesaf.

Unwaith eto, codwyd y ffaith na chaiff dinasyddion yr UE bleidleisio (oni bai fod ganddynt ddinasyddiaeth o Iwerddon, Malta neu Cyprus). Dywedodd  Tom Brake, AS, y Democratiaid Rhyddfrydol, y byddai gan ddinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU rôl fawr iawn yn y refferendwm oherwydd ni fydd ganddyn nhw hawl awtomatig i fyw a gweithio yn y DU pe byddai’n dewis gadael yr UE. Dywedodd Pat McFadden AS na fyddai Llafur o blaid ymestyn yr etholfraint i wladolion yr UE, gan na chawson nhw’u cynnwys yn yr etholfraint ar gyfer refferenda a gynhaliwyd mewn gwledydd Ewropeaidd eraill.

Yn ystod dadl ar ostwng yr oedran pleidleisio cafwyd cefnogaeth drawsbleidiol i hynny. Safbwynt y Ceidwadwyr yw y dylai’r oedran pleidleisio aros yr un fath, er bod nifer o Geidwadwyr, fel Sarah Wollaston AS, yn dweud eu bod o blaid gostwng yr oedran pleidleisio. Yn yr un modd, mae rhai Aelodau Seneddol Llafur wedi gwyro oddi wrth safbwynt y blaid ar ostwng yr oedran pleidleisio. Credai Barry Sheerman AS y gallai gostwng yr oedran pleidleisio wneud pobl ifanc 16 ac 17 oed yn agored i gam-drin rhywiol.

Rheoliadau Ymddygiad a Gwariant

Gofynnodd Syr Edward Leigh AS sut y gallai’r arian ar gyfer pob ymgyrch fod yn anghyfartal oherwydd y symiau y caiff partïon unigol ei wario yn ystod yr ymgyrch. Honnodd y gallai’r ymgyrch ‘Ie’ fod â hyd at £17 miliwn tra byddai gan yr ymgyrch ‘Na’ ddim ond £8 miliwn. Mae hyn oherwydd y ffordd y caiff pleidiau gwleidyddol wario swm penodol ar gefnogi’r naill ochr neu’r llall o’r ymgyrch refferendwm, ac mae’r swm y cânt ei wario yn cael ei bennu gan nifer y bleidleisiau a gawsant yn yr etholiad cyffredinol diwethaf. Mae’n credu y gallai hyn effeithio ar y canlyniad ac y bydd pobl yn credu bod yr ymgyrch yn annheg yn achos yr ochr ‘Na’. Mae hefyd wedi codi pryderon y gallai hyn arwain at gynnydd yn y gefnogaeth i UKIP.

Soniodd John McDonnell AS am y posibilrwydd y gellid cyflwyno proses electronig o bleidleisio yn y refferendwm hwn, yn y gobaith y bydd yn moderneiddio’r system ac yn cynyddu’r nifer sy’n pleidleisio. Dywedodd y Gweinidog dros Ewrop nad oedd y syniad o bleidleisio electronig yn wrthun ganddo, ond dywedodd fod ganddo nifer o bryderon, ac un o’r rheini oedd y gallai’r system fod yn agored i dwyll. Hefyd, nid oedd yn argyhoeddedig y byddai’n arwain at gynnydd yn y nifer sy’n pleidleisio, fel yr honnwyd gan ambell un.

Ni fydd cam nesaf y ddadl tan yr hydref, er mwyn i Lywodraeth y DU ymgynghori â chydweithwyr a chyflwyno gwelliannau pellach ar rai o’r materion a godwyd.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg