Allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru yn cynyddu 10%

16 Mehefin 2015

Erthygl gan David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Fe wnaeth cyfanswm allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr yng Nghymru gynyddu 10% rhwng 2012 a 2013.  Mae’r erthygl hon yn edrych ar y rhesymau dros y cynnydd hwn, sut mae Cymru’n cymharu â gwledydd eraill y DU a sut y mae Bil yr Amgylchedd (Cymru) yn bwriadu mynd i’r afael ag allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr.

Cafodd rhestrau nwyon tŷ gwydr Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon rhwng 1990 a 2013  eu cyhoeddi ar 9 Mehefin 2015.

Beth achosodd y cynnydd o 10% yng Nghymru?

Yn ôl y rhestrau, mae’r cynnydd o 10% a welwyd yng Nghymru wedi digwydd o ganlyniad i ddau brif ffactor yn y sectorau diwydiannol ac ynni.   Mae’r adroddiad yn nodi:

The 2012 to 2013 increase of emissions is predominately driven by an increase in emissions from the iron and steel sector due to the restart of Tata Steel’s Port Talbot No.4 Blast Furnace in February, 2013, and a shift from natural gas to coal use in power stations.

Sut mae Cymru yn cymharu â gweddill y DU?

•Graff yn dangos tueddiadau yng nghyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr net yn ôl ffynhonnell yn erbyn targed 2020 Llywodraeth Cymru rhwng 1990 a 2013.  Yn gyffredinol, gwelir gostyngiad mewn allyriadau ym mhedair gwlad y DU, gyda Chymru a Gogledd Iwerddon yn uwch na'r targed a ragamcanwyd ar gyfer 2020.

Newid canrannol rhwng 2012 a 2013 fesul gwlad

Roedd y cynnydd o 10% a welwyd yng Nghymru yn sylweddol uwch na gwledydd eraill y DU.  Rhwng 2012 a 2013, fe wnaeth allyriadau nwyon tŷ gwydr ostwng 3.8% yn yr Alban a 3.7% yn Lloegr.  Fe wnaeth allyriadau yng Ngogledd Iwerddon gynyddu 0.1%.  Mae’r gostyngiadau a welir yn Lloegr a’r Alban wedi bod o ganlyniad i’r newid i ffurfiau adnewyddadwy o gynhyrchu yn y sector ynni.

•Siart far yn dangos Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr rhwng 2012 a 2013 ym mhedair gwlad y DU fel yr esbonnir yn y testun.

Tueddiadau yng nghyfanswm net yr allyriadau nwyon tŷ gwydr rhwng 1990 a 2013 yn erbyn targed Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020.

Mae Cymru wedi gweld gostyngiad o 12% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr rhwng y Flwyddyn Sylfaen (1990 neu 1995 yn dibynnu ar y allyriad) a 2013, sy’n llai na’r gostyngiadau a welir mewn rhannau eraill o’r DU dros y cyfnod hwn (Gostyngiad o 32% yn Lloegr, gostyngiad o 35% yn yr Alban a 16% yng Ngogledd Iwerddon).

Beth yw targedau’r DU a Chymru o ran lleihau allyriadau?

Mae’r diagram isod yn rhoi trosolwg o’r targedau y mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi’u gosod i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr hyd at 2050.

•	Mae'r diagram yn rhoi trosolwg o'r targedau y mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi'u gosod i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr hyd at 2050.

Er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru erbyn 2020, sef lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 40% islaw lefel 1990, bydd angen lleihau allyriadau yng Nghymru 28 pwynt canran ymhellach rhwng 2014 a 2020.

Sut fydd Bil yr Amgylchedd (Cymru) yn effeithio ar dargedau Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr?

Mae Bil yr Amgylchedd (Cymru) gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd, a dylai dderbyn Cydsyniad Brenhinol erbyn diwedd mis Mawrth 2016, cyn diwedd y Pedwerydd Cynulliad.  Yn adrannau 29-31 o’r Bil, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig rhoi dyletswyddau newydd ar Weinidogion Cymru i sicrhau bod allyriadau yn cael eu lleihau. Mae hefyd yn cyflwyno dull cyllidebu carbon newydd i fesur cynnydd tuag at leihau Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr a amlinellir isod:

  • Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod allyriadau net Cymru am y flwyddyn 2050 o leiaf 80% yn is na’r llinell sylfaen (1990 neu 1995);
  • Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu un neu fwy o flynyddoedd cyn 2050 yn flynyddoedd targed interim a gosod uchafswm ar gyfer yr allyriadau net ar gyfer pob blwyddyn targed interim fel canran yn is na’r llinell sylfaen. Nid yw’r targed interim wedi’i nodi ar wyneb y Bil; a
  • Ar gyfer pob cyfnod cyllidebol pum mlynedd rhwng 2016-20 a 2046-50, rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu cyfanswm ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru (A elwir yn gyllideb garbon). Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau na fydd allyriadau net Cymru yn uwch na’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod hwnnw.

Nid yw’n glir eto a fydd y cyllidebau carbon yn disodli’r targedau blynyddol presennol ac, os felly, sut fydd cynnydd o ran lleihau allyriadau yn cael eu ei adrodd yn y dyfodol.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg