A ddylai pobl ifanc 16 a 17 oed gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad?

12 Mehefin 2015

Erthygl gan Aled McKenzie, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r llun yn dangos plant a phobl ifanc yn codi cardiau Ie/Na

Ymgynghoriad pleidleisio@16?

Pe bai’r Cynulliad yn berson, ni fyddai’n gallu pleidleisio eto. Wrth i’r Cynulliad droi’n 16 oed eleni, bydd y genhedlaeth gyntaf na wyddant am fywyd hebddo’n troi’n oedolion yn fuan. Yn ddiweddar, mae’r Cynulliad wedi gorffen casglu gwybodaeth gan bobl ifanc ledled Cymru ar gyfer ei ymgynghoriad, Pleidleisio@16, a chaiff y canlyniadau eu lansio ar 15 Gorffennaf mewn cynhadledd ieuenctid yn y Senedd.

Mae’r ddadl ynghylch gostwng yr oedran pleidleisio i 16 a 17 yn lledaenu drwy’r DU. Cyhoeddwyd adroddiad gan Bwyllgor Diwygio Gwleidyddol a Chyfansoddiadol Tŷ’r Cyffredin yn ystod y senedd ddiwethaf a oedd yn archwilio’r posibilrwydd o ymestyn y bleidlais a nododd nifer o ddadleuon o blaid gwneud hynny. Ni ddaeth yr Adroddiad i unrhyw gasgliad pendant ond roedd yn argymell y dylid cynnal pleidlais rydd yn Nhŷ’r Cyffredin rywdro yn ystod 2015.

Difaterwch a diffyg ymgysylltiad?

Ymhlith yr ifanc, un nodwedd sy’n dod yn gynyddol amlwg yn y byd gwleidyddol yw diffyg ymgysylltiad â gwleidyddion a difaterwch yn gyffredinol. Yn ôl ffigurau Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru (pdf, 957KB), dim ond 51 y cant o bobl ifanc 16 a 17 oed sydd wedi cofrestru i bleidleisio (gellir ychwanegu pobl ifanc 16 a 17 oed at y gofrestr etholwyr cyn iddynt droi’n 18 oed). Mae pobl dros 65 oed bron ddwywaith yn fwy tebygol o gofrestru ac mae nifer y pleidleiswyr rhwng 18 a 24 oed wedi gostwng yn sylweddol o 76 y cant yn 1964 i 52 y cant yn 2010. Mae Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru yn credu y gellid gwrth-droi’r duedd hanesyddol hon i ryw raddau drwy ostwng yr oedran pleidleisio, a hybu gweithgareddau Cynulliad Ieuenctid Cenedlaethol Cymru (Word, 70.2KB)  a gwersi dinasyddiaeth mewn ysgolion.

Pleidleisio’n 16 oed mewn mannau eraill

Am y tro cyntaf erioed yn y DU, caniatawyd i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio yn y refferendwm ar annibyniaeth yr Alban y llynedd. O ganlyniad, cofrestrodd dros 100,000 ohonynt i bleidleisio. Nid dim ond yn yr Alban y cynyddodd y nifer a gofrestrodd i bleidleisio ar ôl ymestyn yr etholfraint; yn Ynys Manaw roedd y gyfradd cofrestru ymhlith pobl ifanc16 a 17 oed ‘ yn agos iawn at y nifer a bleidleisiodd yn yr etholaeth gyfan.’ 16 yw’r oedran pleidleisio yn Jersey a Guernsey hefyd.

Mewn erthygl a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y Journal of Elections, Public Opinion and Parties, honnir bod y penderfyniad i ostwng yr oedran pleidleisio yn Awstria i 16 a 17 wedi arwain at gynnydd yn y nifer sy’n pleidleisio’n gyffredinol ac ymddengys mai dyna ddigwyddodd yn yr Alban hefyd yn ystod yr Etholiad Cyffredinol. Roedd y ganran a bleidleisiodd yn yr Alban yn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf, 5 y cant yn uwch na’r cyfartaledd drwy’r y DU gyfan. Fodd bynnag, fel yn rhannau eraill o’r DU, roedd yn rhaid bod yn 18 oed o hyd i bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol diweddar.

Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd

Mae’n ymddangos na fydd yr oedran pleidleisio’n gostwng i 16 a 17 yn y refferendwm i benderfynu a ddylai’r DU aros yn rhan o’r UE. Mae papur briffio Tŷ’r Cyffredin ar y bil yn nodi:

‘16 and 17 year olds cannot vote in UK Parliamentary elections and are therefore not included in the franchise for the referendum. The voting age was previously reduced in Scotland specifically for the Scottish independence referendum but Scotland has been given the power to legislate to allow 16 and 17 year olds to vote in Scottish Parliament elections. There is a bill currently before the Scottish Parliament to make provision for reducing the voting age at these elections. Unless the voting age is reduced for UK Parliamentary elections, 16 and 17 year olds will not be able to vote in the referendum in any part of the UK.’

Er nad yw’r penderfyniad hwn un terfynol, nid yw’n ymddangos y bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn cael y cyfle i bleidleisio yn y refferendwm sydd ar y gweill. Dywedodd Katie Ghose o’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol fod y mater hwn yn destun anghyfiawnder i bobl ifanc 16 a 17 oed. Yn ystod dadl a gynhaliwyd ar y Bil ar 9 Mehefin, cyflwynodd yr SNP gynnig i geisio atal y Bil rhag cael ail ddarlleniad o ganlyniad i nifer fawr o ddiffygion canfyddedig, gan gynnwys gwrthod caniatáu i bobl 16 a 17 oed bleidleisio. Mewn neges drydar, dywedodd Alex Salmond, cyn-arweinydd yr SNP, fod y Bil wedi methu â chyrraedd y safon aur a gafwyd yn y refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban o ran cynhwysiant a chyfranogiad democrataidd. Ar yr un diwrnod, ymatebodd yr Ysgrifennydd Tramor i gwestiwn ar y pwnc:

‘Our position is that the appropriate franchise for a United Kingdom question—a question about the future of the whole country—is the Westminster franchise. I know there are people in this House who think we should review the scope of the Westminster franchise, and that is another debate. We are very clear that the franchise for this referendum should be the Westminster franchise, and that it would not be appropriate, as an exception, to include 16 and 17-year-olds.’

Pryd y gallai’r sefyllfa newid?

O’r pleidiau a gynrychiolir ar hyn o bryd yn y Cynulliad, mae’r blaid Lafur, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol o blaid gostwng yr oedran pleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad. Mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, hefyd wedi dweud ei fod o blaid gostwng yr oedran pleidleisio yn dilyn y refferendwm ar annibyniaeth yr Alban.

Yn 2012, trafododd y Cynulliad y posibilrwydd o ostwng yr oedran pleidleisio a chaniatáu i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio. Fodd bynnag, gan fod Whitehall yn parhau i reoli etholiadau Cymru, symbolaidd yn unig oedd y ddadl. Serch hynny, disgwylir y caiff rheolaeth dros etholiadau’r Cynulliad ei datganoli ym Mesur arfaethedig Cymru a gyhoeddwyd yn Araith y Frenhines. Fodd bynnag, nid yw hyn yn debygol o ddigwydd erbyn etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf. Y cynharaf y caiff ei gyflwyno, mae’n debyg, fydd yn ystod y Pumed Cynulliad. Erbyn etholiadau’r Cynulliad yn 2021, am y tro cyntaf erioed, bydd y pleidleiswyr ieuengaf yn iau na’r sefydliad y byddant yn pleidleisio drosto.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg