Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – triniaethau cosmetig a therapiwtig

11 Mehefin 2015

Erthygl gan Victoria Paris, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru

Mae’r blog hwn yn un o gyfres sy’n olrhain hynt y Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) a gyflwynwyd ddydd Llun 8 Mehefin. Cyhoeddir rhagor o erthyglau am gynigion y Bil gydol yr wythnos.

Llun o Flickr gan Reg Natarajan. Trwyddedwyd o dan Creative Commons.

Llun o Flickr gan Reg Natarajan. Trwyddedwyd o dan Creative Commons.

Mae nifer o driniaethau cosmetig a therapiwtig, fel tyllu’r corff a thatŵio, yn dod yn fwy a mwy poblogaidd.  Fodd bynnag, mae yna beryglon iechyd yn gysylltiedig â’r mathau hyn o driniaethau os na ddilynir rheolau glendid. 

Gall ymarferion amhriodol ac anhylan arwain at heintiau croen, lledaenu clefydau heintus, neu drosglwyddo afiechydon fel firysau a gludir yn y gwaed.  Er enghraifft, yn ddiweddar (Mai 2015) bu pryderon iechyd am barlwr tatŵ a thyllu’r corff yng Nghasnewydd, a chafodd channoedd o gwsmeriaid eu gwahodd i gael profion rhagofalus, ar ôl i bum cwsmer a oedd wedi cael triniaethau tyllu’r corff yn y parlwr ddal heintiau difrifol ar y croen.

Ar hyn o bryd, mae yna gynllun cofrestru a rheolaethau rheoliadol er mwyn sicrhau bod y trefniadau rheoli heintiau yn ddigonol ac yn effeithiol.  Ar hyn o bryd, fodd bynnag, nid yw’n orfodol cofrestru, ac mae’r broses o orfodi’r darpariaethau yn aml yn anghyson.

Mae Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), a gyflwynwyd yn ddiweddar, yn amlinellu cyfres o gynigion penodol mewn meysydd blaenoriaeth o fewn iechyd y cyhoedd, gan gynnwys darpariaethau ym maes triniaethau cosmetig a therapiwtig (y cyfeirir atynt yn y Bil fel triniaethau arbennig).  Mae’r triniaethau arbennig yma’n cynnwys aciwbigo, tyllu’r corff, electrolysis a thatŵio; fodd bynnag, mae’r Bil hefyd yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio’r rhestr triniaethau arbennig drwy is-ddeddfwriaeth.  Nod y Bil yw sicrhau bod triniaethau arbennig a ddarperir yng Nghymru yn cael eu cynnal mewn modd sy’n sicrhau nad oes potensial iddynt fod yn niweidiol i iechyd na lles.

O ran triniaethau arbennig, mae’r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer y canlynol:

Creu cynllun trwyddedu mandadol ar gyfer ymarferwyr a busnesau sy’n cyflawni triniaethau arbennig yng Nghymru

Er mwyn i unigolyn gael rhoi unrhyw driniaeth arbennig, mae’n rhaid iddo gael trwydded ac mae’n rhaid i’r fangre neu’r cerbyd lle mae’n gweithio gael ei gymeradwyo.  Bydd ymarferwyr sy’n rhoi unrhyw driniaethau arbennig heb drwydded neu sy’n gweithio o eiddo neu gerbyd sydd heb eu cymeradwyo yn troseddu.  Drwy reoliadau, bydd Gweinidogion Cymru yn pennu meini prawf trwyddedu ac amodau trwyddedu mandadol er mwyn sicrhau bod safonau ymarfer a gorfodi triniaethau arbennig yn gyson ledled Cymru.  Awdurdodau lleol fydd yn gyfrifol am orfodi’r gofynion trwyddedu ac am gadw’r gofrestr gyhoeddus yn gyfredol.  Bydd yn ofynnol hefyd i ymarferwyr roi ymgynghoriadau cyn ac ar ôl triniaethau er mwyn sicrhau bod pobl yn gwbl ymwybodol o’r peryglon sy’n gysylltiedig â’r driniaeth a darparu unrhyw wybodaeth angenrheidiol ar ofalu am ei hunain ar ôl triniaeth.

Yn ymgynghoriad Papur Gwyn Llywodraeth Cymru, roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn cefnogi sefydlu cofrestr triniaethau arbennig genedlaethol yng Nghymru.  Roedd ymatebwyr yn credu y byddai cofrestr:

  • yn gymorth i nodi mangreoedd diogel sy’n bodloni safon arbennig;
  • yn gymorth i unigolion wneud dewisiadau gwybodus am bwy i fynd atynt am driniaeth benodol;
  • yn sicrhau dull gweithredu cyson ar draws Cymru ac yn cael gwared ar y broses gofrestru a’r is-ddeddfau presennol; ac
  • er budd i ymarferwyr sy’n gweithio mewn gwahanol leoedd ledled Cymru.

Fodd bynnag, roedd nifer o’r ymatebwyr yn gwrthwynebu cyflwyno cofrestr, gan ddatgan:

  • nad oes problemau/mai ychydig o broblemau’n unig sydd i’r system bresennol;
  • y gallai’r adnoddau sydd eu hangen i orfodi cofrestr gymryd arian oddi ar wasanaethau blaenoriaeth eraill; ac
  • y gallai cofrestr arwain at fiwrocratiaeth ychwanegol a beichus, yn arbennig i fusnesau bach.

Roedd nifer o ymatebwyr hefyd yn teimlo y dylai aciwbigwyr sy’n aelodau o Gyngor Aciwbigo Prydain a fferyllwyr a ffisiotherapyddion siartredig sy’n ymarfer aciwbigo gael eu hesemptio o’r gofrestr gan eu bod eisoes wedi eu hyfforddi’n briodol ac yn dilyn Codau Ymarfer a Moesegol caeth.  Mynegwyd safbwyntiau tebyg o ran electrolysis.

Mae’r Bil fel y’i cyflwynir yn nodi esemptiadau i rai o’r gofynion, er enghraifft, ni fydd hi’n ofynnol i aelodau o broffesiwn penodol, fel meddygon, gael trwydded i ymarfer triniaeth arbennig, oni bai bod rheoliadau yn nodi fel arall.

Cyflwyno gwaharddiad ar roi twll mewn rhan bersonol o gorff unigolyn o dan 16 oed

Mae yna nifer o faterion yn codi mewn perthynas â rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn neu berson ifanc.  Oherwydd bod pobl ifanc yn llai tebygol o fod â’r profiad neu’r wybodaeth am sut i lanhau neu ofalu am dwll mewn rhan bersonol o’r corff, mae cymhlethdodau fel heintiau yn fwy cyffredin ac wrth i bobl ifanc barhau i dyfu yn ystod eu harddegau, gallai rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff arwain at ragor o gymhlethdodau wrth i’r corff ddatblygu.  Gellid hefyd ystyried rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn neu berson ifanc yn fater amddiffyn plant.  Fel y nodwyd yn y Memorandwm Esboniadol:

Trwy gael y driniaeth, gallai pobl ifanc fod yn eu rhoi eu hunain mewn sefyllfa o fod yn agored i niwed trwy fod mewn sefyllfaoedd lle y mae eu rhannau ‘personol’ yn agored i oedolyn ac yn cael eu cyffwrdd a’u tyllu gan oedolyn nad ydynt o bosibl yn ei adnabod cyn hynny.

Nid oes cyfyngiad oedran ar unrhyw fath o dyllu’r corff yng Nghymru ar hyn o bryd.  Caiff person ifanc roi cydsyniad dilys i gael triniaeth os oes ganddynt ddigon o alluedd i ddeall natur y weithred sydd i’w chyflawni.  Oherwydd natur y triniaethau a’r rhannau personol o’r corff sydd dan sylw, gallai peth deddfwriaeth droseddol, er enghraifft, Deddf Troseddau Rhywiol 2003, fod yn berthnasol. Fodd bynnag, nid yw rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff yn ymosodiad rhywiol neu’n drosedd yn awtomatig.

Diffiniad y Bil o roi twll mewn rhan bersonol o’r corff yw i drydyllu croen neu bilen fwcaidd yr anws, y fron (gan gynnwys y deth a’r areola), y ffolen, rhych y pen ôl, y pidyn (gan gynnwys y blaengroen), y perinëwm, y mons pubis, y ceillgwd neu’r fwlfa.

Diben y darpariaethau yn y Bil i wahardd rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff unigolyn sydd o dan 16 oed yng Nghymru yw amddiffyn plant a phobl ifanc rhag y niwed posibl i iechyd ac i osgoi amgylchiadau pan roddir plant a phobl ifanc mewn sefyllfa lle y gallent fod yn agored i niwed.  Bydd y Bil hefyd yn rhoi mwy o eglurder a chysondeb i’r gyfraith.

Mae’r Bil hefyd yn ei gwneud yn drosedd i unigolyn yng Nghymru wneud trefniadau i drydyllu corff unigolyn sydd o dan 16 oed, felly hyd yn oed os nad oedd y person ifanc wedi cael twll mewn rhan bersonol o’r corff, byddai paratoi ar gyfer y driniaeth yn cael ei hystyried yn drosedd.

Mae’r Bil yn darparu amddiffyniad ‘diwydrwydd dyladwy’ i rywun sydd yn cynnig rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff unigolyn os yw wedi cymryd camau rhesymol, fel gwirio oedran, er mwyn sicrhau bod y person sy’n gofyn am y driniaeth yn 16 oed neu’n hŷn.  Ni fydd yn amddiffyniad dilys os bydd person o dan 16 oed yn rhoi caniatâd i gael triniaeth neu fod gwarcheidwad neu riant yn rhoi caniatâd ar ei ran.

Bydd dyletswydd ar awdurdodau lleol i gymryd camau gorfodi mewn perthynas â’r darpariaethau, gan gynnwys cyflwyno erlyniadau ac ymchwilio i gwynion, a phenodi ‘swyddogion awdurdodedig’ at y dibenion hyn.

Ar hyn o bryd, mae llawer o ymarferwyr yn dewis peidio â rhoi tyllau mewn rhannau personol o gyrff pobl ifanc o dan 18 oed ac ni fydd y Bil yn effeithio ar allu ymarferwyr i barhau â’r polisi hwn.