A yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i helpu pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed i gael gwaith?

19 Mai 2015

Erthygl gan Anne Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Dyma lun o ddyn yn gwneud gwaith cerrig

Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.

Helpu pobl ifanc i gael gwaith: adroddiad gan Bwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Roedd Pwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad Cenedlaethol yn pryderu eich bod tair gwaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith yng Nghymru os ydych chi o dan 24 oed nag ydych chi os ydych dros 24 oed.

Felly, yn ystod tymor yr hydref 2014, penderfynodd y Pwyllgor gynnal ymchwiliad i bolisïau ynghylch helpu pobl ifanc i gael gwaith, ac i edrych ar effeithiolrwydd polisïau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn. Roedd yr ymchwiliad hwn yn cynnwys craffu ar y cynnydd a wnaed o ran y nodau a amlinellir yn Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei gyflwyno rhwng 2013 a 2015.

Yn ystod yr ymchwiliad, clywodd Aelodau’r Pwyllgor gan gyflogwyr, elusennau, Gyrfa Cymru, awdurdodau lleol, darparwyr hyfforddiant, colegau a rheolwyr ysgolion, Swyddfa Archwilio Cymru a Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg.

Cynhaliwyd trafodaeth ford gron anffurfiol gyda rhanddeiliaid yn Abertawe. Yn ystod y digwyddiad, siaradodd nifer o elusennau, cynghorwyr gyrfa a gweithwyr ieuenctid am y problemau y mae pobl ifanc ddi-waith yn eu hwynebu o ddydd i ddydd, ac am y ffyrdd gorau o gefnogi’r bobl ifanc hyn i fod yn barod ar gyfer y byd gwaith ac, yn y pen draw, i gael swydd.

Yn bwysicaf oll, clywodd Aelodau’r Pwyllgor gan bobl ifanc eu hunain, gan gynnwys pobl o Info-Nation yn Abertawe. Mae fideo byr o’r sylwadau a wnaed gan bobl ifanc ledled Cymru ar gael yn archif Senedd TV. Y dyddiad perthnasol yw 26 Tachwedd 2014.

Cyhoeddodd y Pwyllgor Menter a Busnes ei adroddiad a chrynodeb o’i ganfyddiadau ar 19 Mawrth 2015. Gwnaeth y Pwyllgor 16 o argymhellion:

Cynhelir dadl yn y Siambr ar argymhellion y Pwyllgor ac ymateb Llywodraeth Cymru iddynt yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 20 Mai.

Dyma’r hyn a ddywedodd y bobl ifanc wrth Aelodau’r Pwyllgor:

Dywedodd y bobl ifanc mai’r problemau mwyaf y maent yn eu hwynebu yw:

  • diffyg hyder;
  • diffyg cyngor gyrfa unigol;
  • diffyg dealltwriaeth o ran sut i ymdopi â’r farchnad swyddi leol; a
  • diffyg cyngor ynghylch ffurflenni cais a chyfweliadau.

Problem fawr arall y maent yn eu hwynebu yw cost ac argaeledd trafnidiaeth. Mae hyn yn ei gwneud yn fwy anodd iddynt ddod o hyd i swydd, pa un a ydynt yn byw mewn ardal wledig neu mewn tref fawr.

Dyma’r hyn a ddywedodd cyflogwyr wrth Aelodau’r Pwyllgor:

Y broblem fwyaf i gyflogwyr yw nad yw pobl ifanc yn barod ar gyfer y gweithle. Dywedodd y cyflogwyr bod angen agwedd a sgiliau gwell ar rai pobl ifanc mewn perthynas â chyflogadwyedd, gan gynnwys prydlondeb a dibynadwyedd; sgiliau cymdeithasol a pharch at gydweithwyr; sgiliau gofal cwsmeriaid; a sgiliau hanfodol gwell, gan gynnwys llythrennedd a rhifedd.

Dyma rhai o argymhellion y Pwyllgor:

  • Dylai ysgolion ddarparu addysg ar sgiliau parod at waith mewn perthynas â phob pwnc, nid dim ond drwy “Gyrfaoedd a Byd Gwaith” yn unig. Yn ogystal, dylid gwella’r cysylltiadau rhwng cyflogwyr ac ysgolion.
  • Dylid gwneud cyfnodau profiad gwaith yn hirach, a dylid trefnu’r profiad gwaith yn briodol. Dylai Gyrfa Cymru fod yn gyfrifol am sicrhau bod lleoliadau profiad yn bodloni safonau iechyd a diogelwch ac am gadw rhestr ganolog o leoliadau.
  • Dylai costau teithio rhatach i bobl 16 a 17 oed o dan y cynllun Tocynnau Teithio Rhatach i Bobl Ifanc fod ar gael i bobl 18 i 24 oed.
  • Dylai Gyrfa Cymru ddarparu cyngor wyneb yn wyneb ar gyfer pob person ifanc sydd ei angen. Dylai fod mwy o weithwyr arweiniol ar gael i helpu pobl ifanc gael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddod o hyd i waith.
  • Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r rhai sy’n darparu budd-daliadau er mwyn atal pobl ifanc rhag colli eu budd-dal tai os byddant yn dechrau gweithio mewn swydd nad yw’n talu’n dda.
  • Mae angen mwy o help ar rai pobl ifanc i gael gwaith ac i gadw eu swydd. Dylid sicrhau bod cyrsiau hyblyg, sydd o bosibl yn hirach, ar gael i helpu’r bobl ifanc hynny fod yn barod ar gyfer y byd gwaith.
  • Mae nifer o ffyrdd y mae elusennau yn cael arian i helpu pobl ifanc gael gwaith ac i ehangu eu sgiliau. Dylid gwario’r arian hwn yn ddoeth.
  • Dylid gwneud mwy i hyrwyddo prentisiaethau.

Ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor

Roedd ymateb Llywodraeth Cymru yn gadarnhaol ar y cyfan. Dywedodd y Llywodraeth bod llawer o’r argymhellion yn cyd-fynd â chyfarwyddyd polisi cyfredol y Llywodraeth a bod cysylltiad agos rhwng llawer ohonynt â gweithgareddau sydd eisoes yn cael eu datblygu.

Mae’r Dirprwy Weinidog wedi derbyn saith o argymhellion y Pwyllgor. Derbyniwyd chwech o argymhellion eraill mewn egwyddor, a chafodd y tri argymhelliad arall eu gwrthod.

Dyma rhai o weithgareddau polisi cyfredol Llywodraeth Cymru sy’n cyd-fynd ag argymhellion y Pwyllgor: Adolygiad yr Athro Donaldson o’r cwricwlwm; fersiwn ddiwygiedig Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru (o fis Medi 2015 ymlaen); a’r Rhaglen Ymgysylltu â Chyflogwyr ar Rifedd (a lansiwyd yn 2013).

Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol yn cynnwys: adolygiad o’r cwricwlwm “Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith” (gan gynnwys adolygiad o brofiad gwaith a lleoliadau) a’r prosiect Ymgysylltu’n Well â Chyflogwyr.

Gwrthododd y Llywodraeth Cymru ddau argymhelliad ynghylch y ffaith y dylai’r Llywodraeth adolygu a gwerthuso’r cyfleoedd sydd gan bobl ifanc yn yr ysgol i ddewis cyrsiau galwedigaethol yn 14 oed a 16 oed, a phenderfynu a yw’r cydbwysedd hwn yn briodol i economi fodern Cymru. Roedd y Pwyllgor yn pryderu nad oes cymorth na pharch cydradd eto rhwng cyrsiau academaidd a galwedigaethol a dewisiadau gyrfa cysylltiedig.

Mewn ymateb, dywedodd y Llywodraeth ei bod wedi sefydlu Adolygiad Gorchwyl a Gorffen allanol ar gyfer pobl 14-19 oed, sef yr adolygiad o ddarpariaeth gydweithredol leol yng nghyfnod allweddol 4. Roedd edrych ar y cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc gael mynediad at ddarpariaeth alwedigaethol yn rhan o’r adolygiad hwnnw, ac felly roedd y Llywodraeth yn hyderus ei bod wedi cymryd y camau priodol yn hynny o beth.

Yn ogystal, gwrthododd Llywodraeth Cymru argymhelliad ynghylch y ffaith y dylai’r Dirprwy Weinidog ailgyflwyno’r cyfrifoldeb ar Gyrfa Cymru i gynnal archwiliadau iechyd a diogelwch mewn lleoliadau profiad gwaith, ac i gadw cronfa ddata genedlaethol o brofiad gwaith. Dywedodd y Dirprwy Weinidog mai cyflogwyr sydd â’r prif gyfrifoldeb dros iechyd a diogelwch myfyrwyr ar leoliadau profiad gwaith, ac mai ysgolion, nid Gyrfa Cymru, sy’n gyfrifol am ddarparu lleoliadau profiad gwaith priodol.

Mae ymateb llawn Llywodraeth Cymru wedi’i gyhoeddi yn rhan o’r agenda ar gyfer y Cyfarfod Llawn: Eitem 5 o’r Agenda ar gyfer y Cyfarfod Llawn: dogfennau ategol. Bydd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn yn cael ei darlledu’n fyw ar Senedd TV ddydd Mercher 20 Mai, 2015.

 

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg