Clefyd yr Afu yng Nghymru

11 Mai 2015

Erthygl gan Victoria Paris, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru

Mae cyfraddau marwolaeth ar gyfer clefyd yr afu wedi cynyddu 400% ers 1970 ac mae marwolaethau cynamserol yng Nghymru o glefyd cronig yr afu wedi mwy na dyblu yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf.  Er y bu gwelliannau yn y rhan fwyaf o farwolaethau o anhwylderau cronig eraill, megis strôc, clefyd y galon, a llawer o ganserau, cynyddodd nifer y marwolaethau oherwydd clefyd yr afu mewn pobl o dan 65 oed.

Clefyd yr afu yw’r trydydd achos mwyaf cyffredin o farwolaeth gynamserol yn y Deyrnas Unedig ac mae cyfradd y cynnydd yng nghlefyd yr afu yn sylweddol uwch yn y DU na’r gwledydd eraill yng ngorllewin Ewrop.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Law yn Llaw at Iechyd – Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd yr Afu

 

Ceir mwy na 100 math o glefyd yr afu, a gyda’i gilydd maent yn effeithio ar o leiaf ddwy filiwn o bobl yn y DU.  Y tri math mwyaf cyffredin o glefyd yr afu yn y DU yw:

  • Gordewdra – O’r 25% o boblogaeth y DU sydd wedi’u categoreiddio yn ordew, bydd gan y rhan fwyaf ohonynt glefyd yr afu brasterog, a bydd gan y rhan fwyaf ohonynt greithiau a llid parhaus a fydd yn arwain at sirosis.
  • Camddefnyddio alcohol – Mae clefyd yr afu alcoholig yn cyfrif am dros draean o farwolaethau oherwydd clefyd yr afu. Yn 2012, roedd clefyd yr afu alcoholig yn cyfrif am 63% o nifer y marwolaethau cysylltiedig ag alcohol yng Nghymru a Lloegr, 18% yn uwch na nifer y marwolaethau yn 2002.
  • Hepatitis Feirysol a Gludir yn y Gwaed (llid yr afu)– Amcangyfrifir bod rhwng 12,000 a 14,000 o bobl yng Nghymru â haint cronig hepatitis C. Ar hyn o bryd, dim ond heintiau hepatitis B acíwt sy’n cael eu cofnodi, felly nid oes unrhyw amcangyfrifon ar gyfer heintiau cronig hepatitis B yng Nghymru. Fodd bynnag, mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn amcangyfrif bod 0.3% o boblogaeth y DU â haint hepatitis B cronig.

Mae clefyd yr afu o ganlyniad i’r tri ffactor hyn bron yn gwbl ataliol.  Gallai bod â mwy nag un ffactor arwain at glefyd yr afu mwy difrifol a chyfraddau uwch o ganser yr afu.  Mae’r achosion hyn o glefyd yr afu yn gysylltiedig ag amddifadedd cymdeithasol ac felly’n cael effaith anghymesur ar gymunedau tlotaf.

Fel rhan o waith Llywodraeth Cymru gyda Law yn Llaw at Iechyd a Gofal Iechyd Darbodus, lansiodd Llywodraeth Cymru y Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd yr Afu ar 5 Mai 2015.  Bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod y Cynllun Cyflawni yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Mai.

Mae’r Cynllun Cyflawni yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau clefyd yr afu ac yn canolbwyntio ar sut i atal y clefyd yn y lle cyntaf a sicrhau bod gan bobl fynediad at ofal rhagorol lle bo angen.  Wrth lansio’r cynllun, dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething: ‘our NHS will continue to play its part in treating those who need it but all of us have to take responsibility for the health consequences of our lifestyle choices’.

Mae’r cynllun wedi’i rannu’n chwe thema, gyda phob thema yn nodi’r problemau gwasanaeth allweddol, blaenoriaethau penodol, dangosyddion canlyniadau poblogaeth a mesurau sicrwydd y GIG.  Dyma’r chwe thema:

  • Atal Clefyd yr Afu: Mae’r ffactorau risg sy’n cyfrannu at glefyd yr afu yn cael sylw gweithredol ac mae llai o bobl yn wynebu risg o ddatblygu clefyd yr afu.
  • Canfod clefyd yr afu yn gynnar: Caiff clefyd yr afu ei ganfod yn gynnar a chaiff pobl eu hatgyfeirio ar gyfer triniaeth.
  • Gofal cyflym ac effeithiol: Caiff pobl â chlefyd yr afu y gofal priodol gan dimau amlddisgyblaethol arbenigol.
  • Byw gyda chlefyd yr afu: Caiff pobl â chlefyd yr afu gymorth i reoli eu cyflwr ac i leihau’r risg bod y clefyd yn datblygu.
  • Gwella gwybodaeth: GIG Cymru a’i bartneriaid yn darparu gwell gwybodaeth a chymorth i bobl sydd mewn perygl o ddatblygu clefyd yr afu neu eisoes yn dioddef ohono.
  • Targedu ymchwil: Cydweithio gweithredol mewn ymchwil sy’n gysylltiedig â chlefyd yr afu, i gyflawni gwelliannau mewn diagnosis, triniaeth a rheolaeth.

Cefnogir y cynllun gan £1 miliwn o arian newydd gan Lywodraeth Cymru. Bydd £1.37 miliwn o gyllid blynyddol, sy’n gysylltiedig â’r Cynllun Gweithredu Hepatitis Feirysol a Gludir yn y Gwaed, a ddaeth i ben eleni, hefyd yn parhau fel rhan o’r Cynllun.

Gweithredir y Cynllun drwy sefydlu grŵp gweithredu cenedlaethol dan arweiniad y GIG, a bydd yn ofynnol iddo gynhyrchu adroddiad cynnydd blynyddol ar gyflawni Cynllun Clefyd yr Afu.  Bydd y grŵp yn cael ei gadeirio gan gyfarwyddwr gweithredol o’r GIG, yn cynnwys cynrychiolaeth gwasanaeth gan fyrddau iechyd, cynrychiolaeth o’r trydydd sector, Cadeirydd Grŵp Cynghori Arbenigol Cenedlaethol Gastroenteroleg a chynrychiolydd o Gymdeithas Gastroenteroleg ac Endosgopi Cymru.

Bydd byrddau iechyd lleol yn gorfod datblygu cynlluniau clefyd yr afu ac adrodd ar gynnydd yn flynyddol i’r grŵp gweithredu.  Yn lleol, bydd clinigydd arweiniol ym mhob bwrdd iechyd yn arwain gweithgor o amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys iechyd y cyhoedd, cynllunwyr gwasanaethau lleol, gofal sylfaenol, llywodraeth leol a chynrychiolwyr o’r trydydd sector, i gydgysylltu a sbarduno gwelliannau yn lleol.