Energiewende Cymru?

1 Mai 2015

Erthygl gan Karen Whitfield, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru

Tyrbin gwynt cymunedol mewn pentref yn y Fforest Ddu yn yr Almaen

Ym mis Ebrill 2015, ymwelodd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad â thalaith Baden-Wurrtemberg yn yr Almaen i ddarganfod sut y mae trefi, dinasoedd a chymunedau bach yn cymryd camau i gynyddu ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni. Yn yr Almaen, Energiewende (trawsnewid y defnydd o ynni) yw’r enw ar hyn.

Beth yw nod Energiewende?

Mae’r Almaen wedi gosod targedau uchelgeisiol i’w hun:

  • cynhyrchu 35 y cant o’r trydan a ddefnyddir drwy ynni adnewyddadwy erbyn 2020;
  • darparu 18 y cant o gyfanswm yr ynni (gan gynnwys gwres a thrafnidiaeth) drwy ynni adnewyddadwy erbyn 2020;
  • gostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr 40 y cant erbyn 2020 a rhwng 80 a 95 y cant erbyn 2050;
  • lleihau’r defnydd sylfaenol o ynni 20 y cant o lefelau 2008 erbyn 2020 a 50 y cant erbyn 2050;
  • gostwng y defnydd o drydan i 10 y cant yn is na lefelau 2008 erbyn 2020 a 25 y cant yn is na lefelau 2008 erbyn 2050; a
  • dileu gorsafoedd ynni niwclear yn raddol erbyn 2022.

Sut y caiff hyn ei gyflawni?

Mae’r Almaen wedi pasio nifer o ddeddfwriaethau allweddol i sicrhau’r cynnydd mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy:

  • 2000 – cyflwynodd y Ddeddf Ynni Adnewyddadwy (EEG) gyfraddau tariff cyflenwi trydan newydd a oedd yn gysylltiedig â chost y buddsoddiad yn hytrach na’r gyfradd fanwerthu, ac roedd yn sicrhau bod cynhyrchwyr ynni adnewyddadwy yn cael blaenoriaeth wrth gysylltu â’r grid.
  • 2002 – mabwysiadwyd y Ddeddf Cydgynhyrchu Gwres-Pŵer i gefnogi’r defnydd o systemau gwres a phŵer cyfun.
  • 2009 – pasiwyd y Ddeddf Ffynonellau Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Gwres, sydd yn pennu gofynion ar gyfer gosod systemau gwresogi adnewyddadwy mewn tai.
  • 2009 – pasiwyd y Ddeddf Ecoddylunio Cynnyrch sydd yn Defnyddio Ynni, sy’n gweithredu’r gyfarwyddeb ecoddylunio Ewropeaidd yng nghyfraith yr Almaen.
  • 2009 – Nododd y Ddeddf Ehangu’r Grid Pŵer (a elwir yn EnLAG) 24 o brosiectau i ehangu’r grid yr ystyriwyd eu bod o ‘angen cenedlaethol’. Cyn hyn, roedd y gwaith o ehangu’r grid wedi ei arafu yn sgil anghytundeb ynghylch gosod llinellau trosglwyddo newydd.
  • 2011 – pasiwyd y Ddeddf ar Gyflymu’r Broses o Ehangu’r Grid (A elwir yn NABEG), gan roi rhai o’r pwerau dethol a chymeradwyo a arferai fod gan daleithiau’r Almaen i asiantaeth rwydwaith y wlad, sef BnetzA. Yn unol â’r Ddeddf hon, bydd llinellau foltedd uchel newydd yn cael eu gosod o dan y ddaear (fel rheol) i gynyddu cydsyniad y cyhoedd.

Ymddengys fod y mesurau hyn yn cael effaith gadarnhaol, yn enwedig o ran cynhyrchu trydan adnewyddadwy. Yn 2013, cynhyrchodd yr Almaen 23.4 y cant o’i thrydan drwy ffynonellau adnewyddadwy. Nodwedd arall o Energiewende yr Almaen yw bod yna gefnogaeth a chyfranogiad cymunedol sylweddol iddo. Yn 2012, cymunedau oedd yn berchen ar 47 y cant o’r trydan a gynhyrchwyd drwy ffynonellau adnewyddadwy. Mewn cymhariaeth, 10.1 y cant o drydan Cymru a gynhyrchwyd drwy ffynonellau adnewyddadwy yn 2013, y mwyafrif ohonynt yn eiddo i gwmnïau masnachol mawr. 

Beth oedd canfyddiadau’r Pwyllgor?

Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn cwrdd ag aelodau o Bwyllgor yr Amgylchedd, Hinsawdd ac Ynni yn Stuttgart

Delwedd trwy garedigrwydd Baden-Wurttemberg Landtag

Yn ystod eu hymweliad, cyfarfu’r Pwyllgor â swyddogion taleithiol a swyddogion llywodraeth leol, academyddion, cynrychiolwyr o fanc buddsoddi moesegol, cymunedau lleol a ffermwyr a oedd yn cynhyrchu eu trydan a’u gwres eu hunain o ffynonellau adnewyddadwy. Ymwelodd y Pwyllgor â Vauban, ardal adfywiedig yn ninas Freiburg, a fu’n farics i fyddin Ffrainc yn y gorffennol. Mae nifer fawr o adeiladau’r ardal yn effeithlon o ran ynni, gyda phob un adeilad yn cwrdd â’r Safon Adeiladu Ynni Isel, sy’n golygu mai 65kWh o ynni sydd ei angen i wresogi pob metr sgwâr. Hefyd, mae tua 240 o breswylfeydd yn cwrdd â Safon Passivhaus, sy’n golygu mai dim ond 15kWh o ynni sydd ei angen i wresogi pob metr sgwâr. Mae rhai adeiladau yn Vauban hyd yn oed yn cyrraedd statws uwch, am eu bod yn cynhyrchu mwy o ynni nag sydd ei angen ar gyfer gwresogi. Ychydig o geir sydd yn y rhan yma o’r ddinas hefyd, gyda system dramiau a lonydd seiclo yn diwallu’r rhan fwyaf o anghenion trafnidiaeth.

Yn yr Almaen, mae rhai cymunedau yn berchen ar eu gridiau trydan a gwres eu hunain ac yn eu rheoli yn ogystal â’n cynhyrchu eu pŵer adnewyddadwy eu hunain. Ymwelodd y Pwyllgor â EWS Shönau, grid trydan sy’n eiddo i’r gymuned sydd yn ehangu ei ddylanwad a’i gefnogaeth i gymunedau eraill yn yr Almaen sydd am wneud yr un peth. Mae rheolwyr y fenter gymunedol hon yn credu bod perchnogaeth y grid wedi rhoi mwy o reolaeth i’r gymuned wneud gwelliannau i effeithlonrwydd ynni ac wedi galluogi pobl leol i benderfynu pa fath o dechnoleg sy’n darparu eu trydan. Erbyn 2010, ynni adnewyddadwy oedd yn gyfrifol am ddarparu 99.6 y cant o’r trydan lleol.

A oes ymrwymiad tebyg ar draws yr Almaen, ac a all Cymru wneud yr un peth?

Dangosodd ymweliad y Pwyllgor fod yna gonsensws gwleidyddol sylweddol ynghylch polisi ynni adnewyddadwy yr Almaen. Cytunodd gwleidyddion o bob un o’r prif bleidiau ar dargedau Energiewende yr Almaen a’r penderfyniad i ddileu ynni niwclear yn raddol. Mae’n ymddangos bod yr Almaen yn canolbwyntio ar sut y dylid cyflawni’r targedau hyn yn hytrach nag os yw’n bosibl eu cyflawni neu a ddylid eu cyflawni.

Yn Natganiad Ynni Cymru ar 15 Ebrill 2015, nododd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth fod y weledigaeth ar gyfer Cymru yn cynnwys ‘manteisio ar y newid i gynhyrchu ynni carbon isel, i gael y budd mwyaf posibl i Gymru’ a bod hyn yn golygu ‘adeiladu ar gynnydd presennol a sicrhau newid sylweddol wrth gyflawni ymyraethau, camau gweithredu a pholisïau sy’n arwain at Gymru ddoeth o ran ynni.’

Bydd y Pwyllgor yn awr yn cynnal ymchwiliad i’r posibilrwydd o weithredu rhai neu bob un o ddulliau Energiewende, ac ymarferoldeb gwneud hynny, yng Nghymru.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg