Ffurfio Llywodraethau a’r Ddeddf Seneddau Tymor Penodol

23 Ebrill 2015

Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

This is a picture of the door of 10 Downing Street.

Llun: o Flickr gan UK Ministry of Defence. Dan drwydded Creative Commons.

Clymblaid neu Lywodraeth leiafrifol?

Yn ôl y polau ar hyn o bryd, ymddengys na fydd unrhyw blaid yn debygol o ddod i’r brig gyda mwyafrif digonol yn Etholiad Cyffredinol y DU 2015 ac mae llawer o ddyfalu ynghylch nifer o gyfuniadau o bleidiau yn cydweithio. Y pedwar prif opsiwn sydd ar gael i’r pleidiau mwyaf yw:

  • Clymblaid gydag un neu fwy o’r partïon llai;
  • Bod y blaid fwyaf yn ffurfio Llywodraeth leiafrifol ond yn dod i drefniant hyder a chyflenwi lle mae’r blaid, neu’r pleidiau, llai, yn cytuno i gefnogi plaid fwy o ran ei chyllideb ac unrhyw bleidleisiau o hyder y mae pleidiau eraill yn bwriadu eu defnyddio i’w thynnu i lawr. Defnyddiwyd hyn gan Lywodraeth leiafrifol yr SNP yn yr Alban yn 2007 ac mae’n un o nodweddion Llywodraethau Seland Newydd.
  • Bod y pleidiau mwy yn ffurfio Llywodraeth leiafrifol a’r pleidiau llai yn cynnig eu cefnogaeth ar sail mater fesul mater;
  • Bod y ddwy blaid fwyaf yn cytuno i ffurfio “Clymblaid Fawr“, fel sydd wedi digwydd dair gwaith yn yr Almaen ers ffurfio’r Weriniaeth Ffederal ym 1949.

Mae gwahanol raddau o sefydlogrwydd i’r holl opsiynau hyn, a Llywodraeth leiafrifol sy’n dibynnu ar bleidleisiau mater fesul mater yw’r fwyaf bregus.

Y doethinebau blaenorol oedd bod clymbleidiau yn y Deyrnas Unedig yn ansefydlog oherwydd y gallai’r Prif Weinidog (fel arfer o’r blaid fwyaf) alw etholiad cynnar ar adeg a fyddai fwyaf addas i’w blaid er mwyn ennill mwyafrif. Cafodd hyn ei droi ar ei ben i ryw raddau gan Ddeddf Seneddau Tymor Penodol 2011, a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Glymblaid yn dilyn yr etholiad diwethaf. 

Deddf Seneddau Tymor Penodol 2011

Mae Ddeddf Seneddau Tymor Penodol 2011 yn darparu ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf i fod ar 7 Mai 2015, gyda’r etholiadau cyffredinol dilynol i’w cynnal ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mai bob pum mlynedd. Ceir dwy ddarpariaeth sy’n sbarduno etholiad cynnar ag eithrio bob pum mlynedd. Y rhain yw:

    • caiff cynnig o ddiffyg hyder ei basio yn y Llywodraeth drwy fwyafrif syml ac aiff 14 diwrnod heibio heb i’r tŷ basio cynnig o hyder mewn Llywodraeth newydd neu Lywodraeth a ail-sefydlwyd, neu
    • cytunir ar y cynnig gan ddwy ran o dair o gyfanswm nifer y seddi yn Nhŷ’r Cyffredin (434 allan o 650 ar hyn o bryd) gan gynnwys seddi gwag, y bydd etholiad cynnar.

Mae’r Ddeddf yn gwneud nifer o ddarpariaethau eraill, gan gynnwys:

  • caniatáu i’r Prif Weinidog gynnig gohirio dyddiad yr etholiad gan hyd at ddau fis, felly byddai’n rhaid gosod offeryn statudol drafft gerbron y ddau dŷ yn cynnig yr oedi, a rhaid iddo gael ei gymeradwyo gan y ddau dŷ.
  • ei gwneud yn ofynnol bod y Prif Weinidog yn gwneud trefniadau yn 2020 i Bwyllgor gynnal adolygiad o weithrediadau’r Ddeddf, ac ystyried gwneud argymhellion ar gyfer gwelliant neu apêl, os yn briodol.

Ystyriwyd effaith y Ddeddf ar ffurfio Llywodraeth gan Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷ’r Arglwyddi. Dywedodd ‘During the negotiations following the 2010 election, the proposal to introduce fixed-term parliaments formed an important part of the proposed agreements between the Liberal Democrats and each of the other parties’. Dywedodd David Laws AS, un o drafodwyr y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2010, ‘[it gave] both sides assurance that this was an enterprise that was going to last the period of time and one side would not suddenly pull the rug out from under the other after a short period.’ Awgrymodd y Pwyllgor y gallai hyn olygu y byddai pleidiau mwy yn fwy amharod i ofyn am un o’r opsiynau Llywodraeth leiafrifol cyn dod i drefniant clymblaid.

Etholiad cynnar?

Yn ei flog, mae Arglwydd Norton, yr arbenigwr seneddol wedi nodi bod sylwebyddion sy’n dadlau y gallai’r blaid fwyaf ddewis mynd am etholiad cynnar yn aml yn drysu elfennau o’r Ddeddf. Er enghraifft, ni fyddai etholiad cynnar yn cael ei sbarduno pe bai Tŷ’r Cyffredin yn pleidleisio yn erbyn Araith y Frenhines. Mae’r cynnig o ddiffyg hyder y cyfeirir ato uchod yn un penodol ac nid yw unrhyw gynnig arall yn berthnasol at ddibenion y Ddeddf. Gall Llywodraeth ymddiswyddo yn sgil cael ei threchu ar bleidlais bwysig, ond nid yw hynny’n berthnasol at ddibenion y Ddeddf. Ni chaiff etholiad ei sbarduno. I egluro, mae Arglwydd Norton yn datgan:

‘The wording of the motions are specified in the Act. No other wording would have an effect. The Queen has no role in the process.’

Beth nesaf?

Ar ddiwedd y Senedd ddiwethaf roedd rhai Aelodau Seneddol yn galw am y ddiddymu‘r Ddeddf Seneddau Tymor Penodol gan ddadlau ei bod yn cyfyngu ar ddemocratiaeth. Dywedodd Syr Edward Leigh:

‘…the Act we are talking about today moves against the spirit of the idea that one Parliament cannot bind another. That is rubbish anyway, because if somebody gets a majority in the next Parliament, they can simply repeal this Act in an afternoon. All the checks and balances are meaningless in any event, because one Parliament cannot bind another.’

Gan fod y senedd wedi’i diddymu ar hyn o bryd, ni wyddom beth fydd cyfansoddiad yr un newydd. Os mai senedd grog fydd y canlyniad, bydd oedi pellach wrth gynnal trafodaethau rhwng pleidiau gwleidyddol ynghylch ffurfio Llywodraeth. Dim ond yr adeg honno y gwelwn ai rhyfeddod un-tymor yw’r Ddeddf.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg