Amser gyrru i ysbytai mawr sydd ag Adran Damweiniau ac Achosion Brys

26 Mawrth 2015

Erthygl gan Helen Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru

Pa mor hir mae’n ei gymryd i yrru i ysbyty mawr sydd ag Adran Damweiniau ac Achosion Brys?

Mae’r map isod yn rhoi amcan bras o’r amser y byddai’n ei gymryd i chi yrru i’ch ysbyty agosaf sydd ag Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Mae ysbytai mawr sydd ag Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn darparu gwasanaethau dadebru ac asesu, ac yn trin salwch acíwt ac anafiadau mewn cleifion o bob oed. Rhaid i’r gwasanaethau fod ar gael 24 awr y dydd. Mae’r amseroedd gyrru wedi’u cyfrifo gan ddefnyddio’r 13 ysbyty mawr sydd ag Adran Damweiniau ac Achosion Brys yng Nghymru a 4 ysbyty mawr sydd ag Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn Lloegr ac sy’n agos at y ffin.

Mae’r amseroedd gyrru yn seiliedig ar y rhwydwaith ffyrdd presennol ac maen nhw wedi’u dosbarthu’n barthau, fel a ganlyn; 0 i 10 munud, 11 i 30 munud, 31 i 60 munud, a thros 60 munud. Mae ymyl pob un o’r parthau amser gyrru wedi’i symleiddio i’w wneud haws ei ddarllen ac i dynnu sylw at y natur ddarluniadol y map.

Ffigur 1: Amser gyrru i ysbytai mawr yng Nghymru a Lloegr sydd ag Adran Damweiniau ac Achosion Brys

Map yn dangos amser gyrru i ysbytai mawr yng Nghymru a Lloegr sydd ag Adran Damweiniau ac Achosion Brys

Faint o bobl sy’n byw o fewn pob parth amser gyrru?

Gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn 2013 ar lefel ardal gynnyrch (ardaloedd daearyddol bach), mae’n bosibl amcangyfrif faint o bobl sy’n byw o fewn pob un o’r parthau amser gyrru. Nid yw’n syndod bod Tabl 1 yn dangos bod y mwyafrif (98.4%) o bobl sy’n byw yng Nghymru yn byw o fewn 60 munud i ysbyty mawr sydd ag adran damweiniau ac achosion brys. Dim ond 14.1% o bobl sy’n byw mwy na 30 munud o ysbyty mawr sydd ag adran damweiniau ac achosion brys.

Tabl 1: Amcangyfrif o’r boblogaeth ym mhob parth amser gyrru

BlogHelenLargeCy

Sut rydyn ni wedi diffinio amser gyrru?

Cynhaliwyd y dadansoddiad hwn gan ddefnyddio meddalwedd Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) arbenigol a Rhwydwaith Trafnidiaeth Integredig (ITN) yr Arolwg Ordnans. Mae’r ITN yn cynnwys pob ffordd, ynghyd â nodweddion, fel y math o ffordd, ei henw a’i chyflymder cyfartalog, ar gyfer pob rhan o’r rhwydwaith. Mae’r pellteroedd i ysbytai damweiniau ac achosion brys mawr yng Nghymru a Lloegr wedi’u cyfrifo ar sail amser gyrru a chyflymder cyfartalog. Mae’r cyflymder cyfartalog ar draws y rhwydwaith yn amrywio yn ôl y math o ffyrdd.  Mae’r cyflymder cyfartalog uchaf ar draffyrdd, a’r cyflymder cyfartalog isaf ar strydoedd cefn. Mae prif ffyrdd hefyd wedi cael blaenoriaeth dros ffyrdd llai wrth gyfrif y llwybr teithio.

Beth yw cyfyngiadau’r map hwn?

Pwrpas y map yw rhoi arwydd gweledol bras o’r amser a gymerir i yrru o wahanol rannau o Gymru i ysbyty mawr sydd ag adran damweiniau ac achosion brys.  Er bod cywirdeb y canlyniadau a ddangosir yma wedi’u cadarnhau gan ddefnyddio offeryn cyfarwyddiadau Google Maps, dylid bod yn ofalus wrth eu defnyddio. Mae’r pellter sydd i’w deithio o fewn cyfnod penodol o amser yn dibynnu ar nifer o ffactorau sy’n anodd eu modelu, fel yr amser o’r dydd, y math o gerbyd, tagfeydd traffig a gwaith ffordd. Mae’r model a ddefnyddir yma hefyd yn cymryd yn ganiataol bod gan bob ffordd o’r un math (ee. ‘Ffordd A’) yr un cyflymder cyfartalog ledled Cymru. Nid yw hyn yn wir oherwydd mae’r terfynau cyflymder yn amrywio gan fod y mathau o ffyrdd yn amrywio. Er enghraifft, mae’r terfyn cyflymder ar ‘Ffyrdd A’ yn amrywio rhwng 40 mya a 70 mya, a bydd hyn yn effeithio ar y cyflymder cyfartalog. Yn ogystal, mae ymyl pob parth amser gyrru wedi’i symleiddio i wneud y map yn haws ei ddarllen, ac mae hynny o reidrwydd yn ei wneud ychydig yn llai cywir.

Gall y Gwasanaeth Ymchwil ddarparu mapiau tebyg ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a’u staff yn dangos yr amser a gymerir i yrru i wasanaethau eraill yng Nghymru.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg