Egwyddorion Llywodraeth y DU ar gyfer fframweithiau ariannol datganoledig

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Rhagarweiniad

Ar 22 Ionawr 2015, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei hymateb i Gomisiwn Smith yn y papur gorchymyn ‘Scotland in the United Kingdom: An enduring settlement’. Mae Pennod 2 o’r papur gorchymyn yn amlinellu egwyddorion Llywodraeth y DU ar gyfer fframweithiau cyllidol cenedlaethol a datganoledig (dangosir rhifau’r paragraffau isod). Mae’r blog hwn yn dangos sut y gall y rhain fod yn berthnasol i Gymru. Bydd blog arall yn esbonio newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i’r fframwaith cyfredol a sut y gallai hyn fod yn berthnasol i Gymru.

 

Diben y fframwaith cyllidol

Llun o Flickr gan Joe Anderson. Dan drwydded Creative Commons

Llun o Flickr gan Joe Anderson. Dan drwydded Creative Commons

Safbwynt Llywodraeth y DU yn y Papur Gorchymyn

2.2.5. Rhaid i Lywodraeth y DU gymryd y llyw o ran y fframwaith cyllidol yn gyffredinol i sicrhau bod risgiau’r DU yn cael eu rheoli’n briodol.

2.2.5-6. Mae rhagdybiaeth mai Llywodraeth ganolog a fydd yn gwarantu llywodraethau ar y lefelau is (gan gynnwys eu dyledion) ac felly mae’n rhaid i fframwaith cyllidol yr Alban gyfrannu’n gymesur at amcanion cyllidol ehangach y DU. Byddai methu â gwneud hynny yn golygu bod dinasyddion y DU yn cael eu trin yn anghyfartal. Byddai penderfyniadau ariannol yn yr Alban yn arwain at gyfaddawdau yng nghyllid cyhoeddus gweddill y DU.

2.2.9. Defnyddir cyfyngiadau cyllidol yn helaeth mewn gwledydd ffederal i reoli polisi cyllidol llywodraethau is-ganolog.

2.2.10. Yn ôl yr OECD, ar gyfartaledd, cyfrifoldebau llywodraethau is-ganolog yw 30% o wariant a 20% o drethi. Yn dilyn Comisiwn Smith, bydd Senedd yr Alban yn rheoli 60% o wariant a 40% o drethi.

Perthnasedd i Gymru

  • Er bod angen rheolaeth gyllidol ganolog, mae Comisiwn Holtham wedi dadlau bod gwendidau yn fformiwla Barnett eisoes yn arwain at ddinasyddion yn y DU, ac yng Nghymru yn benodol, yn cael eu trin yn annheg.
  • Mae’n ddefnyddiol cael cadarnhad clir y bydd Llywodraeth y DU yn gwarantu benthyciadau’r llywodraethau ar lefelau is.
  • Gan mai cyfran fach o economi’r DU yw cyllidebau’r gweinyddiaethau datganoledig, gellid dadlau ei bod yn annhebygol y bydd gwahaniaethau bach yn eu benthyca yn cael effaith uniongyrchol ar sefyllfa ariannol gyffredinol y DU.
  • Mae’n ddiddorol nodi bod Llywodraeth y DU yn argymell dilyn y modelau a ddefnyddir gan wledydd ffederal ar gyfer rheoli perthnasau cyllidol.

Fframweithiau cyllidol cyfredol yn yr Alban a’r DU

Safbwynt Llywodraeth y DU yn y Papur Gorchymyn

2.3.1. Seiliwyd fframwaith ariannol y DU ar y Siarter Cyfrifoldeb am Gyllidebau a asesir gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.

2.3.7. Ar hyn o bryd, mae fframwaith cyllidol yr Alban yn seiliedig ar y gofyniad yn Neddf yr Alban 1998 ar gyfer cyllideb gytbwys flynyddol. Daw’r arian drwy grant bloc fformiwla Barnett.

2.3.8. Bydd fframwaith cyllidol yr Alban yn cael ei ddiwygio gan Ddeddf yr Alban 2012 ar 1 Ebrill 2015. Bydd y grant bloc yn cael ei leihau er mwyn cymryd i ystyriaeth pwerau trethi datganoledig (treth stamp a threth dirlenwi), a bydd pwerau benthyca ehangach.

Perthnasedd i Gymru

  • Mae’r pwerau yn Neddf yr Alban 2012 yn debyg i’r pwerau yn Neddf Cymru 2014 a fydd yn weithredol yn 2018.
  • Mae ymholiad i Arferion Gorau o ran y Gyllideb yn ystyried sut i graffu ar y pwerau cyllidol cyfatebol.

Erthygl gan Richard Bettley, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.